Nifer y bobl ifanc sy'n chwarae dartiau wedi dyblu mewn blwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl ifanc sy'n chwarae dartiau wedi dyblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl sefydliad dartiau.
Mae Corfforaeth Dartiau Ieuenctid y JDC yng Nghymru yn honni fod dartiau'n un o'r campau sy'n tyfu gyflymaf ymysg pobl ifanc.
Daw hynny ers i Luke Littler, y gŵr ifanc yn ei arddegau, gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaethau Dartiau'r Byd ym mis Ionawr 2024.
Gyda'r bencampwriaeth bellach wedi dechrau unwaith eto yn yr Alexandra Palace yn Llundain, a Luke Littler wedi cipio teitl Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn y BBC a dod yn ail yn y prif gategori hefyd mewn seremoni nos Fawrth, y disgwyl gan rai ydy y bydd y gamp yn parhau i fynd o nerth i nerth.
Mae dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi bod yn rhoi sylw mawr i'r gamp, gan ychwanegu at y bwrlwm o fewn y byd dartiau.
Mae clwb dartiau ieuenctid newydd yng Ngwalchmai ar Ynys Môn yn gweld llu o blant a phobl ifanc yn cyfarfod yn wythnosol i chwarae'r gamp.
Bu'r clwb yn llwyddiannus eleni wrth iddyn nhw ennill yng nghynghrair dartiau Caergybi.
"Mae'n bach o hobi gan rai, ond eraill isio'i neud yn broffesiynol," meddai Billy, sy'n 13 oed.
"Bob dydd Mawrth 'da ni'n dod yma, chwarae darts, weithiau league, dibynnu ar faint sydd yn dod.
"Ar ôl gweld Luke Littler ar y World Championship, efo'i oed, yn 16 yn cyrraedd y ffeinal... mae'n rili da."
Yn ôl Billy, mae'n hanfodol bod clwb a chynghrair lleol ym Môn.
"Mae'n rili pwysig, er mwyn i bobl ddangos pa mor dda ydyn nhw, a dangos be' maen nhw'n gallu 'neud," meddai.
Un arall sy'n rhan o'r clwb yng Ngwalchmai ydy Catrin, sy'n 17 oed.
"Mi faswn i'n hoffi gweld mwy [o ferched] yn chwarae," meddai.
"Dwi'n meddwl mae 'di bod yn gêm lle mae'r rhan fwyaf yn ddynion, ond yn yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae 'na fwy o genod yn chwarae.
"'Dwi'n mwynhau chwarae darts, achos mae'n rhedeg yn y teulu, ac o'n i'n meddwl 'sa well i mi gael mwy o hyder drwy chwarae gyda phobl dwi ddim yn 'nabod.
"Ar y funud mae o fel hobi i fi, ond mi fasa'n neis chwarae i rywbeth mwy, ond ar y funud, mae'n braf 'neud o fel hobi."
Cafodd rownd derfynol Pencampwriaeth Dartiau'r Byd ym mis Ionawr 2024 ei gwylio gan 3.7 miliwn o bobl.
Dyma'r gynulleidfa fwyaf erioed i ddarllediad Sky Sports ar gyfer digwyddiad sydd ddim yn bêl-droed.
Yn ogystal â ffigyrau gwylio uchel, mae gwerthiant tocynnau a diddordeb ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi cynyddu, gyda dylanwadwyr ar-lein yn helpu gyda'r twf.
Dywedodd Lisa Thomas, rheolwr JDC Cymru: "Mae'r twf o fewn chwe mis wedi bod yn anhygoel.
"Rydym angen mwy o ardaloedd i ddechrau academïau rŵan oherwydd y galw."
Ychwanegodd Ms Thomas fod un clwb yng Nghwm Taf bellach yn llawn, gan ddweud: "Mae'n rhaid i mi wrthod pobl oherwydd bod ein llyfrau ar gau.
"Mae 'na academi arall yn Llantrisant dwi'n cyfeirio pobl ati. Mae wedi bod yn werth chweil hefyd i weld y bobl ifanc yma'n datblygu.
"Mae hi wastad yn llawn dop yma ar nosweithiau Llun, does neb byth yn colli sesiwn."
Ategu'r sylwadau hynny mae Dylan Williams o Darts Cymru.
"Ers Nadolig diwethaf, wrth gwrs daeth Luke Littler ar y llwyfan," meddai.
"Crwt ifanc yn dod mewn i gamp lle mae dynion wedi bod yn chwarae ers rhyw 20 mlynedd, ac fe wnaeth o droi'r gêm ar ei phen.
"Ers hynny, mae'r gamp wedi ffrwydro, ac mae ei ddylanwad wedi mynd ag e i lefel gwbl wahanol."
Mae Mr Williams wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n dilyn y gamp ac yn ei chwarae - "yn enwedig bechgyn a merched ifanc sydd nawr yn hytrach na mynd i chwarae rygbi neu bêl-droed yn edrych am glwb dartiau lleol".
Ychwanegodd: "Mae 'na stereoteip does - cornel dywyll o dafarn, dynion a boliau mawr a phennau moel - ond mae 'na bobl ifanc rŵan, maen nhw fel athletwyr, ac maen nhw'n dda yn feddyliol."