Penderfyniad ar gais tai rhent Botwnnog ym mis Hydref
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi gwrthod caniatáu cais i godi 18 o dai rhent mewn pentref yn Llŷn yn sgil gwrthwynebiadau yn lleol.
Roedd Cyngor Cymuned Botwnnog wedi rhybuddio y byddai'r datblygiad yn y pentref yn "berygl i'r Gymraeg a gwead y gymuned".
Ond bellach mae disgwyl y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ym mis Hydref wedi i gynghorwyr sirol fynd yn groes i argymhelliad swyddogion cynllunio drwy wrthod y cais yn ystod cyfarfod brynhawn Llun.
Yn ôl swyddogion y cyngor roedd y cais yn dderbyniol ac roeddent yn argymell y dylid ei ganiatáu er gwaethaf barn y cyngor cymuned a'r aelod sirol lleol nad yw'n addas ac nad oes digon o alw am y tai.
Gan ei ddisgrifio fel "gorddatblygiad", roedd y cyngor cymuned hefyd wedi datgan mai heb sicrwydd y byddai'r tai yn cael eu clustnodi ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig, nad oedd modd cefnogi'r datblygiad.
Ond gyda'r bwriad o gynnig y 18 o dai ar sail rhent cymdeithasol - gyda rhai ar gael i'w prynu yn y pen draw - dywedodd y datblygwyr fod "disgwyl i'r preswyliaid fod yn bobl leol".
'Dim tystiolaeth' o niwed andwyol i'r Gymraeg
Wrth annerch y cyfarfod o bwyllgor cynllunio Gwynedd dywedodd swyddogion fod "dirfawr angen" ateb y galw am dai fforddiadwy yn y sir, a bod y safle wedi ei ddynodi'n benodol i adeiladu tai.
Ychwanegon nhw nad oes unrhyw dystiolaeth o orddatblygiad a bod dros 1,000 ar y rhestr aros am eiddo cymdeithasol yng Ngwynedd. Nodwyd hefyd "nad oedd unrhyw dystiolaeth" y byddai'r datblygiad yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg.
Dywedodd y datblygwyr, Cae Capel Cyf. fod data yn dangos fod yr angen lleol am dai fforddiadwy yn "sylweddol fwy na maint y datblygiad yma".
Ychwanegon nhw fod datblygiad o'r fath yn "sylweddol bwysig" i helpu pobl i barhau i fyw yn eu cymunedau.
Ond yn ôl y cynghorydd sir lleol mae'r cais wedi codi "drwgdeimlad a phoeni" yn y gymuned.
'Gwnewch beth sy'n iawn'
"Pur anaml fyddai'n gweld cais lle mae'r gymuned yn teimlo mor gryf yn ei erbyn," meddai'r Cynghorydd Gareth Williams wrth annerch aelodau o'r pwyllgor cynllunio brynhawn Llun.
"Byddai'r datblygiad yma yn newid Botwnnog am byth," ychwanegodd, gan ategu nad oedd angen cymaint o dai rhent cymdeithasol o'r fath yn y pentref a byddai'n golygu cynyddu'r nifer o dai yn y pentref 25%.
"Os nad oes pobl leol yn aros am dai rhent ym Motwnnog, mae'n amlwg mai pobl o'r tu allan fydd yn ymgartrefu yma.
"Mae'n anorfod y byddai hyn yn creu cymuned anghytbwys ac yn cael effaith ar iaith y gymuned.
"Gwnewch beth sy'n iawn ac ewch yn erbyn yr argymhelliad."
Fe wnaeth y Cynghorydd Gruff Williams gynnig gwrthod gan mai "yng Nghaernarfon mae'r galw ac nid pen draw'r byd yma" ac ychwanegodd bod "dyletswydd ar gynghorwyr i fod yn geidwaid y Gymraeg".
Ond er gwaethaf rhybudd gan swyddogion o oblygiadau gwrthod a'r tebygolrwydd y byddai'r awdurdod yn colli unrhyw apêl, fe bleidleisiodd aelodau, o saith pleidlais i chwech, i wrthod y cais.
O ganlyniad bydd y cais yn cael ei ailgyflwyno am benderfyniad terfynol yn y cyfarfod nesaf ym mis Hydref yn dilyn cyfnod o gnoi cil.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2024
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd23 Awst 2024