Newidiadau 'anodd' i strwythur National Theatre Wales
- Cyhoeddwyd
Mae National Theatre Wales wedi cyhoeddi eu bod yn gorfod gwneud newidiadau "anodd" i'w strwythur yn dilyn toriad o 100% i'w cyllid craidd o Ebrill 2024.
Fel rhan o'r newidiadau, bydd Leonora Thomson yn olynu Lorne Campbell ac yn ymuno â'r sefydliad fel Prif Weithredwr dros dro newydd.
Mewn datganiad, mae ymddiriedolwyr y National Theatre Wales yn dweud bod swyddi wedi eu colli, a bydd y newidiadau yn cael "effaith ar bawb" o fewn y sefydliad.
Ym mis Medi, fe ddaeth hi i'r amlwg nad oedd National Theatre Wales ar restr o sefydliadau fyddai'n derbyn cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Fe aethon nhw ati i gyflwyno apêl oedd yn amlinellu pam y dylid ailystyried y penderfyniad, ond fe gafodd hynny ei wrthod.
Roedd y sefydliad yn un o sawl enw amlwg oedd yn absennol o'r rhestr o sefydliadau sy'n derbyn cefnogaeth ariannol 2024/25 ymlaen.
Mewn datganiad, mae ymddiriedolwyr y National Theatre Wales yn dweud eu bod yn "teimlo i'r byw dros weithwyr gwerthfawr a dawnus y mae'n rhaid i ni ffarwelio â nhw".
Fe ychwanegon nhw fod y penderfyniadau anodd wedi gorfod eu gwneud er mwyn "sicrhau ein dyfodol".
Bydd Leonora Thomson yn olynu Lorne Campbell fel prif weithredwr dros dro'r sefydliad.
Mae ganddi gefndir yn y sector celfyddydau, ac wedi gweithio i gefnogi pobl a sefydliadau o fewn y sector.
Yn ogystal â bod yn wleidydd lleol ers cael ei hethol i Gyngor Caerdydd ym mai 2022, bu'n Rheolwr Gyfarwyddwr Opera Cenedlaethol Cymru rhwng 2015 a 2019.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023