Sain Abertawe: Cofio gorsaf fu'n 'torri tir newydd' ers 1974

- Cyhoeddwyd
'Bore da' oedd y geiriau cyntaf i'w clywed am 6am, 30 Medi, 1974, wrth i Sain Abertawe gyfarch y gwrandawyr rhwng Penybont-ar-Ogwr a Sir Benfro.
Dyma oedd gorsaf radio annibynnol gyntaf Cymru, ac roedd yn darparu gwasanaeth ddwyieithog i'r de orllewin am y tro cyntaf.
Roedd yn gyfnod newydd cyffrous ym myd darlledu yng Nghymru a chafodd cenhedlaeth o ddarlledwyr a newyddiadurwyr eu cyfle cyntaf gyda Sain Abertawe/Swansea Sound.
Yn eu plith mae Siân Sutton, awdur Chwyldro ym Myd Darlledu; llyfr newydd sy'n cofnodi peth o'r hanes a rhoi atgofion pobl fu'n creu'r gwasanaeth newydd a rhai o'r gwrandawyr brwd ar gof a chadw.
Yma mae Siân yn cofio'n ôl i ddyddiau cynnar yr orsaf arloesol:

Y stiwdio newydd yn cael ei adeiladu cyn iddo agor yn 1974
Radio dwyieithog i'r de orllewin
Un o'r rhaglenni cyntaf i wneud argraff ar genhedlaeth o bobl ifanc ardal Sain Abertawe oedd Mynd am Sbin… gydag Aled Glynne. Roedd yn torri tir newydd wrth drafod y byd pop Cymraeg gan ddilyn arddull y rhaglenni poblogaidd ar Radio Luxembourg a gorsafoedd lleol newydd.
Sain Abertawe oedd y seithfed orsaf annibynnol i'w sefydlu drwy Brydain a'r gyntaf yng Nghymru i ddod â gwasanaeth dwyieithog i dde orllewin Cymru.

Erthygl o'r Cymro cyn Eisteddfod Dyffryn Lliw 1980 - y cyflwynwyr (clocwedd o'r chwith) Siân Sutton, Siân Thomas, Wyn Thomas, Siân Lloyd a Lyn Morgan
"Yn y cyfnod 'na oedd traean o holl Gymry Cymraeg Cymru yn byw yn yr ardal honno," meddai un o'r cyflwynwyr cyntaf, Glynog Davies, am ardaloedd Cwmtawe, Dyffryn Aman, Cwm Gwendraeth a Chaerfyrddin.
"Y Gymraeg oedd y brif iaith, felly roedd pobl yn eiddgar i glywed rhaglenni Cymraeg."
Grŵp o bobl fusnes lleol a enillodd y drwydded gyda'r bwriad o ddarparu 13% o'r darlledu yn y Gymraeg - dwy awr a hanner bob nos rhwng 6.30-9.00 a bwletinau newyddion a gwersi Cymraeg a chaneuon Cymraeg yn ystod y dydd.
Ac yn y dyddiau cynnar fe lwyddodd yr orsaf i ddenu 64% o bobl yr ardal i wrando ar y rhaglenni.
Dod â cherddoriaeth Gymraeg i ffans ifanc
Wrth greu amrywiaeth o raglenni Cymraeg, roedd Sain Abertawe yn arloesol ym myd darlledu yn enwedig pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i'r ardal yn 1980.
"Mi oedd yr Eisteddfod yn un o uchafbwyntiau fy nghyfnod i yn Sain Abertawe," meddai Wyn Thomas, y Pennaeth Rhaglenni Cymraeg ar y pryd, "bod yr Eisteddfod yn dod i Ddyffryn Lliw tua canllath o'r stiwdio."

