Beth fydd cynnal Euro 2028 yn ei olygu i Gymru?
- Cyhoeddwyd
Ar ôl cynnal Cwpan Ryder y byd golff a Chynghrair y Pencampwyr pêl-droed, mae Cymru wedi cael ei chadarnhau fel un o'r gwledydd fydd yn cynnal Euro 2028.
Mae adran chwaraeon y BBC ar ddeall y bydd gêm a seremoni agoriadol y gystadleuaeth yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.
Gwledydd y Deyrnas Unedig ac Iwerddon oedd yr unig gais ar ôl i gynnal y bencampwriaeth ar ôl i Twrci dynnu eu cais nhw yn ôl yr wythnos ddiwethaf, ac fe gafodd y cyhoeddiad swyddogol ei wneud mewn cyfarfod UEFA yn y Swistir ddydd Mawrth.
Yn ogystal a gêm agoriadol Euro 2028, mae Cymru yn gobeithio cynnal phum gêm arall yng Nghaerdydd hefyd.
Hwn fydd y prif ddigwyddiad chwaraeon diweddaraf yn Stadiwm Principality, sy'n cynnwys rowndiau terfynol Cwpan FA Lloegr a Chwpan Rygbi'r Byd.
Ond pa effaith fydd hyn yn ei gael ar gefnogwyr pêl-droed?
Fydd pob gwlad sy'n cynnal gemau yn cymryd rhan?
Fel arfer mae'r genedl sy'n cynnal twrnament mawr fel yr Ewros yn gymwys yn awtomatig - fel Yr Almaen ar gyfer Euro 2024 y flwyddyn nesaf.
Ond gyda phum gwlad yn cynnal Euro 2028, mae yna ormod o wledydd i UEFA ildio pum lle awtomatig.
Felly mae'n rhaid i'r pum gwlad gymryd rhan mewn gemau rhagbrofol - ond cedwir dau le ar gyfer y gwledydd sy'n cynnal - felly mewn egwyddor gallai'r pump gymryd rhan, neu dim ond dau.
Os yw tair gwlad yn gwneud yn ddigon da i gyrraedd y bencampwriaeth ar eu liwt eu hunain, yna bydd y ddau le awtomatig yn mynd i'r ddwy wlad sydd heb gyrraedd y nod.
Ond pe bai ond dwy wlad yn llwyddo yn y ffordd arferol - bydd un wlad yn colli allan.
Felly'r unig sicrwydd sydd gan gefnogwyr o weld Cymru'n chwarae mewn twrnament mawr yn eu gwlad eu hunain yw cymhwyso trwy eu grŵp rhagbrofol.
Faint o gemau Euro 2028 fydd yng Nghymru?
Yr unig sicrwydd yw y bydd Caerdydd yn bendant yn cynnal gemau - mae'r union nifer eto i'w benderfynu, ond y gobaith yw y bydd Stadiwm Principality yn cynnal chwe gêm yn ystod y twrnament.
Roedd y stadiwm - sydd â 74,000 o seddi - yn cynnal digwyddiad agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012, ac nawr mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisiau i Gaerdydd hefyd gynnal gêm agoriadol Euro 2028, yn ogystal â gemau yn rowndiau olaf y gystadleuaeth.
"Rydyn ni'n gobeithio cael gêm gyntaf Euro 2028 yn Stadiwm Principality," meddai prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney.
"Rydym wedi cynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, ond byddai cynnal yr Ewros yng Nghymru yn wych."
Er mai Caerdydd yw'r ail ddinas leiaf fydd yn cynnal Ewro 2028, Stadiwm Principality yw'r ail arena fwyaf, ac mae eisoes wedi cynnal rowndiau terfynol Cwpan yr FA a Chwpan Rygbi'r Byd, yn ogystal â ffeinal Cynghrair y Pencampwyr rhwng Real Madrid a Juventus yn 2017.
"Gyda Chaerdydd gyda stadiwm yng nghanol y ddinas, a Wembley yn fwyaf tebygol o gynnal y rownd derfynol, fe fyddai hynny'n gyrchfan wirioneddol dda ar gyfer y gêm agoriadol," ychwanegodd Mooney.
"Mae 'na lot o drafodaethau o'i gwmpas, ond dwi'n meddwl ein bod ni mewn sefyllfa dda i wneud hynny - ac rydyn ni'n gobeithio cael Cymru yn cychwyn yn gêm gyntaf Euro 2028."
Pa stadia fydd yn cynnal gemau Euro 2028?
Bydd gemau rowndiau terfynol 2028 yn cael eu cynnal mewn 10 o stadiymau gwahanol, gan gynnwys Parc Hampden Glasgow, Stadiwm Principality Caerdydd, Stadiwm Aviva Dulyn a Wembley yn Llundain.Mae Parc Casement Belfast a Doc Bramley-Moore Everton yn Lerpwl hefyd wedi'u cynnwys yn y cais, er nad yw'r stadiwm yng ngogledd Iwerddon wedi ei adeiladu eto, ac mae 'na waith o hyd i orffen y maes yn Lerpwl.
Stadiwm Tottenham Hotspur yw'r maes arall yn Llundain sy'n rhan o'r cais, gyda Stadiwm Etihad Manceinion, Parc St James yn Newcastle a Pharc Villa yn Birmingham, fydd, ymhen pum mlynedd wedi ei ailddatblygu.
Mae cais Euro 2028 y DU ac Iwerddon bellach yn rhedeg yn ddiwrthwynebiad ar ôl i Dwrci dynnu'n ôl o'r broses yr wythnos ddiwethaf.
Unodd Twrci eu cais Euro 2032 â'r Eidal ym mis Gorffennaf, ac mae disgwyl cadarnhad mai nhw fydd yn cyd-gynnal y twrnament hwnnw.
Pryd gall cefnogwyr gael tocynnau Euro 2028?
Mae'r newyddion o bencadlys UEFA yn Nyon yn un cyffrous, ond ni fydd tocynnau ar werth am rai blynyddoedd eto.
Gan ddefnyddio Euro 2024 fel canllaw, dim ond ers wythnos mae tocynnau'r gystadleuaeth ar werth - rhyw wyth mis cyn y gic gyntaf.
Mae trefnwyr wedi dweud y bydd mwy o docynnau ar gael ar gyfer Euro 2028 yn y DU ac Iwerddon nag a fyddai wedi bod ar gyfer unrhyw bencampwriaeth flaenorol - bron i dair miliwn - gan y bydd capasiti stadia o 58,000 ar gyfartaledd.
Fydd Euro 2028 yn cael effaith ar economi Cymru?
Mae arbenigwyr yn credu y gall digwyddiadau yn Stadiwm Principality gynhyrchu rhwng £20m a £42.5m i economi Cymru, gyda gwestai, bwytai, bariau, siopau a darparwyr trafnidiaeth yn elwa drwy'r mewnlifiad o ymwelwyr.
Cafodd economi ardal de Cymru hwb ariannol o dros £40m drwy gynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2017.
Yn fwy diweddar, cynhyrchodd sioe WWE 'Clash at the Castle' yn Stadiwm Principality £21.8m ar ôl i 60,000 o gefnogwyr reslo gyrraedd Caerdydd ym mis Medi 2022.
Er bod y gystadleuaeth yn ymddangos yn bell iawn i ffwrdd, mae cefnogwyr pêl-droed - a phobl busnes - yn llyfu gweflau, gan groesi bysedd hefyd y bydd y tîm cenedlaethol yn cael chwarae yng Nghaerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023