National Theatre Wales yn dod i ben oherwydd diffyg arian
- Cyhoeddwyd
Blwyddyn ers y cyhoeddiad bod National Theatre Wales wedi colli'i chefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae bellach wedi dod i ben.
Fe fydd y cwmni nawr yn canolbwyntio ar eu gwaith cymunedol ac mewn ysgolion, o dan yr enw TEAM.
"Mae National Theatr Wales fel o' ni'n gwybod e wedi bennu," meddai cyfarwyddwr cydweithio'r cwmni, Naomi Chiffi.
"Mae hwnna'n drist iawn, ac mae wedi bod yn anodd iawn i ni fel cwmni ac i'r sector, ond ni'n edrych ymlaen gyda gobaith am y dyfodol a'r gwaith ry'n ni'n gwneud trwy TEAM."
Cafodd National Theatre Wales wybod fis Medi 2023 bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi'r gorau i'w hariannu, ac felly na fyddai'n derbyn ariannu craidd o £1.6m.
Ar y pryd dywedodd Cyngor y Celfyddydau eu bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar ôl "proses eithriadol o gystadleuol".
Yn ôl Naomi Chiffi mae'n "anodd dweud beth aeth o'i le gyda National Theatre Wales", ac mae'r sefyllfa yn "gymhleth iawn".
Ond dywedodd y gallai'r cwmni fod wedi "gwrando yn well - gwrando ar y sector, gwrando ar artistiaid, gwrando ar gymunedau a gwrando ar bobl".
- Cyhoeddwyd15 Mawrth
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2023
Mynnodd y bydd hynny'n digwydd yn y dyfodol wrth iddyn nhw ganolbwyntio ar waith yn y gymuned, a bod hynny wedi digwydd yn dda yn y gorffennol.
"Ni'n edrych i weithio gyda chymunedau ac i gael syniadau gan bobl... i wrando ar bobl, i wneud prosiectau sydd yn gallu cael impact mawr yn y cymunedau, ac impact mawr ar bobl sydd byth yn sylweddoli bod byd yr arts iddyn nhw."
Yn ystod y flwyddyn, mae TEAM wedi bod yn gweithio ar gynlluniau celfyddydol gyda chymunedau yng Nghaerdydd, ar ôl derbyn arian gan Gyngor Caerdydd o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
Un o'r cynlluniau diweddaraf oedd gydag Ysgolion ACT, sy'n cynnig cefnogaeth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ac wedi'u gwahardd o addysg prif ffrwd.
Yn ôl Lauren Evans, sy'n fentor dysgu gydag ACT, mae'r cynllun wedi cael effaith gadarnhaol.
"Mae'r disgyblion wedi creu tair cân a dwi'n credu mae'n brosiect really dda," meddai.
"Fi'n credu mae'n dda i'r plant fynd mas a gwneud pethau gwahanol - maen nhw'n datblygu sgiliau newydd."
Fe fydd yr actor Tobias Weatherburn yn rhan o brosiect gyda TEAM yn y flwyddyn newydd.
"Fi'n meddwl bod e'n grêt jyst i gael prosiectau creadigol tu fas i wersi a phethe fel 'na," meddai Mr Weatherburn.
Mae'n galw gwaith TEAM yn "brilliant", gan roi cyfle i ddisgyblion "i 'neud pethe bydden nhw byth yn cael siawns i wneud".
Mae'n dweud ei fod yn drist o weld National Theatre Wales yn dod i ben yn ei ffurf bresennol gan ei fod wedi "tyfu lan gyda fe", ond dywedodd ei fod yn falch bod y gwaith yn y gymuned gan TEAM yn parhau.
Cafodd National Theatre Wales ei sefydlu yn 2009, ac fe dderbyniodd gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy gydol y cyfnod hwnnw.
Un o lwyddiannau cynnar y cwmni oedd The Passion gyda Michael Sheen yn nhref Port Talbot yn 2011.
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023
Dywedodd Dafydd Rhys, prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: "Ers i'r penderfyniad anodd gael ei wneud i beidio cynnig cyllid aml-flwyddyn i National Theatre Wales fel rhan o'r Adolygiad Buddsoddi, rydym wedi bod yn gweithio gyda National Theatre Wales o ran eu cefnogi i ail-ddychmygu ac ailstrwythuro i fodel nad yw'n ddibynnol ar gyllid craidd aml-flwyddyn.
"Er enghraifft, rydym wedi darparu cyllid trawsnewid fel y gallai'r sefydliad edrych ar ffyrdd newydd o weithio, ac roedd National Theatre Wales yn un o'r sefydliadau a fu'n llwyddiannus o ran y Gronfa Amddiffyn Swyddi a Magu Gwydnwch.
"Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'n sgyrsiau rheolaidd gyda National Theatre Wales wrth iddynt gymryd y cam nesaf yn eu datblygiad.
"Rydym hefyd wedi comisiynu adolygiad i theatr Saesneg ei iaith yng Nghymru, fydd yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn."