Brigyn yn dathlu 20 mlynedd
- Cyhoeddwyd
“Doedd gyno ni ddim bwriad o gwbl i gigio, na mynd a fo’n bellach na casgliad o ganeuon.”
A hithau’n 20 mlynedd ers rhyddhau’r record gyntaf, mae’n syndod clywed Ynyr Roberts, yr hynaf o frodyr Brigyn, yn dweud nad oedd y prosiect i fod yn ddim byd mwy na “one-off.”
Ar y pryd roedd y ddau frawd o Lanrug yn rhan o’r band Epitaff oedd yn canu caneuon poblogaidd fel Geiriau, Troi Mewn Cylchoedd a Cae Chwarae.
Ond yn ôl Eurig roedden nhw’n gweld fod Epitaff yn dod i ddiwedd ei “shelf life” yn enwedig gan fod aelodau’r band a oedd wedi ffurfio yn Ysgol Brynreifail bellach yn y coleg, yn dechrau gyrfaoedd a swyddi gwahanol.
“Oedd y caneuon oeddan ni’n sgwennu adag hynny, yn haf 2004, yn wahanol iawn. Roeddan nhw’n syniadau o lwpio telyn efo ryw beats eitha urban.
"Oedden ni’n gweld bod y gerddoriaeth ’ma o’n i’n gyfansoddi yn ddiarth iawn o’i gymharu â be’ oeddan ni wedi bod yn ’neud.”
Ac felly dyma ei ryddhau fel Brigyn. Wel... bron iawn.
Anfonodd y ddau gopi o’r caneuon at BBC Radio Cymru a glaniodd y CD ar ddesg un o’r cyflwynwyr ar y pryd, Owain Gwilym.
“Naethon ni handio fo i Radio Cyrmu fel Ynyr ac Eurig Roberts. Ac Owain Gwilym 'naeth ddeud, ‘Fedrwch chi’m alw fo yn Ynyr ac Eurig. 'Da chi angen brand.’
"’Naeth o dd’eud, ‘dal arni, ‘nai feddwl am enw i chi a ddo’ i’n ôl.’"
Cadwodd at ei air a ganed yr enw Brigyn – sy’n llawer clyfrach nag y mae’n ymddangos.
“Ddaeth Owain fyny efo y ‘rig’ o Eurig, ‘yn’ o Ynyr a ‘b’ am brodyr i wneud brigyn.”
Roedd y ddau yn gytûn ei fod yn gweddu gan fod “y gerddoriaeth yn rhyw fath o acwstig ac eitha wholesome. Oedd rhywbeth efo natur a coed yn gweddu.”
Wrth edrych yn ôl mae Ynyr ac Eurig yn gweld cael yr enw fel y cam cyntaf o bwys ar eu taith. Daeth yr ail un yn sgil trychineb y tsunami yn Sri Lanka ar ddydd gŵyl San Steffan yn 2004.
Dywedodd Eurig: “Roedd Mici Plwm yn trefnu gig elusennol [i godi arian i’r gronfa gymorth] yn Venue Cymru a gawson ni gynnig chwarae.”
Ychwanegodd Ynyr: “Doedd dim bwriad o 'neud sioeau byw, ond oedd o jyst fel ‘ia, ’nawn ni 'neud hyn’. Ond dw i’n meddwl oedd yr ymateb gafon ni i 'neud sioeau byw cynnar ’na, a’r ymateb efo radio yn rheswm i gario ’mlaen.”
Ac ar ôl y perfformiad cyntaf hwnnw fel Brigyn daeth mwy o gyfleoedd, a chyn pen dim albym arall – Brigyn 2.
“Dw i’n meddwl o fewn llai na blwyddyn oedd albym arall allan,” meddai Ynyr, ac mae Eurig yn prysuro i ddweud ei fod o’n meddwl mai datblygiadau technoleg a gallu recordio adref oedd yn rhannol gyfrifol am hynny:
“Dw i’n meddwl oedd y scene indie oedd wedi dod o ddiwedd y 90au yn dod i ben beth bynnag, ond y ffordd oeddan ni’n recordio miwsig oedd y newid mwya’ i ni.
"Wrth recordio efo Epitaff oedd o’n broses mor hir, ond ddaeth technoleg i mewn lle oedda chdi’n recordio a gweld audio clips ar dy sgrin, ac aeth recordio miwsig yn rhywbeth lot cynt a gweledol.”
Ychwanegodd Ynyr, “Ella, oeddan ni slightly ar flaen y gad yn fanna gan bod y ddau ohonan ni’n ddylunwyr ac yn hoffi technoleg a petha’. Dw i’n meddwl oedd o’n rhyw gam naturiol ymlaen i fynd lawr y lôn yna – oedd yn grêt, doedda chdi’m yn mynd yn orbryderus am 'the difficult second album', oddat ti jyst yn ’neud o ar liwt dy hun.”
Gyda dau albwm allan o fewn blwyddyn, fe aeth pethau’n eithriadol brysur i’r brodyr a daeth cyfleoedd di-ri y maen nhw dal yn ddiolchgar amdanynt.
“Dw i’n siŵr bod ni wedi dod i ’nabod Cymru yn dda, yn mynd i bob twll a chornel o Gymru yn ystod y cyfnod yna o bum mlynedd rhwng 2005 a 2010.
“Dros yr ugain mlynedd mae’r holl gyfleon ’dan ni ’di gael yn anhygoel, a’r holl bobl ’dan ni wedi gweithio efo nhw. Unwaith wnaethon ni yr albym Ailgylchu (casgliad o ailgymysgiadau) ’naethon ni weld bod ni’n hoffi cydweithio.”
O hynny ymlaen mae’r ddeuawd wedi cydweithio â nifer o bobl.
