Newid byd Hannah Stone: O'r delyn i'r gampfa

Hannah StoneFfynhonnell y llun, Hannah Stone
  • Cyhoeddwyd

O fyd cerddoriaeth glasurol i fyd y gampfa, mae bywyd Hannah Stone wedi newid yn llwyr yn y flwyddyn ddiwethaf.

Ar ôl cychwyn chwarae'r delyn yn wyth oed mi wnaeth y delynores o Dreboeth ger Abertawe gyrraedd y brig yn ei maes, gan deithio'r byd yn perfformio gyda amryw o gerddorfeydd yn ogystal â gweithio fel telynores i'r Tywysog Charles.

Ond erbyn hyn mae wedi troi i fyd ffitrwydd gan gymhwyso fel hyfforddwraig bersonol ac agor campfa o'r enw Arth ym Mhenarth ym mis Medi.

Bu'n trafod ei newid byd ar raglen Heledd Cynwal ar BBC Radio Cymru.

Dechreuodd diddordeb Hannah mewn ffitrwydd wedi iddi gyfarfod Laura Payne, y cyn-chwaraewr rygbi sy' wedi cael 33 cap dros Gymru. Dechreuodd Laura ei hyfforddi, fel mae'n sôn: "Tua pedair blynedd yn ôl, oedd Laura tu allan i meithrin fy mhlant.

"A hyd at hynny, o'n i wedi cadw'n heini, o'n i'n mynd i redeg, ond doedd gen i ddim amrywiaeth yn beth o'n i'n 'neud.

"Pan nes i gwrdd â Laura, nes i ddweud, 'ti'n ddigwydd bod yn personal trainer?' Oedd hi'n edrych yn ffantastig ac mae wedi gweithio yn y byd ffitrwydd am 15 mlynedd.

"Felly 'nes i ddechrau gweithio gyda hi a fel wnaeth yr amser fynd ymlaen, o'n i jest yn 'neud mwy a mwy ohono.

"Os o'n i ddim yn hyfforddi, o'n i'n meddwl am hyfforddi neu o'n i hefyd yn meddwl am yr her neu'r sialens nesaf o'n i am wneud, falle cystadleuaeth Crossfit neu Hyrox neu rhyw run neu be' bynnag. O'n i wastad yn meddwl am rhywbeth i wneud."

Hannah a Laura ar noson agoriadol y gampfaFfynhonnell y llun, Hannah Stone
Disgrifiad o’r llun,

Hannah a Laura ar noson agoriadol y gampfa

Penderfynodd Hannah taw'r cam nesaf oedd cael cymhwyster fel hyfforddwraig bersonol ac roedd y syniad o agor campfa yn apelio ati'n fawr: "O'n i rili yn licio helpu rhywun arall i ddechrau symud ac i ddechrau gweld beth mae'r corff yn gallu 'neud.

"Oedd y syniad yma o greu cymuned lle mae pobl yn gallu dod a theimlo fel bod nhw'n rhan o rywbeth gwahanol. Felly wnaethon ni ddechrau cerdded o gwmpas Penarth a sgwrsio a dweud, 'mae hwnna'n lle dda i gym'."

Ar ôl dod o hyd i'r lleoliad delfrydol dyma'r gampfa yn agor ddiwedd mis Medi ac mae Hannah'n cynnal dosbarthiadau ac yn gweithio fel hyfforddwraig personol yno.

Meddai: "Dwi'n cael imposter syndrome weithiau achos dwi'n meddwl, blwyddyn yn ôl dyna'i gyd o'n i'n ei wneud oedd chwarae'r delyn a nawr dwi dal yn chwarae delyn ond dwi'n gwneud rhywbeth hollol wahanol hefyd.

"Ond dwi wir yn mwynhau a dwi'n cael lot o bleser ac mae'n teimlo fel bod fi'n rhoi rhywbeth nôl mewn ffordd gwahanol, rhywbeth gwahanol i unrhyw beth dwi wedi 'neud o'r blaen."

Hannah StoneFfynhonnell y llun, Hannah Stone

Mae'n disgrifio'r gampfa fel cymuned: "Un o'r pethau 'dyn ni'n gweld, 'dyn ni wedi printio fe ar ein t-shirt ac ar y waliau: 'Ffitrwydd 'da ffrindiau'. Dyna ydy sylfaen yr holl beth. Gynna ni rhywbeth arall ar y wal sy'n dweud 'Ti, Fi, Ni'.

"'Dyn ni ddim rili'n annog pobl i ddod mewn i hyfforddi ar ben eu hunain. Mae pawb eisiau dod i wneud ddosbarthiadau a gweithio gyda'i gilydd."

Hannah a Bryn ar ddiwrnod eu priodasFfynhonnell y llun, Hannah Stone
Disgrifiad o’r llun,

Hannah a Bryn ar ddiwrnod eu priodas

Ac mae'r gampfa yn siwtio ei bywyd teuluol hi fel mam brysur i ddau o blant a gwraig i'r canwr Syr Bryn Terfel, meddai: "Dwi'n ffodus i wneud tipyn tra mae'r plant yn yr ysgol. Dwi ddim yn un sy'n hapus yn aros yn llonydd. So mae'n siwtio fi."

Ac er gwaethaf ei yrfa prysur yn canu ac, yn ddiweddar, yn ymddangos fel mentor ar raglen Y Llais ar S4C, mae Bryn ei gŵr hefyd wedi cael cyfle i ddod i'r gampfa: "Dwi'n dechrau cael dylanwad arno fe, dwi'n meddwl, yn ara' deg.

"Mae wedi dod (i'r gampfa), mae'n gefnogol iawn. Dwi'n meddwl mae e'n gweld faint mae cadw'n heini wedi newid fy mywyd i.

"Mae e wedi dechrau dod i'n dosbarthiadau cryfder ni. Dwi'n meddwl bod e'n mwynhau ond mae bach yn od os taw fi sy'n cymryd y dosbarth!

"Dyw e ddim yn gwrando cymaint i fi. So dwi'n meddwl bod e'n well bod e'n troi lan pan mae rhywun arall yn hyfforddi."

Hannah mewn digwyddiad HyroxFfynhonnell y llun, Hannah Stone
Disgrifiad o’r llun,

Hannah mewn digwyddiad Hyrox

Cydbwysedd

Mae Hannah dal i ganu'r delyn, meddai: "Ar ôl Covid, dwi wedi dechrau cael mwy o balans efo chwarae a byd teulu.

"Dwi'n ffodus, dwi'n cael chwarae gyda Bryn. Dyna dwi'n mwynhau gwneud. Dwi ddim yn 'neud cymaint ar ben fy hun rhagor. So pan mae'r cyfle'n dod i 'neud gyda Bryn, dwi'n neidio arni. Ac mae hwnna'n ffantastig. Ond mae yna gyfnodau tawel, ac wedyn cyfnodau prysur.

"Ni'n gweithio pethau allan fel mae amser yn mynd yn ei flaen. Ond am flynyddoedd dwi wedi bod yn chwarae pan mae'r plant yn y gwely. So dyw hwnna ddim rili wedi newid.

"Dwi'n dal i allu ymarfer pan mae rhywun yn cysgu a neud y gym yn ystod y dydd. Mae balans yna yn sicr."