'Dwi wrth fy modd' dod â gwobr yn ôl i Gymru - Ynyr Roberts
Mae Ynyr Roberts yn fwyaf adnabyddus am fod yn rhan o'r grŵp Brigyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor Ynyr Roberts, aelod o'r grŵp Brigyn, wedi ennill gwobr am gerddoriaeth annibynnol.
Daeth y Cymro'n fuddugol yng Ngwobrau AIM yn Llundain nos Fawrth, yr "alternative Brit awards, mewn ffordd", meddai.
Enillodd wobr yng nghategori'r artist annibynnol newydd sydd wedi cael ei chwarae fwyaf ar radio a theledu, a hynny am ei brosiect 'Popeth'.
Cafodd y noson wobrwyo ei chynnal yn y Roundhouse, Llundain, a dywedodd ar Dros Frecwast fod "cael y sylw mewn digwyddiad fel hyn - just 'di bod yn wych".

Dywedodd Ynyr fod y gwobrau'n dathlu artistiaid sy'n rhyddhau cerddoriaeth yn annibynnol
"Dwi tu allan i'r Roundhouse bore 'ma a braf 'di cael dathlu a bod yn rhan o ddigwyddiad mor fawreddog," meddai Ynyr.
"Dwi wrth fy modd cael dod â'r wobr yn ôl i Gymru. Oedd 'na enwa' mawr yn y sîn gerddoriaeth ymysg y rhai oedd wedi'u henwebu neithiwr."
Esboniodd fod y wobr yn dathlu artistiaid sy'n rhyddhau cerddoriaeth yn annibynnol.
"Gwobrau ydyn nhw sy'n rhoi sylw i artistiaid sydd ddim ar labeli mawr.
"Dyna be' 'da ni'n neud rhan fwya'r amsar yng Nghymru. Ma' bob label sydd hefo artist sy'n canu drwy'r iaith Gymraeg - yn label annibynnol," meddai.
'Cefnogaeth yn wych'
Ychwanegodd Ynyr, sydd o Lanrug yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, mai'r "gefnogaeth dwi 'di cael - dyna beth sy'n meddwl gymaint i fi".
"Ma'r gefnogaeth dwi 'di ei gael gan Radio Cymru, gan ffrindiau, teulu a Chymru gyfan ar gyfer y gerddoriaeth wedi bod yn wych ers i fi ddechrau prosiect Popeth."
Ychwanegodd fod dros 20 mlynedd bellach wedi pasio ers i fand Brigyn ddechrau a'u bod yn dal wrthi'n perfformio.
"Ma' 2025 'di bod yn flwyddyn go arbennig i ni yn dathlu," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd7 Medi 2024