Cais i ddenu ffeinal Cynghrair Pencampwyr y merched i Gaerdydd

Gareth Bale yn dathlu wedi iddo ennill Cynghrair Pencampwyr y dynion yng Nghaerdydd yn 2017
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi dweud y bydd yn gwneud cais swyddogol i gynnal rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y merched yng Nghaerdydd yn 2027.
Dywedodd y gymdeithas ddydd Mercher eu bod yn gobeithio gallu denu'r ffeinal i Stadiwm Principality ymhen tair blynedd.
Dim dyma fyddai'r tro cyntaf i rownd derfynol y gystadleuaeth gael ei chynnal yng Nghaerdydd - nôl yn 2017 cafodd y gêm ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Cafodd ffeinal cystadleuaeth y dynion - rhwng Real Madrid a Juventus - ei chynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn honno hefyd, a hynny yn Stadiwm Principality.

Lyon enillodd Cynghrair Pencampwyr y merched yn 2017 pan oedd y rownd derfynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd
Yn ôl CBDC, mae'r gemau hynny yn brawf o allu'r ddinas i gynnal digwyddiadau mawr.
"Mae rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y merched yn un o'r digwyddiadau mwyaf ym mhêl-droed Ewropeaidd, a byddai denu'r gêm i Gaerdydd yn 2027 yn gamp arbennig i Gymru all ysgogi rhagor o ddatblygiad o ran gem y merched yma," meddai'r gymdeithas.
Mae tri lleoliad arall hefyd wedi mynegi diddordeb mewn cynnal y gêm - y Stadiwm Cenedlaethol yn Warsaw, Gwlad Pwyl, y Camp Nou yn Barcelona, Sbaen a Pharc St Jakob yn Basel, Y Swistir.
Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr gyflwyno cais ffurfiol erbyn Mawrth 2025, a bydd y cais llwyddiannus yn cael ei gadarnhau gan bwyllgor gweithredol UEFA ym mis Mai y flwyddyn nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2023