O Ddulyn i Canberra: Dydi darlledu'r Gymraeg o dramor ddim yn newydd
- Cyhoeddwyd
Mae’r oes ddigidol wedi codi rhwystrau o bob math, ond hefyd datrysiadau.
Dros Zoom yn bennaf y bydd y podlediad newydd, Rhaglen Cymru, yn cael ei gynhyrchu, a hynny gan Andy Bell, o'i gartref ger prifddinas Awstralia, Canberra.
Bydd y gyfres yn trafod pob elfen o ddarlledu, ac fel mae Andy yn ei egluro, mae wedi dod i ddeall fod creu rhaglenni Cymraeg o tu hwnt i ffiniau Cymru ddim yn beth newydd...
Ar draws Môr Iwerddon
Yn weddol fuan wedi sefydlu’r Wladwriaeth Wyddelig Rydd (Irish Free State) yn 1926, sefydlwyd gorsaf radio 2RN yn Nulyn (a ddaeth yn ddiweddarach yn Radio Éireann).
Cafodd rhaglen Gymraeg ei chreu gan yr orsaf, gan fod ei chynnwys yn cyrraedd arfordir Cymru ac, yn ôl y stori, fel ffordd o godi embaras ar y BBC. Ar y pryd, prin iawn oedd rhaglenni Cymraeg ar radio’r Gorfforaeth, er fod ‘na ganeuon Cymraeg ar yr awyr.
Mae dogfen a arwyddwyd rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon ym mis Mawrth 2021 - Iwerddon-Cymru Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021 i 2025 - yn cadarnhau fod "y darllediad radio cyntaf yn y Gymraeg wedi’i wneud o Ddulyn".
Yn ôl A History of Independent Television in Wales gan Jamie Medhurst: “The station producing the most substantial amount of Welsh language programmes at the time was Radio Éireann located in Dublin, who understood that their broadcasts could be picked up by the Welsh speaking communities of west Wales.”
Gan mai darlledu'n fyw oedd yr arfer bryd hynny, does yna ddim recordiadau wedi goroesi o'r cyfnod, yn anffodus.
Newyddion Cymraeg dyddiol o Lundain
Wrth i’r Ail Ryfel Byd gychwyn fe gafodd gorsaf radio Cymru (Welsh Regional Programme) ei chau ac fe gafodd un orsaf Brydeinig, Saesneg-ei-hiaith ei chreu: Home Service.
A hithau'n gyfnod brawychus, roedd angen cyfathrebu gyda phawb am y sefyllfa oedd ohoni: rheolau am ddiffodd goleuadau yn ystod y blackout, cyfarwyddiadau am deithio a defnyddio ceir... cyhoeddiadau swyddogol o bob math.
Fe eglurodd Swyddog Bwyd De Cymru, Thomas Jones bod rhaid gwneud rhywbeth yn Gymraeg mewn llythyr at Gyfarwyddwr Gwybodaeth a Chyhoeddiadau’r BBC. “We have a large number of people in my division as well as in the North Wales Division who really do not understand English”.
Ar 17 Medi 1939, fe gychwynnodd rhaglen ddyddiol: Crynhodeb o’r Cyhoeddiadau Swyddogol yn Gymraeg. Ac o fewn dim o dro, trodd y crynodeb i fod yn fwletin newyddion dyddiol am 5pm dros Brydain benbaladr.
Penderfynwyd lleoli uned y cyhoeddiadau yn Llundain. Ansawdd bregus y llinellau sain rhwng Caerdydd a’r brifddinas oedd y rheswm swyddogol, ond roedd rhai yn amau hynny.
Fe gafodd y newyddion am bump sawl scoop dros y blynyddoedd gan mai hwn oedd bwletin cyntaf y noson.
Roedd un enghraifft syfrdanol yn 1943 pan roedd y bwletin Cymraeg y cyntaf o holl fwletinau’r BBC i gyhoeddi’r cadoediad rhwng yr Eidal a’r Cynghreiriaid.
O Paris... gyda chariad
Yn 1959 cynhyrchwyd rhaglen Gymraeg o Paris trwy gyd-weithrediad ag Ewrodeledu (Eurovision) a ORTF, teledu Ffrainc.
Yn ôl y Radio Times: “Gwahoddir chi gan Havard Gregory i gwrdd a rhai o'r Cymry sy'n byw ym Mharis, yn y rhaglen Gymraeg gyntaf erioed i'w theledu o'r cyfandir trwy'r cyfrwng Ewrodeledu”.
Roedd y telediad yng ngofal Selwyn Roderick, tad Vaughan a Siân Roderick, gwesteion cyntaf Rhaglen Cymru.
Gwylio Granada
Mae cwmni teledu masnachol Granada yn enwog am greu Coronation Street, ond fe fuodd yn gyfrifol am greu delwedd newydd o ddarlledu Cymraeg ar y teledu.
Gan ddechrau yn 1957 roedd Granada yn darlledu yn y Gymraeg i wasanaethu gogledd Cymru. Nid oedd y Gogledd yn rhan o diriogaeth swyddogol y cwmni, ond roedd yn gyfle i ychwanegu oriau (a chyfle i werthu hysbysebion) ar adeg pan oedd nifer yr oriau teledu yn gyfyngedig.
Cafodd sawl un eu cyfle cyntaf yn Granada gan gynnwys Owen Edwards, pennaeth BBC Cymru a Chyfarwyddwr cyntaf S4C.
Daeth y teledu o Fanceinion i ben pan ddaeth Teledu Cymru/WWN ar yr awyr ar 14 Medi 1962.
Dyn ni ddim yn mynd i Birmingham?
Pan aeth teledu o ddu a gwyn i liw, roedd y broses o addasu offer a stiwdios yn araf. Am gyfnod yn y 70au dim ond y newyddion – Heddiw a Wales Today – oedd yn cael eu darlledu’n lliw.
O ganlyniad bu rhaid i BBC Cymru ddefnyddio stiwdios dros y ffin yn Pebble Mill, Birmingham.
Ymhlith y cynyrchiadau a gafodd eu symud i Loegr oedd Ryan a Ronnie, Pobol y Cwm a fersiwn Cymru o Top of the Pops, Disc a Dawn.
Doedd aelodau o’r grŵp Y Tebot Piws - Dewi Pws yn eu plith - ddim yn hapus gyda’r fath drefniant, ac mae’r gân Dyn ni ddim yn mynd i Birmingham yn brawf o hynny...
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae pennod gyntaf Rhaglen Cymru ar gael o 14/09/24
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd17 Awst
- Cyhoeddwyd22 Mai
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2023