Llŷn: Ailgyflwyno datblygiad gwyliau £6m 'yn destun pryder'

  • Cyhoeddwyd
Dyluniad o'r safleFfynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun ym Mynytho yn cynnwys gwesty deulawr 25 ystafell a thŷ tafarn

Mae cynllun i godi gwesty 25 ystafell mewn pentref gwledig yng Ngwynedd yn destun pryder, yn ôl cynghorydd lleol.

Fisoedd ar ôl tynnu cais i ddatblygu unedau gwyliau, mae datblygiad o'r newydd i adeiladu tafarn a gwesty wedi ei gyflwyno ar gyfer yr un safle ym mhentref Mynytho.

Yn ôl y datblygwr byddai'r cynllun yn golygu buddion economaidd i'r ardal ac yn cynnig mwy o lefydd parcio i'r neuadd bentref gerllaw.

Ond pryderu mae llawer yn lleol, medd cynghorydd sir yr ardal, gyda'r gwrthwynebiad yn parhau i fod yn gryf.

'Angen amlwg am westai o safon'

Roedd y cais gwreiddiol yn cynnwys codi 16 o unedau gwyliau, pum tŷ marchnad agored, tafarn a thŷ bwyta ym Mynytho ger Abersoch.

Y bwriad oedd codi'r datblygiad drws nesaf i'r neuadd bentref, ar safle tŷ a garej fasnachol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle arfaethedig drws nesaf i neuadd Mynytho

Gan ddadlau fod datblygiadau o'r fath yn helpu i gadw ysgolion a chyfleusterau lleol yn hyfyw, mynnodd yr ymgeisydd y byddai'r cynnig o fudd i breswylwyr ac ymwelwyr.

Ond yn dilyn gwrthwynebiad lleol, ym mis Mai fe benderfynodd dynnu'r cais yn ôl ac "ailystyried", cyn ailgyflwyno cais diwygiedig.

Mae'r cais amlinellol newydd yn hepgor yr unedau gwyliau a'r tai, ond yn cynnwys gwesty 25 ystafell ac yn cadw'r tŷ tafarn arfaethedig.

Yn ôl y datblygwr, John Fifield, byddai'r cynllun yn golygu buddsoddiad o rhwng £5m-£6m yn y rhan hon o Lŷn ac yn elwa'r gymuned leol.

Mae'r dogfennau cynllunio'n nodi y byddai'r gwesty deulawr o "ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad" gan ychwanegu y byddai'r prosiect yn gwneud defnydd o "safle addas".

"'Da ni wedi tynnu allan y tai ac fydd 'na faes parcio llawer mwy ar gyfer defnyddwyr y neuadd bentref," meddai John Fifield wrth Cymru Fyw.

"Dwi'n credu'n fawr fod angen gwesty fel hyn yn yr ardal.

"Mae 'na westai ym Mhwllheli ac Abersoch wedi bod yn cau dros y blynyddoedd ac mae 'na angen amlwg am wlâu a gwestai o safon fyddai ar agor drwy'r flwyddyn.

"Mae'r ymateb cychwynnol wedi bod yn dda hefo ychydig iawn o wrthwynebiad. Mae'n anodd rhoi cost union ond dwi'n tybio rydach chi'n sôn am fuddsoddiad o rhyw £5m-£6m.

"Does 'na ddim tafarn ym Mynytho yn amlwg a dwi'n siŵr fysa'n gwneud yn dda."

'Dwi'm yn gweld gwesty yn gweithio'

Ond gwrthwynebu'r cynllun mae llawer yn lleol yn ôl y Cynghorydd Angela Russell, gan ychwanegu bydd yn cael ei drafod gan y cyngor cymuned wedi'r Nadolig.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae'r cynlluniau wedi newid rhywfaint ond mae 'na dal lot o wrthwynebiad.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Cynghorydd Angela Russell mae gwrthwynebiad yn lleol

"Mae'n anodd pan mae gen ti dai tafarn yn cau ac eraill ond ar agor am hanner yr wythnos, dydi pobl ddim yn hapus a dwi wedi cael lot yn pryderu.

"Ym Mhwllheli maen nhw'n cymryd drosodd Gwesty'r Tŵr, Wetherspoons eisiau agor ystafelloedd... dwi'm yn gweld gwesty yn gweithio yn fan'ma."

Mae disgwyl i Gyngor Gwynedd drafod y cais dros y misoedd nesaf.

Ond gan mai cais amlinellol yw hwn, byddai'n rhaid derbyn caniatâd cynllunio llawn er mwyn dechrau ar y datblygiad.