Cyflwynydd Radio 1 yn falch o ddod â sylw i acen ogleddol

Sian Eleri, o Gaernarfon, sy'n cyflwyno The Chillest Show ar BBC Radio 1
- Cyhoeddwyd
Mae cyflwynydd BBC Radio 1 wedi sôn am ei balchder o ddod ag acen gogledd Cymru i donfeddi radio Prydeinig.
Mae Sian Eleri, sy’n wreiddiol o Gaernarfon, wedi bod yn cyflwyno The Chillest Show ar BBC Radio 1 ers 2021 ar ôl cyfnod ar BBC Radio Cymru.
Yn ddiweddar cafodd ei dewis hefyd fel un o gyflwynwyr rhaglen newydd Y Llais ar S4C.
Dywedodd ei bod hi'n falch o gael ei dewis er mwyn codi proffil y Gymraeg fel iaith fyw.
'Pa acen ydy hwnna?'
"Dydan ni ddim yn clywed acen gogledd Cymru yn genedlaethol yn aml, a dwi’n teimlo'n falch iawn," meddai.
"Ond alla i ddim cymryd y clod am y ffordd dwi’n siarad.
"Mae'n ddifyr sut dwi'n cael pobl yn dweud 'pa acen ydy hwnna? O le ti'n dod?'
"A dwi'n licio'r syniad mod i’n gallu deud yn falch ‘wel, Cofi ydw i - dwi’n dod o Gaernarfon, a dyma sut ydan ni’n siarad'."
Bu'n siarad gyda chyflwynydd Radio Wales Lucy Owen wrth i’w chyfres newydd o Paranormal gael ei rhyddhau.
Mae un rhaglen yn adrodd stori enwog plant ysgol Sir Benfro yn gweld UFO yn 1977.

Mae Sian Eleri hefyd yn cyflwyno ar y teledu, gan gynnwys rhaglen Saesneg o'r Eisteddfod llynedd
Dywedodd Sian Eleri ei bod hi'n falch bod S4C yn gwneud y Y Llais ar S4C, fersiwn Gymraeg o The Voice, sy'n boblogaidd mewn nifer o wledydd ar draws y byd.
"Mae o’n rhan o frand rhyngwladol - mae o bron yn torri unrhyw gamddealltwriaeth bod yr iaith Gymraeg yn marw," meddai.
"Yn aml ti’n cyfarfod pobl am y tro cyntaf ac maen nhw’n gofyn - yn ddigon diniwed dwi’n siŵr - os ydy’r iaith yn cael ei siarad o gwbl.
"Dydyn nhw ddim yn deall ei fod yn tyfu ac yn ffynnu, dwi’n ei ddefnyddio yn fy mywyd bob dydd ac i bobl o bob oed mae’n iaith gyntaf, ac i fy nheulu a fy ffrindiau hefyd."
Gallwch wrando ar gyfweliad Sian Eleri gyda Lucy Owen ar BBC Sounds ac mae Paranormal: The Village That Saw Aliens ar BBC iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2021