Wynne Evans: Strictly yn 'anhygoel' ond y wasg wedi'i siomi

Disgrifiad,

Wynne Evans: "Dros y broses yma, mae’r wasg wedi ysgrifennu lies trwy’r amser"

  • Cyhoeddwyd

Mae Wynne Evans yn dweud ei fod wedi cael profiad "hollol anhygoel" ar gyfres Strictly Come Dancing, ond ei fod wedi synnu gydag ymddygiad y wasg.

Y Cymro, 52, oedd yr wythfed cystadleuydd i adael y sioe nos Sul, wedi iddo ganfod ei hun yn y ddau olaf ar ôl cyfuno sgôr y beirniaid gyda'r bleidlais gyhoeddus.

Bu'n dawnsio'r Charleston, ond fe benderfynodd y beirniaid yn unfrydol i achub seren rhaglen Gladiators, Montell Douglas a Johannes Radebe, yn hytrach na Wynne a'i bartner Katya Jones.

Ar ôl treulio dros ddeufis ar y gyfres, dywedodd wrth BBC Radio Wales fore Llun y bu hi'n "hyfryd i fod yn rhan o'r sioe".

Disgrifiad o’r llun,

Wynne Evans a Katya Jones yn perfformio'r Charleston ar y rhaglen dros y penwythos

"Mae'r teulu Strictly yn berffaith ym mhob ffordd, maen nhw'n hollol wych," meddai.

"Mae'r wasg ar y llaw arall yn stori wahanol, a dwi wedi fy syfrdanu bod pobl yn cael ysgrifennu celwyddau... heb unrhyw sail.

"Rydw i'n siomedig 'mod i wedi gweld yr ochr yna o fywyd."

Cafodd y darlledwr a'r canwr opera sylw negyddol yn y wasg yn ystod ei gyfnod ar y rhaglen, gyda rhai yn feirniadol o "ymddygiad lletchwith" rhyngddo ef a'i bartner Katya Jones.

Mae Wynne a Katya wedi mynnu mai "jôc fewnol" a gafodd ei "gamddehongli'n llwyr" oedd y digwyddiad.

Ychwanegodd fod y profiad wedi bod yn anodd ar adegau.

"Pan ti yng nghanol y storm, ti jyst yn gweld y papur[au newydd], [dyw] pobl ar y stryd ddim yn darllen popeth, ond dwi’n darllen popeth, a dwi’n [meddwl] 'everybody hates me' neu rywbeth fel hwn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Wynne ei fod yn "siomedig" gyda'i driniaeth gan y wasg

'Dydyn nhw ddim yn fy 'nabod i'

"Mae'n fyd bach ei hun ond nes i ddysgu llawer gan Katya, sydd wedi bod yn gwneud hyn ers nifer o flynyddoedd," meddai Wynne fore Llun.

"Dyw'r bobl yna [pobl a fu'n ei feirniadu] ddim yn fy 'nabod i.

"Dwi ddim yn golygu'r bobl sydd ddim yn fy 'nabod i'n bersonol, dwi'n golygu'r bobl sydd ddim yn gwybod sut fath o berson ydw i.

"Dydyn nhw ddim o bwys i fi. Dwi'n meddwl 'mod i'n berson llawer cryfach yn dod allan o'r profiad."

Pynciau cysylltiedig