Cyfrol newydd yn galw am gofio 'ochr dywyllach' hanes Patagonia

Mae Dr Lucy Taylor yn awyddus i dynnu sylw at safbwynt pobl frodorol yn hanes sefydlu'r Wladfa
- Cyhoeddwyd
Mae peryg y gallai hanes sefydlu'r Wladfa yn Yr Ariannin gael ei ramantu, yn ôl rhai academyddion.
Eleni, mae hi'n 160 mlynedd ers i griw o Gymru ymfudo i Batagonia yn ne America.
Dywedodd Dr Lucy Taylor, awdur cyfrol newydd ar yr hanes, fod y fenter yn "ddewr ac arwrol mewn nifer o ffyrdd".
Ond ychwanegodd fod "ochr dywyllach i'r hanes ac mae hynny yn dueddol o gael ei anghofio".
'Dim troi pobl y Wladfa yn ddihirod'
"Doedd y Cymry ddim y gelyn mwyaf mewn symud pobl [frodorol] oddi ar eu tiroedd – ond mae'n rhaid cydnabod y rhan y buon nhw'n chwarae yn hyn drwy fynd i Batagonia a sefydlu'r trefi yn y lle cyntaf," meddai Dr Lucy Taylor.
"Ni chafodd trais corfforol ei ddefnyddio mewn sefydlu'r Wladfa, ond mae ochr dywyllach i'r hanes ac mae hynny yn dueddol o gael ei anghofio.
"Roedd yn fenter ddewr ac arwrol mewn nifer o ffyrdd, a ysgogwyd gan deimladau gwrth-wladychol gartref ond menter hefyd a welodd y Cymry yn dod yn asiantiaid dros wladychu.
"Dyw hyn ddim yn ceisio troi pobl y Wladfa yn 'villains' – jest ychwanegu dimensiwn ychwanegol i'r hanes," ychwanegodd.

Rhai o'r teithwyr gwreiddiol o'r Mimosa, 25 mlynedd ar ôl iddyn nhw gyrraedd Patagonia
Yr Athro Michael D Jones oedd yn gyfrifol am ddewis Patagonia fel lleoliad ar ôl ystyried ardaloedd yn Awstralia, Seland Newydd, Palesteina a Vancouver yng Nghanada.
Fe gafodd y Cymry eu denu i Batagonia gan Lywodraeth yr Ariannin oedd yn awyddus i boblogi'r ardaloedd y tu allan i Buenos Aires.
Mae hanes cyfarwydd yn adrodd sut y bu pobl frodorol y Tehuelche yn helpu'r Cymry i ddefnyddio eu tir newydd a oedd yn wahanol i gaeau gwyrdd Cymru.
Ond mae Global Politics of Welsh Patagonia, sef llyfr gan yr academydd Dr Lucy Taylor o Brifysgol Aberystwyth, yn defnyddio ffynonellau archifol yn Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg i gwestiynu a oedd y berthynas rhwng y Cymry a'r bobl frodorol yn seiliedig ar gyfeillgarwch a harmoni yn unig.
Mae llawer o enghreifftiau o goloneiddio yn yr Ariannin sydd wedi digwydd trwy ormes a thrais gwaedlyd yn erbyn llwythi brodorol fel y Tehuelche a Mapuche.
"Mae fy llyfr yn gwahodd darllenwyr i feddwl y tu hwnt i'r straeon confensiynol sydd mor gyfarwydd i ni i gyd, i wrando ar leisiau pobl frodorol o'r cyfnod," meddai Dr Taylor.
'Dwy ochr i'r stori'
Mae Aled Rees wedi bod yn trefnu teithiau gyda'i wraig Angeles - sydd o'r Ariannin - i Batagonia ers dros 15 mlynedd.
Mae straeon y brodorion a'r Cymry "yn rhan bwysig" o'r hanes, meddai.

Stori 'ramantus' yw'r hanes, meddai Aled Rees o Teithiau Patagonia
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n stori ramantus bod y Cymry wedi rhedeg bant o rhywbeth yng Nghymru i rhywle oedden nhw'n meddwl oedd yn mynd i fod yn well.
"Mae'n bwysig edrych ar y ddwy ochr. Mae'n bwysig cydnabod beth n'ath y Cymry yn llwyddiannus i gyd-fyw gyda'r bobl oedd ar y tir yn barod.
"Wrth gwrs, fe gafodd y brodorion amser caled iawn ond dim oherwydd y Cymry oedd hynny.
"Dim bai y Cymry oedd hi bod Llywodraeth yr Ariannin yn edrych am bobl i fynd i fyw i rywle gwag.
"Roedd Patagonia yn lle gwag, ac roedd y llywodraeth yn chwilio am bobl i fynd i mewn i weithio ar y tir a dyna'n union wnaeth y Cymry."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2020