Cyhuddo dyn mewn cysylltiad â dymchwel achos Dyffryn Aman

- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â dymchweliad achos llys yn dilyn achos o drywanu yn Ysgol Dyffryn Aman.
Cafodd merch 14 oed a drywanodd dwy athrawes a disgybl yn yr ysgol ddedfryd 15 mlynedd yr wythnos hon.
Cafodd yr achos gyntaf ei chwalu fis Hydref oherwydd "anghysondeb mawr yn y rheithgor" yn ôl y barnwr.
Fe wnaeth yr ail achos gychwyn ym mis Ionawr cyn dod i derfyn yr wythnos hon.
Mae Christopher Elias, 45 oed o Waunceirch, wedi ei gyhuddo o beidio ag ateb cwestiwn yn ymwneud â bod yn gymwys i wasanaethu ar reithgor.
Daw'r cyhuddiad o dan Ddeddf Rheithgorau 1974, sy'n nodi gofynion ynghylch pwy sy'n gymwys i wasanaethu ar reithgor yng Nghymru a Lloegr, ac yn caniatáu i swyddogion llys ofyn cwestiynau i aelodau posibl i sefydlu a ydynt yn gymwys i ffurfio rhan o reithgor ai peidio.
Fe wnaeth Mr Elias ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ar 23 Ebrill, a bydd yn ymddangos yn y llys unwaith yn rhagor ar 14 Mai.
Cafodd yr athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin a disgybl eu hanafu yn y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman fis Ebrill y llynedd.
Cafodd y ferch, na allwn ei henwi am resymau cyfreithiol, ddedfryd 15 mlynedd.