Roedd Sain Abertawe yn ceisio apelio at y criwiau ifanc oedd yn heidio i'r ardal ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw
Am y tro cyntaf erioed roedd y Gymraeg i'w chlywed dros nos gyda'r rhaglen Lliw Nos gyda Siân Lloyd a Lyn Morgan yn anelu'n benodol at Eisteddfodwyr ifanc a dilynwyr y byd pop Cymraeg.
Roedd yn gyfnod "embryonig" i'r byd roc Cymraeg, yn ôl Richard Rees - y cyflwynydd radio a ddechreuodd ei yrfa gyda'r orsaf - wrth sôn am Edward H Dafis, Ac Eraill, Hergest a Sidan yn ychwanegol at recordiau Jac a Wil, Bois y Blacbord, Trebor Edwards a Hogiau'r Wyddfa.
Roedd stiwdio Sain Abertawe hefyd yn rhoi'r cyfle cyntaf i grwpiau newydd. Roedd y Trwynau Coch a'r Llygod Ffyrnig ymhlith y cyntaf i recordio yn ogystal â Meic Stevens, Heather Jones, y band roc trwm o Resolfen - Crys, Chwarter i Un, Eryr Wen a'r Diawled.

Siân yn helpu i ysbrydoli'r to ifanc i ddod yn gyflwynwyr y dyfodol
Magu cynulleidfa mewn cyfnod o newid
Roeddwn i yn Sain Abertawe rhwng 1979 a 1982, cyfnod o newid gwleidyddol a chymdeithasol yn sgil refferendwm datganoli Dydd Gŵyl Dewi, dechrau cyfnod Margaret Thatcher yn brif weinidog a'r protestio yn erbyn polisi'r llywodraeth geidwadol a'u heffaith ar ddiwydiannau a chymunedau Cymru.
Dyma hefyd pan gyhoeddodd arweinydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans ei fwriad i ymprydio dros sianel deledu Gymraeg.
Roedd ystafell newyddion Sain Abertawe yn dilyn yr hanes gan anfon gohebwyr i'r fan a'r lle, a gwleidyddion yn barod iawn ar y pryd i gyfrannu at raglenni.
"Mae clywed pobl yn siarad am Sain Abertawe o hyd yn yr ardal yn deyrnged i beth ga'dd ei wneud gan y lleisiau cynnar yn yr orsaf," meddai Garry Owen, fu'n darlledu gyda Sain Abertawe am wyth mlynedd cyn symud i BBC Radio Cymru, "yn ei sefydlu ac yn ennill cynulleidfa reit ar y dechrau - cynulleidfa a arhosodd yn deyrngar am flynyddoedd."

Garry Owen, yn y crys coch, gyda Willie Bowen - un o leisiau mwyaf cyfarwydd a phoblogaidd yr orsaf - a Gareth Wyn Jones - a fu gyda Sain Abertawe am dros 40 mlynedd tan 2017
Ac mae'r cof yn dal yn fyw iawn yn yr ardal am raglenni poblogaidd Willie Bowen a chyfraniad Gareth Wyn Jones dros ddeugain mlynedd.
Er i orsafoedd annibynnol eraill gael eu sefydlu yng Nghymru, prin yw'r cof am orsaf Caerdydd, CBC, Radio Gwent, Sain y Gororau a hyd yn oed Radio Ceredigion, Sir Gâr erbyn hyn, a Sain Abertawe oedd yr unig orsaf i gyfrannu dros bedwar degawd.
Daeth yr enw, Sain Abertawe, i ben yn 2020.
"Allwn ni ddim â thanbrisio Sain Abertawe, papur bro Glo Man a rhaglen Heno mewn cadw'r Gymraeg yn fyw yn Nyffryn Aman," meddai'r tiwtor iaith Adrian Price. "Oedd e'n beth mawr i bobl glywed eu tafodiaith leol ar y tonfeddi."

Mae llyfr atgofion am Sain Abertawe newydd gael ei gyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch
Cafodd fersiwn o'r erthygl yma ei chyhoeddi'n wreiddiol yn 2021.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd12 Medi 2024