Cadarnhad y bydd y DU ac Iwerddon yn cynnal Euro 2028

  • Cyhoeddwyd
Capten Cymru, Aaron Ramsey, gyda chapteiniaid y gwledydd eraill - Harry Kane (Lloegr), Seamus Coleman (Iwerddon), Andy Robertson (Yr Alban), a Steven Davis (Gogledd Iwerddon) yn lansio'r cais i gynnal Euro 2028Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gemau Euro 2028 yn cael eu cynnal mewn 10 o stadiymau gwahanol ar hyd y DU ac Iwerddon

Mae UEFA wedi cadarnhau y bydd pencampwriaeth Euro 2028 yn cael ei chynnal yng ngwledydd y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Mae adran chwaraeon y BBC ar ddeall y bydd gêm a seremoni agoriadol y gystadleuaeth yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.

Er nad oes sicrwydd ynglŷn ag union nifer y gemau eto, y gred yw y bydd hyd at chwe gêm yn cael eu chwarae yn Stadiwm Principality.

Y DU ac Iwerddon oedd yr unig rai i wneud cais swyddogol i gynnal Euro 2028, ar ôl i Dwrci dynnu eu cais nhw yn ôl yr wythnos ddiwethaf.

Daeth cadarnhad hefyd ddydd Mawrth mai'r Eidal a Thwrci fydd yn cyd-gynnal Euro 2032.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cyn-gapten Cymru, Gareth Bale, ym mhencadlys UEFA yn Nyon ar gyfer y seremoni ddydd Mawrth

Bydd gemau Euro 2028 yn cael eu cynnal mewn 10 o stadiymau gwahanol, gan gynnwys Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, Parc Hampden yng Nglasgow, Stadiwm Aviva yn Nulyn a Wembley yn Llundain.

Mae Parc Casement yn Belfast a stadiwm newydd Everton yn Lerpwl hefyd wedi'u cynnwys yn y cais, er nad yw'r gwaith adeiladu ar y meysydd hyn wedi ei gwblhau.

Y gred yw mai stadiwm Wembley yn Llundain fydd yn cynnal y rownd derfynol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er y cais llwyddiannus, does dim sicrwydd y bydd tîm Cymru yn chwarae yn y gystadleuaeth ar hyn o bryd

Fel arfer mae'r genedl sy'n cynnal twrnament mawr fel yr Ewros yn gymwys yn awtomatig - ond gyda phum gwlad yn cynnal Euro 2028, mae yna ormod o wledydd i UEFA ildio pum lle awtomatig.

Mae disgwyl felly y bydd rhaid i'r pum gwlad gymryd rhan mewn gemau rhagbrofol, ond bydd dau le yn cael eu cadw ar gyfer y gwledydd sy'n cynnal.

Er enghraifft, os yw tair gwlad yn gwneud yn ddigon da i gyrraedd y bencampwriaeth ar eu liwt eu hunain, yna bydd y ddau le awtomatig yn mynd i'r ddwy wlad sydd heb gyrraedd y nod.

Ond pe bai ond dwy wlad yn llwyddo yn y ffordd arferol - bydd un wlad yn colli allan.

Ffynhonnell y llun, Bronwyn Weatherby | PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gyfle cyffrous i arddangos yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mae gan Gymru eisoes enw da ar y llwyfan rhyngwladol am ei gallu i gynnal digwyddiadau mawr.

"Mae'r newyddion yma yn cynnig cyfle cyffrous i ni allu arddangos yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig," meddai.

Ychwanegodd fod cynnal Euro 2028 yn "garreg filltir arall i chwaraeon yng Nghymru", a'i fod yn "hyderus mai Euro 2028 fydd y bencampwriaeth orau eto".

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas fod hyn yn newyddion ardderchog, nid yn unig i Gaerdydd, ond i Gymru hefyd.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr - gyda llawer o'r rheiny yn debygol o fod yn teithio yma am y tro cyntaf," meddai.

"Mae'n gyfle i atgoffa'r byd o ba mor anhygoel ydy Caerdydd... dinas groesawgar a chynnes, awyrgylch unigryw a phoblogaeth angerddol sy'n caru'r gêm."

'Diwrnod hanesyddol'

Mae Undeb Rygbi Cymru, sy'n berchen ar Stadiwm Principality, wedi croesawu'r cyhoeddiad, gyda phrif weithredwr dros dro'r undeb yn ei ddisgrifio fel "diwrnod hanesyddol yn hanes chwaraeon Cymru".

Dywedodd Nigel Walker: "Rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at gael chwarae ein rhan yn sicrhau bod Euro 2028 yn llwyddiant, drwy gydweithio â'n partneriaid o fewn Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

"Rydyn ni'n gallu cynnig profiad arbennig i gefnogwyr, cae o'r safon uchaf a tho y mae modd ei agor a'i gau - a hyn oll yng nghanol bwrlwm y brifddinas.

"Eisoes rydyn ni wedi gweld yr effaith mae cynnal digwyddiadau chwaraeon yn ei gael ar Gaerdydd a'r ardaloedd cyfagos, a ni fydd Euro 2028 yn wahanol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr 2017 ei chynnal yn Stadiwm Principality

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies: "Mae'n newyddion gwych y bydd y DU ac Iwerddon yn cynnal Euro 2028.

"Mae'n golygu y bydd gemau'n cael eu cynnal yn ein stadiwm cenedlaethol a bydd Caerdydd a Chymru yn elwa o'r sylw a nifer yr ymwelwyr sy'n dod gyda chynnal digwyddiad gwirioneddol fawr fel hwn.

"Fe deithiodd cefnogwyr Cymru yn eu miloedd i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd y llynedd, o amgylch Ewrop ar gyfer Euro 2021 ac i Ffrainc ar gyfer Euro 2016...

"Mae'n wych y bydd gemau yn 2028 yn cael eu cynnal gartref yng Nghymru, ac rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi cefnogi'r cais buddugol".