Cofio rhain? Lluniau ac atgofion o'r Ring, Llanfrothen yn y 90au
- Cyhoeddwyd
Ar draws Cymru mae ‘na dafarndai sy'n adnabyddus am fod wrth galon y gymuned Cymraeg ac yn llefydd da am sgwrs, cerddoriaeth a digon o hwyl – ac mae'r 'Ring', Llanfrothen, yn un ohonyn nhw.
Wythnos yn unig ers apelio am addewidion ariannol i geisio prynu les 56 mlynedd y Brondanw Arms, mae'r pwyllgor lleol wedi cyrraedd eu targed ac yn paratoi i wneud cynnig.
Yn y cyfamser, dyma luniau ac atgofion o'r dafarn yn yr 1990au sy’n dangos beth mae'r grŵp cymunedol yn gobeithio ei adfer.
Fe gafodd y lluniau eu tynnu gan Emlyn Roberts pan oedd o’n rhedeg y dafarn rhwng 1990-2002 – y cyntaf o dri chyfnod iddo fod yn dafarnwr yn Y Ring.
“Adeg yna doedd na’m ffasiwn beth â cameras mobile ffôn felly o'n i’n tynnu lluniau, gyrru'r ffilm i ffwrdd a chael y lluniau nôl drwy’r post,” meddai.
”Doedd ‘na ddim byd crand, dim fframiau i’r llunia o gwbl – roedden nhw’n dechra’ wrth y ceiling a dod lawr y wal i gyd. Roedd pobl wrth eu boddau yn gweld eu gwynebau nhw ar y lluniau.”
Fe wnaeth Emlyn, sydd yn dal i fyw yn y gymuned, fagu ei blant tra'n rhedeg y dafarn.
Meddai: “Roedd o jest yn adeg sbeshal, roedd pawb yn dod allan. Os o’n i’n creu noson neu gynnal rhyw ddigwyddiad roedd y gefnogaeth yn anhygoel.
"Os o’n i’n deud bod ‘na fancy dress neu rywbeth dros Dolig doedd o ddim byd i chdi gael 200 o bobl yno. Doedd o ddim yn teimlo fel job, roedd o’n rhan ohona i."
Yn yr 1990au roedd Y Ring yn lleoliad da iawn i weld cerddoriaeth byw gyda cherddorion fel Tich Gwilym, Geraint Jarman a Bryn Fôn wedi perfformio yno, meddai Emlyn.
“Roedd o jest yn rywle roedd pobl eisiau dod achos roedd y gefnogaeth mor dda," eglurodd.
"Weithiau pan ti’n trefnu noson ti’n rhyw obeithio dy fod di’n mynd i werthu digon o docynnau – ond roedd pob nos yn llawn."
Dafydd Emlyn Thomas, sy'n byw yn yr ardal, ydi cadeirydd y pwyllgor sy'n gobeithio rhedeg y dafarn yn y dyfodol.
Meddai: "Ddaeth y miwsig yn rhan o’r lle, a sesiynau jamio.
"Roedd hogia' Anweledig yn arfer rhentu tŷ yn y stad ac roeddan nhw'n dod yma. Yn ddiweddar roedd y miwsig wedi dod yn rhan bwysig eto – nesh i fynd yno ar ryw nos Iau ac roedd y lle yn llawn dop, Gwilym Bowen Rhys ac ambell un arall yn perfformio."
Cadarnhaodd Dafydd wrth Cymru Fyw bod y pwyllgor bellach wedi llwyddo i gasglu digon o addewidion am arian i fedru prynu'r les a bod disgwyl i'r cynnig gael ei roi mewn yn y dyddiau nesaf.
"Roedd o'n dafarn cymunedol Cymraeg, roedd 'na ymwelwyr yn dod hefyd, a chefnogaeth lleol drwy'r flwyddyn," meddai Emlyn.
"Roeddan ni’n cael haf a Pasg da, ac yn gwneud bwyd, ond pan oedd y gaeaf yn dod roeddan ni’n mynd o gael nos Sadwrn da i gael nos Sadwrn well."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2023