“Ar Brigyn 3 mi weithion ni efo Siân James a lot o gerddorion gwerinol, Steve Balsamo, a Dave Wrench.”
Ond bosib mai yn 2008, ar ôl gwaith hyrwyddo Brigyn 3, y daeth y cydweithio – o fath – wnaeth newid pethau eto fyth i Brigyn.
“Dyma ni’n cael yr alwad gan Sony yn dweud bod Leonard Cohen yn hapus i ni ryddhau fersiwn Gymraeg o Hallelujah.”
Roedden nhw wedi recordio’r gân yn 2005 ac wedi’i pherfformio’n fyw sawl gwaith gan gynnwys mewn sesiwn fyw i BBC 6Music ond bu’r broses o gael caniatâd i’w rhyddhau hi yn un hir.
Erbyn cael y golau gwyrdd, roedd rhywun arall wedi bachu ar y cyfle i ailrecordio’r gân hefyd...
“Dw i’n cofio oedd pobl wedi dechra’ siarad ar yr internet [ar ôl y sesiwn 6Music] ‘have you heard this Welsh version of Hallelujah? It could be a Christmas number one.’
“Oedd pobl yn dechrau siarad, pobl random jyst wedi clywed y sesiwn ’naethon ni. A wedyn gawson ni’r hawl i’w ryddhau hi o’r diwedd.
“Ac wythnos wedyn ddaeth X Factor a dweud mai dyna cân yr enillydd y flwyddyn yna. Ac oeddan ni’n teimlo fel ‘mae’n mynd i edrych fel bo ni’n jympio ar bandwagon X Factor’”
Doedd gan Ynyr ac Eurig erioed fwriad iddi fod yn sengl Nadolig ond dyna sut ddaeth pethau at ei gliydd ac maen nhw’n ddiolchgar iawn am hynny gan fod rhyddhau’r gân ar yr adeg yna, pan oedd hi "yn bob man" wedi rhoi hwb arall iddyn nhw ar eu siwrna.
“Dw i’n meddwl oedd bod yng nghanol y storm yna’n grêt, oedd o jyst yn anhygoel i ni.
“Yn ystod haf 2008 nathon ni gig yn y Bull yn Llangefni a doedd ’na prin neb yno. ’Naethon ni un arall tua tri mis wedyn [ar ôl rhyddhau Haleliwia] ac oedd hi’n orlawn yno. Mae’n dangos i chdi be’ mae cân yn gallu 'neud i fand neu i sefyllfa.”
Yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny mi aeth Brigyn nid yn unig i bob twll a chornel o Gymru ond i nifer o lefydd o amgylch y byd.
Teithion nhw i’r Iseldiroedd, i San Francisco, i Batagonia a hyd yn oed gwneud gig mewn carchar yn Lloegr.
Erbyn cyrraedd eu degfed pen-blwydd yn 2014 roedd gan Brigyn gasgliad arall o ganeuon i'w rhyddhau sef Brigyn 4. Yn debyg iawn i’r hyn wnaethon nhw gyda’r ddau albym cyntaf fe ryddhaon nhw gasgliad arall yn fuan wedyn, sef Dulog.
Roedd sawl trac oddi ar Dulog yn cyd-fynd â 150 o flynyddoedd ers i’r Mimosa hwylio i Batagonia. Mae Ynyr ac Eurig yn cofio un o’r deuawdau mwyaf trawiadol oddi ar yr albym hwnnw sef gyda’r brodyr Alejandro a Leonardo Jones o’r Wladfa.
“Oedd ein rhieni ni’n byw yn Patagonia yn y Wladfa yn 2010 am flwyddyn. Aethon ni’n dau yno yn Chwefror 2010
“Oedd Mam wedi clywed Alejandro yn canu ‘rhyw gân rili neis’ a dweud ‘ddylia chi neud fersiwn Gymraeg ohoni.’ Felly ’naethon ni.”
Ond roedd angen cyffyrddiad hud cyfansoddwr y gân, Alejandro, i gwblhau'r trac a fe geisiodd Ynyr gael gafael ar y brodyr i recordio pennill neu ddau.
“Oedd trio cael gafael ar y ddau frawd [tra roedden nhw yng Nghymru] yn crazy! Oeddan nhw yma am dair wythnos a’u schedule nhw mor dynn!
“’Nes i lwyddo y diwrnod oeddan nhw’n hedfan yn ôl i gael awr o’u hamser nhw y bora yna. ’Naeth y ddau ganu, ond cael a chael oedd hi!”
Un albym arall sydd wedi bod ers Dulog, sef Lloer, ond er hynny mae Brigyn wedi parhau i gigio’n rheolaidd.
“Dan ni wedi troi o fod yn bedroom producers i fod yn berfformwyr dros yr 20 mlynedd.
“Dw i’n cofio cael tip gan John Hywel, oedd yn gweithio i PRS, pan oeddan ni’n dechrau Brigyn yn deud ‘mae pobl isio dy weld di’n gweithio’n galed ar llwyfan’ a dw i wastad wedi cadw hynna mewn cof, bod 'na rywbeth ti’n gallu ei uniaethu efo dy dorf. Os ydyn nhw’n gweld chdi’n chwarae’n fyw ac yn chwysu ac yn gweithio’n galed 'nawn nhw werthfawrogi.”
Felly beth sydd ar y gweill i nodi’r ugain mlynedd?
“’Dan ni am drin o, rhwng Tachwedd 1 2024 a Tachwedd 1 2025, fel blwyddyn o ddathlu.
“Dw i’n gobeithio mai cân mae pobl isio felly dyna be' ydi’r nod!
“Be’ sy’n neis ydi ein bod ni’n dal i fwynhau. ’Sna ddim byd gwell na g’neud gig a chael treulio amser efo Eurig!”
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 Medi
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl