Fic Llithfaen: 'tafarn gymunedol hynaf Ewrop... a gorau Cymru'

  • Cyhoeddwyd

Wrth i'r Fic Llithfaen ddathlu cael ei henwi'n dafarn orau Cymru, Cymru Fyw fu draw i Ben Llŷn i glywed profiad y cwmni arloesol - sy'n 36 mlwydd oed eleni - sydd wedi dylanwadu ar gymaint o gymunedau eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Osian Elis ac Iwan ap Llyfnwy

Wrth sgwrsio dros beint, mae’n amlwg bod Tafarn y Fic wedi bod yn rhan fawr o fywyd Osian Elis ac Iwan ap Llyfnwy ers ymhell cyn iddyn nhw gyrraedd oed yfed.

Tra bod y ddau bellach ar y bwrdd rheoli maen nhw hefyd yn feibion i ddau o sylfaenwyr y dafarn arloesol ym Mhen Llŷn.

“Dwi’n cofio’r bwrlwm a dwi’n cofio’r apêl genedlaethol - roedd o ar dudalen flaen Y Cymro," meddai Osian, wrth hel atgofion am ei blentyndod. "Roedd Dad yn 'nabod lot o bobl a lle bynnag oedd o’n mynd ac yn cyfarfod rhywun oedd o’n 'nabod fydda fo’n deud ‘reit, tyrd a dy cheque book allan’."

"Roedd yn rhaid bod dros 18 am yn hir i ddod yma, roedda nhw'n reit strict - ella yn enwedig i ni’n dau,” ychwanegodd Iwan. “Ers fy nghyfnod i yn dod yma dwi’n meddwl bod o wedi troi yn fwy o dafarn teuluol. Tydi o ddim cymaint o dafarn yfed erbyn heddiw."

Yn 1988, doedd y bragdy oedd yn berchen y Victoria Hotel, Llithfaen, ddim yn gweld dyfodol i wneud elw yn y pentre’ bychan chwarelyddol wrth droed Yr Eifl a phenderfynwyd cau'r dafarn.

Ond roedd y lle yn fwy na ffordd o wneud arian i griw o bobl leol, yn eu mysg nhw John Llyfnwy a Gwyn Elis. Felly fe sefydlwyd cwmni arloesol i geisio ei hachub i’r gymuned - a’r syniad o godi morgais er mwyn gallu codi peint yn codi aeliau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cymuned yn prynu eu tafarn leol yn gwneud y newyddion hyd heddiw, ond yn ôl yn yr 1980au roedd y syniad arloesol yn stori ar y tudalennau blaen

“Roedd be’ wnaeth John a Dad a’r criw yn y dechrau yn uffarn o risg - yn cael morgais - roedd pobl yn meddwl bod nhw’n bonkers," eglurodd Osian.

“Dwi’n cofio Dad yn sôn bod ambell un wedi deud doedda nhw ddim yn meddwl y bydda fo’n gweithio ond mae Llithfaen efo hanes o fusnesau cydweithredol felly dwi’n meddwl bod o yn y gwaed. Ond roedd o dal yn risg a doedd 'run ohonyn nhw efo unrhyw syniad am redeg busnes na rhedeg tafarn.”

“Nagoedd,” ychwanega Iwan. “Roedda nhw jest isho rhywle i yfed a rhywle i gymdeithasu.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae llwyddiant Y Fic wedi bod yn ysbrydoliaeth i dafarndai a mentrau cymunedol eraill ar draws Cymru

Llwyddodd yr apêl genedlaethol i gyrraedd y targed o £15,000 gyda chyfraniadau gan bobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt, ac yn 1988 sefydlwyd cwmni cydweithredol Tafarn y Fic. Hon oedd yr unig dafarn cymunedol yng Nghymru tan 2009 ac yn ôl y cwmni nhw bellach yw'r hynaf o'i fath yn Ewrop.

Er mai ‘tafarn yfed’ oedd hi am y blynyddoedd cyntaf, mae wedi datblygu yn ôl y gofyn dros y pedwar degawd. Roedd yn ganolfan bwysig i gigs Cymraeg yn yr ardal am flynyddoedd, yn dafarn gweini bwyd ac mae'n gyrchfan i bobl sy'n mynd i ganolfan iaith Nant Gwrtheyrn i gael blas o’r Gymraeg fel iaith fyw - yn enwedig ar noson cwis efo un dysgwr i bob tîm.

Erbyn heddiw mae’n le poblogaidd i deuluoedd ar ddyddiau gemau rhyngwladol a phenwythnosau efo maes chwarae’r pentref mewn lleoliad perffaith ar ochr arall i'r wal o’r ardd gwrw.

Fis Chwefror 2024 enillodd Y Fic wobr Tafarn Orau Cymru a bydd nawr yn mynd ymlaen i geisio cipio'r wobr Brydeinig.

Disgrifiad o’r llun,

Ar waliau'r Fic mae gwaith celf Malcolm Gwyon o rai o'r artistiaid sydd wedi chwarae yn y dafarn - yn cynnwys Cowbois Rhos Botwnnog a Gai Toms

Dros y degawdau, yng nghanol yr hwyl mae 'na gyfnodau anoddach llawn sialensiau, gan gynnwys adeiladu estyniad ac adnewyddu’r ganolfan yn 2003-04. Efo'r Fic ar gau am flwyddyn, cafodd Osian ac Iwan flas o sut le fyddai Llithfaen heb y dafarn fel canolbwynt.

Meddai Iwan: “Adeg hynny neshi ddim gweld rhai cymeriadau am flwyddyn gyfan sy’n gwneud i chdi ddeall pam wnaeth nhw frwydro i gadw'r Fic yn y lle cynta’.

