Cyflwyno Parth Atal Ffliw Adar ar gyfer Cymru gyfan
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Parth Atal Ffliw Adar ar gyfer y wlad gyfan, fydd yn dod i rym ddydd Iau.
Mae'r mesurau yn golygu bod rheolau llymach ar gyfer unrhyw un sy'n cadw adar caeth.
Dywed y llywodraeth y bydd y mesurau mewn grym "nes bod gostyngiad mewn lefelau risg yn nodi nad oes ei angen mwyach".
Daw wedi i Loegr a'r Alban gyflwyno cyfyngiadau tebyg dros y penwythnos.
'Mesur rhagofalus'
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Materion Gwledig, nad oes unrhyw achos o ffliw adar difrifol wedi'i gofnodi yng Nghymru hyd yma y tymor hwn, ond bod y newidiadau'n cael eu cyflwyno fel "mesur rhagofalus".
"Ni chadarnhawyd unrhyw achosion o ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) mewn dofednod neu adar eraill a gedwir yng Nghymru hyd yn hyn y tymor hwn," meddai.
"Fodd bynnag, mae nifer yr achosion mewn heidiau dofednod yn parhau i gynyddu ledled Prydain Fawr ac mae risg uwch o drosglwyddo o adar gwyllt i adar a gedwir.
"Ar sail cyngor gan Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, rwyf wedi penderfynu cyflwyno Parth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan (AIPZ)."
Mae cyflwyno'r parth yn golygu y bydd gofyn i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill "gymryd camau priodol ac ymarferol", gan gynnwys:
Sicrhau nad yw'r ardaloedd lle mae'r adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt;
Bwydo a dyfrio'ch heidiau mewn ardaloedd caeedig rhag denu adar gwyllt;
Sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl o fannau caeedig lle cedwir adar;
Glanhau a diheintio esgidiau, defnyddio dipiau traed cyn mynd i mewn i ardaloedd caeedig dofednod, a chadw ardaloedd lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus;
Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw a bod rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch gorfodol yn cael ei gwblhau o fewn saith diwrnod.
Os yw pobl yn cadw mwy na 500 o adar, bydd gofyn iddyn nhw gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol hefyd, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad yw'n hanfodol eu bod yn dod i gysylltiad â'r adar, newid dillad neu esgidiau cyn mynd i fannau caeedig lle cedwir adar, a glanhau a diheintio cerbydau.