'Wrth fy modd' cael cydnabyddiaeth am godi miloedd i Cymorth Cristnogol

Mae Meilyr wrth ei fodd yn diddanu pobl ym mhabell Cytûn yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Mae cerddor 36 oed wedi son am yr "anrhydedd" o gael cydnabyddiaeth genedlaethol am ei waith yn codi arian i elusen.
Mae Meilyr Tomos o Abergwaun newydd gael ei enwebu ar gyfer gwobr 'Power of Hope' Cymorth Cristnogol ar draws Prydain.
Ers yn wyth oed mae Meilyr wedi bod yn defnyddio ei ddawn gerddorol i godi arian - gan berfformio mewn capeli, cartrefi henoed ac ar stondin Cytûn: Eglwysi ynghyd yng Nghymru yn y Sioe Amaethyddol a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae wedi codi miloedd o bunnau at elusen Cymorth Cristnogol ac yn hynod o falch ei fod wedi cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad.
Yn ôl ei rieni, mae ei lwyddiant yn profi ei bod "mor bwysig canolbwyntio ar be' mae pobl sydd â chyflwr fel Syndrom Down yn gallu ei wneud yn hytrach na be maen nhw methu ei wneud".

Meilyr yn gorymdeithio yn seremoni cyhoeddi'r Eisteddfod ddydd Sadwrn
"Mae'n anrhydedd mawr," meddai Meilyr a gafodd ei anrhydeddu â'r wisg werdd y llynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
"Fi mor browd – ac mae'n bwysig cofio beth mae'n bosib ei wneud. Fi wrth fy modd."
Mae ei rieni, Heather a'i gŵr Gwyndaf, wedi bod yn ei gefnogi ers iddyn nhw ei fabwysiadu yn blentyn pum mis oed.
"Pan mae rhywun yn cael plentyn efo anghenion arbennig, y peth cynta maen nhw'n weld yw bod y dyfodol falle'n edrych yn dywyll," meddai Heather.
"Ond gyda rhywun fel Meilyr, mae e'n gallu dangos beth mae pobl yn gallu gwneud.
"Daeth Meilyr adref o'r ysgol pan oedd e tua wyth mlwydd oed a dweud bod rhai o'i ffrindiau'n cael gwersi cerddorol," ychwanegodd.
"Gofynnais iddo pa fath o offerynnau oedden nhw'n chwarae – roedd rhai wedi dewis trwmped, fiolin ac yn y blaen a dyma fi'n gofyn i Meilyr, 'fyddet ti'n hoffi dysgu ryw offeryn?'
"'O bydde', meddai fe – a wedyn, wedi meddwl bach, dyma fe'n dweud: 'Y piano.'"
Cysylltodd Heather ag athrawes leol – er ei bod eisoes yn llawn – a gofynnodd am un wers brawf i weld a oedd gan Meilyr botensial.
"Do'n i ddim eisiau prynu piano ac wedyn sylweddoli nad oedd ganddo unrhyw glem," meddai'n onest.
"Ond ar ôl hanner awr gyda'r athrawes, dyma hi'n dweud: 'Dewch yn ôl wythnos nesaf.' A dyna sut y dechreuodd e – a dyw e ddim wedi edrych yn ôl."
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd1 Mai 2023
Mae Meilyr wedi dod yn wyneb cyfarwydd ym mhabell Cytûn yn y Sioe a'r Eisteddfod gan greu awyrgylch gynnes wrth ganu'r piano.
"Wel o'n i mor gyffrous pan ddalltest i fod Meilyr wedi cael ei enwebu i dderbyn gwobr arbennig gan Gymorth Cristnogol am ei waith yn codi arian ar hyd y blynyddoedd," meddai Aled Davies, trefnydd pabell Cytûn.
"Mae ei agwedd wastad mor bositif a gwên anferth ar ei wyneb o ac yn amlwg mae'n cael pleser yn diddori pawb efo'r gerddoriaeth ar y piano.
"Mi fydd e wrthi am oriau'n chwarae tra bod pobl yn mwynhau paned a sgwrs a'i rieni yn mynd o gwmpas gyda'r bwced yn hel arian i Gymorth Cristnogol.
"Mae'n hyfryd ei fod wedi cael ei gydnabod am ei ymdrechion arbennig."

Mae Meilyr yn defnyddio'i ddawn i herio anghyfiawnder tlodi, medd Mari McNeill
"Mae Meilyr yn ffrind anhygoel ffyddlon ac ymroddedig," meddai Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru.
"Mae e wedi codi cymaint o arian drwy ei gerddoriaeth – ac mae'n defnyddio'i ddawn i herio anghyfiawnder tlodi.
"O'n i ddim yn synnu am un eiliad i weld e yn cael ei enwebu yn y 'Power of Hope awards' Cymorth Cristnogol eleni."

Meilyr a Tom Defis, cyn-gydlynydd rhanbarth Cymorth Cristnogol
"Mae Meilyr yn dangos bod gan bob un ryw ddawn," ychwanegodd Heather Tomos.
"Pan ma' plant ag anghenion yn gweud bo nhw moy'n neud r'wbeth rhaid annog nhw, falle bydd e ddim yn gwitho bob tro a falle bydd rhaid ffindo ffyrdd eraill ond mae'n bwysig iawn annog nhw i neud pethe.
"Allwch chi feithrin y talentau sydd ar gael.
"Mae angen i ni ganolbwyntio ar beth maen nhw'n gallu gwneud – nid be maen nhw ddim yn gallu gwneud."
"Pob dymuniad da i ti Meilyr a diolch am yr holl waith rwyt ti'n ei wneud ar hyd y blynyddoedd yn codi arian i Cymorth Cristnogol, dal ati Meilyr!," ychwanegodd Aled Davies.
"Dan ni'n disgwyl ymlaen am dy gwmni eto eleni yn y sioe yn Llanelwedd ac hefyd yn y 'Steddfod yn Wrecsam, pob dymuniad da i ti."