“Fyddai’n dlawd iawn yma heb Y Fic. Y peth efo Llithfaen - mae’n gallu bod yn heriol iawn i fyw yma yn y gaeaf. Pan mae’n niwl dopyn a ti methu gweld dy drwyn - adeg hynny mae gallu dod lawr i’r Fic yn bwysig.

“Mae pedwar aelod o’r pwyllgor wedi symud yn ôl i’r ardal, ac un rhan o’r dynfa yn ôl i Lithfaen oedd gwybod bod Y Fic yno.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae golygfeydd braf o Fae Ceredigion a gweddill Pen Llŷn o bentref Llithfaen - os ydi'r tywydd yn caniatàu

Tra bod Y Fic “fel aur” i ardal Llithfaen yn ôl Owain, mae’n dweud hefyd bod pobl o ardaloedd eraill yn ei gwerthfawrogi, fel daeth i’r amlwg ar ôl wythnos Eisteddfod brysur eleni, er eu bod nhw ar ochr arall Pen Llŷn i Foduan.

Meddai: “Roedd ‘na grŵp o Lanelli wedi dod draw a wnaethon ni ofyn pam dod i’r Fic? ‘O’ medda nhw ‘roedd o ar ein bucket list, roedda ni’n benderfynol o ddod yma.’ Mae’n rhywle reit eiconig.”

Er bod y Fic yn sefydlog ar hyn o bryd, ac efo syniadau ar sut i ddatblygu, mae’n gyfnod heriol i holl dafarndai Cymru, gyda 52 wedi cau yn hanner cynta’r flwyddyn.

Mae costau byw cynyddol yn creu cur pen - gyda phrisiau rhedeg y lle wedi codi, a phawb efo llai o arian i’w wario. Yn ward Pistyll, fel yng ngweddill Llŷn, mae’r cynnydd mewn tai gwyliau ac ail gartrefi yn creu sialens wahanol.

Eglurodd Osian: “Pan ‘da ni’n siarad am Y Fic, Tafarn Gymraeg, mae’r sefyllfa dai yn gallu cael effaith ar ei dyfodol os ydi’r trend yna yn parhau. Tafarn y bobl ydi’r Fic, pwyllgor o bobl leol sy’n ei redeg o a phobl leol sy’n ei ddefnyddio fo, felly fydd llai o bobl o gwmpas i ddod yma ac i redeg y lle.

“Tydi ddim yn doom and gloom i gyd, ond mae o yn gwneud i chdi boeni.”

Gyda mwy o gymunedau yn prynu eu tafarndai cymunedol, y neges o’r Fic ydi bod angen cefnogaeth hir dymor. Un peth ydi cael y brwdfrydedd a’r arian i ddechrau’r fenter - ond mae angen parhau hynny am flynyddoedd.

Mae’r ddau yn dweud bod angen i lywodraethau wneud mwy na rhoi grantiau i helpu agor tafarn gymunedol neu bydd yr arian yn wastraff os nad ydi’r fenter yn llwyddiant.

“I fuddsoddi yn y gymuned mae’n rhaid ei wneud o’n hir dymor, ac mae angen cefnogaeth i fedru cario 'mlaen,” meddai Osian.

Roedd Iwan yn rhedeg y dafarn fel tenant am gyfnod a fo bellach ydi prif fragwr Cwrw Llŷn.

Mae’n dweud bod yn rhaid i’r rhai mewn grym sylweddoli bod tafarndai cymunedol yn golygu cymaint mwy na lle i gael diod: “Mae’r Fic yn fenter gymunedol, yn hwb diwylliannol, yn cadw’r Gymraeg, cadw cymuned. Mae lot o’r pethau mae Llywodraeth Cymru rŵan yn trio eu hybu ‘da ni wedi bod yn gwneud nhw ers blynyddoedd, ers cychwyn Y Fic. Maen nhw’n dechra' dal fyny rŵan.”

Disgrifiad o’r llun,

Cadw golwg dros y bar - llun o Gwyn 'Plas' Elis ar wal Y Fic

Yn rhannol oherwydd bod Y Fic yn fwy na thafarn arferol, mae ‘na bwysau i gadw’r lle i fynd, yn enwedig felly i ddau o feibion y sylfaenwyr.

Mae tad Iwan - John - yn dal ar y pwyllgor ond bu farw tad Osian, Gwyn ‘Plas’, yn 2006 ac yntau ond yn 56 oed.

Ffynhonnell y llun, Tafarn Y Fic
Disgrifiad o’r llun,

John Llyfnwy - neu Llyfnwy o'r Foel - ar ôl derbyn ei Wisg Las yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 am ei waith gwirfoddol i gymuned Llithfaen

Meddai Osian: ““Dwi’n meddwl fasa Dad wedi bod wrth ei fodd i weld bod y Fic dal yma.

“A ‘da ni’n rili balch bod John wedi cael ei urddo blwyddyn yma ar ôl 35 mlynedd o waith.

“Mae o’n dod yma am beint efo ni, ac mae o’n dod yma rŵan fel taid ac yn gweld ei wyrion a’r plant ifanc eraill yn chwarae yma - a dwi’n meddwl bod hwnna yn fesur llwyddiant.

“’Da ni’n gorfod sicrhau bod ‘na dafarn yma be’ bynnag ma’n gymryd i gario fo mlaen. Mae o’n rhoi dipyn o bwysau arna ni i wneud yn siŵr bod ‘na ffyniant ond tydi cau fan yma ddim yn opsiwn.”

  • Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma fis Tachwedd 2023

Pynciau cysylltiedig