Arddangosfa am hanes Patagonia yn 'rhoi llais' i'r bobl frodorol

- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa ddigidol newydd wedi cael ei lansio yn y llyfrgell genedlaethol sy'n rhoi cyfle i aelodau o gymunedau brodorol Patagonia sôn am hanes talaith Chubut a'u hymateb nhw i'r wladfa Gymreig a sefydlwyd yna yn y 19eg ganrif.
Fe laniodd y don gyntaf o tua 150 o Gymry ym Mhatagonia ym mis Gorffennaf 1865 ar ôl taith o ddeufis ar long y Mimosa.
Roedden nhw'n bwriadu sefydlu gwladfa newydd er mwyn cynnal y Gymraeg a diwylliant Cymru, ac i ddilyn eu ffydd anghydffurfiol yn rhydd o ddylanwad Lloegr.
Roedd Llywodraeth yr Ariannin – a oedd am boblogi Patagonia – wedi addo tir i'r ymsefydlwyr.

Fe gafodd yr arddangosfa ei lansio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ym Mhatagonia roedd cymunedau brodorol o'r enw y Tehuelche a'r Mapuche yn byw, ac maen nhw'n dal i fyw yno heddiw.
Mae aelodau'r cymunedau wedi gwneud ffilmiau a chreu gwaith creadigol ar gyfer yr arddangosfa sydd ar gael yn Gymraeg, Saesneg a Sbaeneg.
Yn ôl yr arddangosfa - sydd â'r teitl 'Problemateiddio Patagonia' – mae stori ymfudiad y Cymry i Batagonia yn aml yn cael ei gyflwyno fel "cyfarfod cydseiniol rhwng y bobloedd frodorol, y mewnfudwyr Cymreig a Gwladwriaeth yr Ariannin".
Ond mae'r arddangosfa newydd yn cynnwys cyfraniadau gan frodorion Mapuche a Tehuelche ynglŷn â hanes Chubut a'r ymsefydlu Cymreig yn y dalaith.
Amcan y prosiect yw rhoi llais i bobl frodorol sydd, yn ôl yr arweinwyr, ddim wedi cael cynrychiolaeth ddigonol yn stori'r Wladfa.

Dywedodd Dr Geraldine Lublin mai'r bwriad yw cyflwyno fersiwn cymunedau brodorol o'r hanes
Fe allai'r arddangosfa – sy'n cynnwys brodorion yn sôn am golli tir a dirywiad eu hieithoedd – fod yn anghyfforddus i bobl yng Nghymru, ond mae arweinydd y prosiect Dr Geraldine Lublin yn pwysleisio nad beio'r Cymry yw'r bwriad.
Dywedodd Dr Lublin: "Oherwydd y ffordd y gwnaeth gwladwriaeth Ariannin fynd ati i sefydlu tiroedd y rhanbarth, roedd rôl y Cymry yn Chubut yn cael ei mawrygu yn y llyfrau hanes a doedd hynny ddim yn gadael llawer o le ar gyfer y brodorion.
"Roedd hynny'n fwriadol am fod y wladwriaeth yn ceisio tawelu lleisiau'r brodorion – ac os nad oes lleisiau, does dim hawliau."
Felly, dywedodd Dr Lublin mai'r bwriad yw cyflwyno fersiwn cymunedau brodorol o'r hanes er mwyn i gynulleidfa yng Nghymru gael mynediad ati.

Rhai o'r teithwyr gwreiddiol o'r Mimosa, 25 mlynedd ar ôl iddyn nhw gyrraedd Patagonia
Roedd y Cymry a aeth i Batagonia yn gwybod cyn cyrraedd bod cymunedau brodorol yn yr ardal.
Roedd cyfeiriadau atyn nhw yng nghyfrol Hugh Cadfan Hughes 'Llawlyfr y Wladychfa Gymreig' a gyhoeddwyd ym 1862.
Dywedodd Dr Lublin fod y gyfrol yn dweud bod Hugh Hughes wedi ysgrifennu bod y Cymry yn ymwybodol bod "y tiroedd yn perthyn i frodorion ond bod y Cymry am eu trin nhw yn deg.
"Mae 'na gymhariaeth ddiddorol iawn lle mae'n dweud bod brodorion Patagonia yn cael eu disgrifio fel pobl wyllt, ond bod rhaid cofio ein bod ni (y Cymry) wedi cael ein disgrifio fel pobl wyllt yn llyfrau hanes Lloegr. Rhaid i ni gofio nad ydy pob dim sydd yn y llyfrau hanes yn wir," meddai.
Ychwanegodd Dr Lublin: "'Da ni ddim eisiau dadwneud hanes, 'da ni ddim eisiau beio'r Cymry.
"Amcan y prosiect yma yw edrych ar sefyllfa'r cymunedau brodorol yn y presennol a beth 'da ni'n gwneud ynglŷn â hynny, datrys y problemau sy'n codi ar hyn o bryd."
Mae'r prosiect wedi cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) a'i harwain gan Brifysgol Abertawe.
Bu'r brifysgol yn cydweithio ar y prosiect gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Grupo de Estudios sobre Memorias Alterizadas y Subordinadas.
Mae'r arddangosfa i'w gweld ar-lein ar wefan y llyfrgell genedlaethol, dolen allanol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
- Cyhoeddwyd31 Mai
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2024