Wynne Evans yn gadael taith Strictly wedi sylw 'amhriodol'

Wynne EvansFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wynne Evans wedi ymddiheuro am wneud sylw "amhriodol ac annerbyniol"

  • Cyhoeddwyd

Mae Wynne Evans yn dweud ei fod wedi cytuno gyda'r BBC i gamu 'nôl o'i raglen ar Radio Wales ac o weddill taith fyw Strictly Come Dancing, er mwyn rhoi blaenoriaeth i'w les.

Ddydd Sul fe ymddiheurodd y darlledwr a'r canwr am sylw "amhriodol ac annerbyniol" yn ystod lansiad taith fyw Strictly Come Dancing yn gynharach fis yma.

Roedd Wynne Evans eisoes wedi dweud y byddai'n "cymryd seibiant" o gyflwyno ei raglen foreol ar BBC Radio Wales, ond mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol brynhawn Mawrth, dywedodd ei fod yn bwriadu "defnyddio'r amser i hunan fyfyrio".

Doedd y BBC na BBC Cymru am wneud sylw pellach ar y mater.

Daeth ymddiheuriad Mr Evans, 52, ar ôl i ohebydd o'r Mail on Sunday ei recordio yn gwneud sylw yn ystod sioe taith Strictly yn y Birmingham Arena.

Roedd y cyflwynydd ac eraill yn paratoi ar gyfer llun ar y llwyfan ar y pryd.

Dywedodd Mr Evans mewn datganiad fod ei "iaith yn amhriodol ac yn annerbyniol, ac rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant am hynny".

Yn ôl llefarydd ar ran Strictly Live Tour a BBC Studios, maen nhw "wedi ei gwneud yn glir iawn i Wynne nad ydym yn goddef ymddygiad o'r fath ar y daith".

'Ymddiheuro o waelod calon'

"Rydw i wedi cytuno ar y cyd gyda'r BBC i gymryd seibiant o gyflwyno fy rhaglen radio, i gamu'n ôl o daith fyw Strictly ac o ddigwyddiadau cyhoeddus eraill er mwyn blaenoriaethu fy lles," meddai Wynne Evans mewn datganiad.

"Rydw i'n ymddiheuro o waelod calon am unrhyw boen mae fy ngweithredoedd amhriodol i wedi ei achosi, ac rydw i'n bwriadu defnyddio'r amser yma i hunan fyfyrio.

"Ymddiheuriadau i'r rhai na fyddaf i'n gallu eu gwylio yn y perfformiadau olaf, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r gefnogaeth anhygoel yr wyf wedi ei dderbyn gan griw y daith."

Wynne Evans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Wynne Evans yn un o'r sêr oedd yn cystadlu yn y gyfres ddiweddaraf o Strictly Come Dancing

Roedd Wynne Evans yn un o'r sêr oedd yn cystadlu yn y gyfres ddiweddaraf o Strictly Come Dancing - a hynny gyda'i bartner dawnsio Katya Jones.

Mae wedi bod yn rhan o daith fyw y gyfres ledled y DU, gyda'r olaf o'r 30 perfformiad wedi'i drefnu ar gyfer 9 Chwefror.

Ni wnaeth Mr Evans ddawnsio yn ystod y sioe ddydd Sadwrn yn Glasgow oherwydd anaf i'w bigwrn ond fe wnaeth o ganu.

Dywedodd mewn fideo ar ei gyfrif Instagram nos Sul ei fod yn gobeithio dychwelyd i ddawnsio.

Pynciau cysylltiedig