Dwyn o westy yng Ngwynedd gafodd ei ddifrodi gan dân - perchnogion

Llun o Westy Queens wedi ei ddifrodi, dim llawer o'r to yn weddill.
Disgrifiad o’r llun,

Mae perchnogion Gwesty Queens yn gofyn am unrhyw wybodaeth ynghylch y digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae perchnogion gwesty a gafodd ei ddifrodi gan dân ym Mlaenau Ffestiniog yn dweud bod achos o ddwyn wedi digwydd yno yn gynharach yr wythnos hon.

Cafodd Gwesty Queens yng nghanol y dref ei ddifrodi'n ddifrifol gan dân ddydd Sadwrn, gan adael sawl person heb unman i fyw.

Ond, mae perchnogion y gwesty'n dweud bod eiddo wedi'i ddwyn o'r adeilad nos Sul, er ei bod hi'n dal yn beryglus mynd i mewn.

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n dweud eu bod wedi dechrau ymchwilio i adroddiad bod "eitemau ar goll o'r gwesty".

Pawb yn ddiogel

Roedd neges ar dudalen Facebook y gwesty nos Lun yn dweud eu bod wedi rhannu'r fideo teledu cylch cyfyng gyda'r heddlu.

Maen nhw hefyd yn galw ar bobl i roi gwybod os welwn ni unrhyw un ar y safle sydd ddim yn gwisgo het galed.

Fe gafodd diffoddwyr tân eu galw i'r gwesty am 11.09 ddydd Sadwrn – a bu tua 40 o ddiffoddwyr yn gweithio am dros wyth awr i ddod â'r tân dan reolaeth.

Llwyddodd yr holl westeion a staff i adael yn ddiogel ar ôl i larymau ganu.

Fe ddywedodd y Gwasanaeth Tân fod yr adeilad wedi cael ei ddifrodi'n sylweddol yn enwedig yr ail lawr a'r gofod yn y to, a oedd yn cynnwys ystafelloedd atig.

Cafodd y llawr cyntaf ei ddifrodi'n wael hefyd gan y dŵr a ddefnyddiwyd i ddiffodd fflamau.

Ond ar hyn o bryd, dydyn nhw ddim yn gwybod yn union beth achosodd y tân.

Llun o ddiffoddwyr tân i fyny mewn craen yn saethu dŵr at yr adeilad
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adeilad hanesyddol yn dyddio'n ôl i 1867

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud eu bod yn "cefnogi unigolion a theuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan y tân yng Ngwesty Queens, Blaenau Ffestiniog, lle'r oedd nifer yn cael llety dros dro".

Ychwanegodd y llefarydd: "Trefnwyd llety arall ar unwaith a darparwyd eitemau hanfodol i helpu i gefnogi eu lles yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru maen nhw wrthi'n gwneud ymholiadau ynglŷn â'r eitemau coll ac maen nhw hefyd wedi dechrau "ymchwiliad ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i'r hyn achosodd y tân".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.