Ydy person ag acen Gymreig yn swnio'n fwy gonest?

charlotte
Disgrifiad o’r llun,

Charlotte, un o'r cystadleuwyr ar y drydedd gyfres o The Traitors

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfres newydd The Traitors wedi cychwyn wythnos yma ar BBC1 - gyda Chymru a'r Gymraeg wedi cael cryn sylw yn y penodau agoriadol.

Mae un o'r cystadleuwyr, Elen Wyn, yn dod o'r gogledd ond yn gweithio fel cyfieithydd yng Nghaerdydd, tra bod y cyn-filwr, Leanne, sy'n byw yn Nhreffynnon yn Sir y Fflint, hefyd yn cymryd rhan.

Ond yn addas iawn mewn gêm sy' wedi'i seilio ar dwyll, mae un arall o'r cystadleuwyr hefyd yn honni ei bod yn Gymraes.

Mae Charlotte, o Lundain, yn defnyddio acen Gymreig ffug gan ei bod yn credu ei bod yn acen sy'n hawdd ymddiried ynddi.

Daw mam Charlotte o Gymru ac mae hi'n credu y gallai siarad gyda'r acen fod yn arf i'w defnyddio er mwyn ennill y sioe.

Ond a oes unrhyw sail i'r syniad bod acen Gymreig yn rhoi argraff o berson gonest?

Ffynhonnell y llun, Mercedes Durham
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Mercedes Durham o Brifysgol Caerdydd

Mae'r Athro Mercedes Durham yn ddarlithydd sosioieithyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Dwi wedi gwneud rhywfaint o ymchwil ar yr agweddau tuag at yr acen Gymreig [yn Saesneg],"meddai.

"'Nes i ymchwil ar Twitter, fel yr oedd pryd hynny, tua 10 mlynedd yn ôl yn edrych ar beth oedd pobl yn trydar am yr iaith Gymraeg."

'Pobl yn hoff o'r acen'

"Byswn i'n dweud bod pobl yn hoff o'r acen, yn meddwl bod hi'n atyniadol ac yn ddigri," meddai'r Athro Durham.

"Dydy pobl ddim yn ei chymryd yn 100% o ddifri, yn rhannol oherwydd eu prif ffynhonnell ydy [y gyfres deledu] Gavin and Stacey, felly maen nhw'n ei chysylltu â Nessa neu dref Y Barri a'r cymoedd.

"Does dim lot o syniad gan bobl am acenion Cymru tu hwnt i'r ardaloedd hynny – dydyn nhw ddim yn ymwybodol o sut fyddai Cymry o'r gogledd yn siarad Saesneg."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gavin and Stacey wedi'i lleoli yn rhannol yn Y Barri

Mae Mercedes Durham yn credu mai rhywbeth gymharol ddiweddar yw amlygrwydd acenion Cymru tu hwnt i ffiniau'r wlad.

"Mae acen[ion] Cymru yn rhywbeth doedd pobl ddim yn arfer ei chlywed tu allan i Gymru yn y gorffennol, ond gyda sioeau fel Gavin and Stacey mae pobl yn ei chlywed yn fwy ac yn ei ystyried yn ddigri a chyfeillgar," meddai.

"Nid dim ond Gavin and Stacey sy'n gyfrifol am hyn wrth gwrs - mae hefyd llawer o ymadroddion a dywediadau Cymreig sy'n ddigri.

"Mae rhywfaint o'r ymchwil sy'n edrych ar agweddau tuag at acenion gwahanol yn awgrymu bod pobl yn gweld yr acen fawreddog neu 'posh' fel rhai i bobl ddeallus sydd wedi derbyn addysg dda, ond ddim yn angenrheidiol yn acen gyfeillgar.

"Ac mae acenion fel Swydd Efrog a mannau eraill o ogledd Lloegr yn cael eu gweld fel rhai mwy gonest, ac mae gan acenion Cymreig yr un cysylltiadau.

"Gan fod rhain yn nodweddion positif a bod pobl yn hoffi siarad gyda phobl â'r acenion yma mae'n golygu bod pobl yn fwy tebygol o ymddiried ynddyn nhw hefyd."

Tacteg dda i'w defnyddio?

Felly a ydy'r Athro Durham yn credu bod mabwysiadu acen Gymreig yn strategaeth effeithiol i geisio ennill y gystadleuaeth?

"Yndi ac nac ydy. Mae pobl yn Y Deyrnas Unedig bellach yn well am 'nabod acen ffug sâl nac oedden nhw tua 10 mlynedd yn ôl.

"Ddegawd yn ôl doedd pobl ddim yn siarad gymaint am acenion a dadansoddi pa mor dda oedd rhywun sydd ddim o Gymru am actio gydag acen Gymreig.

"Ond heddiw mae pobl yn fwy ymwybodol o sut ddylai'r acen swnio."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Robert Downey Jr. dipyn o feirniadaeth am ei acen Gymreig yn y ffilm Dolittle (2020)

Mae mwy o acenion Cymreig i'w clywed ar y sgrin fawr hefyd, gydag un enghraifft ddiweddar yn denu cryn dipyn o sylw.

"Cafodd Robert Downey Jr. ei feirniadu am ei acen Gymreig yn y ffilm Dolittle, gan fod pobl yn gwybod nad oedd yn siarad ag acen ei hun, ond hefyd yn gwybod sut y dylai acen Gymreig swnio," ychwanegodd.

"Gall fod yn strategaeth dda mewn sioe fel hon [The Traitors] i gael acen y byddai pobl yn ei hoffi.

"Ond dwi'n meddwl y bydd y cyhoedd ym Mhrydain bellach efo syniad da o sut ddylai acen Gymreig go iawn swnio, felly os 'di nhw ddim yn ei gael yn iawn fe all weithio yn erbyn y cystadleuydd.

"Wedi dweud hynny, yr 'acen Gymreig' i lawer tu allan i Gymru yw'r cymoedd a'r Barri, a does ganddyn nhw ddim syniad am unrhyw le arall, felly cawn ni weld!"

Pynciau cysylltiedig