Cerflun Lloyd George ar faes Caernarfon wedi'i ddifrodi gan graffiti

Mae'r cerflun efydd wedi'i leoli ar y Maes ger Castell Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae cerflun o gyn-Brif Weinidog y DU, David Lloyd George, ynghanol Caernarfon wedi cael ei ddifrodi gan graffiti.
Mae paent coch wedi'i beintio ar y cerflun gyda geiriau a sloganau yn galw am 'Balesteina Rydd' ac yn galw Lloyd George yn wladychwr ("coloniser").
Yr awgrym ydy mai protestwyr o blaid Palesteina sy'n gyfrifol am y difrod.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod yn gwirio camerâu teledu cylch cyfyng (CCTV) yn yr ardal a bydd unrhyw wybodaeth berthnasol yn cael ei anfon ymlaen at yr heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod "yn ymwybodol o'r difrod i gerflun Lloyd George ar y Maes yng Nghaernarfon".
"Fel gydag unrhyw achos arall o graffiti mewn mannau cyhoeddus yn y sir, mae ein swyddogion yn ei lanhau cyn gynted â bo modd."

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi bod yn brysur yn glanhau'r paent i ffwrdd

David Lloyd George oedd yr unig Gymro i ddod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Mae'r cerflun efydd wedi'i leoli ger Castell Caernarfon, a chafodd ei godi yn 1921.
Cafodd ei greu gan Syr William Goscombe John a'i ddadorchuddio tra roedd Lloyd George yn dal i fod yn Brif Weinidog.


Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.