Teyrnged i 'dad arbennig' 29 oed fu farw mewn gwrthdrawiad

Travis PowellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Travis Powell mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd ar ddydd Iau, 10 Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn 29 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Firbank Avenue yn y ddinas am tua 15:50 ar ddydd Iau, 10 Ebrill.

Bu farw Travis Powell, oedd yn gyrru beic modur, yn y fan a'r lle.

Mae ymchwiliad yr heddlu i'r digwyddiad yn parhau, ac maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o ddefnydd i swyddogion i gysylltu â nhw.

'Mab annwyl a brawd cariadus'

Dywedodd teulu Mr Powell mewn datganiad y bydd "colled enfawr ar ei ôl".

"Fe allwn gadarnhau fod Travis wedi ein gadael yn lawer rhy gynnar.

"Roedd yn fab annwyl, yn frawd cariadus, yn bartner ffyddlon a thad arbennig i ddwy o ferched hyfryd.

"Roedd pawb oedd yn 'nabod Travis yn ei garu a bydd colled enfawr ar ei ôl.

"Hoffem ddiolch i bawb am eu cariad, eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod anodd yma."

Pynciau cysylltiedig