Carcharu dyn o'r Bontnewydd oedd â 56,000 o luniau cam-drin plant

Paul RobertsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Paul Roberts fideo hyfforddi ar gyfer pedoffiliaid, gyda chyfarwyddiadau sut i gam-drin yn rhywiol

  • Cyhoeddwyd

Mae pedoffeil o'r Bontnewydd ger Caernarfon - oedd â 56,000 o ddelweddau cam-drin plant - wedi cael ei garcharu am dair blynedd a hanner.

Roedd gan Paul Roberts, 68, fideo hyfforddi ar gyfer pedoffiliaid, gyda chyfarwyddiadau sut i gam-drin yn rhywiol.

Dywedodd y Barnwr Timothy Petts yn Llys y Goron Caernarfon fod "rhai o'r delweddau a'r fideos o'r difrifoldeb mwyaf posib".

Ychwanegodd fod gan Roberts "ddim diddordeb mewn newid ei ffyrdd" ac mai hwn oedd "o bosib yr achos gwaethaf o'r math yma i mi ei weld".

'Haerllug a diystyriol'

Roedd Roberts wedi cyfaddef gwneud delweddau anweddus a chael y llawlyfr pedoffiliaid ar ôl i'r heddlu ei arestio ym mis Gorffennaf 2023, ac archwilio ei ffôn a'i gyfrifiadur.

Dywedodd yr erlynydd, Laura Knightly, nad oedd bron i 400,000 o ddelweddau a fideos wedi eu categoreiddio, ond bod hi'n ymddangos bod llawer iawn yn cynnwys deunydd cam-drin plant.

Roedd rhai o'r plant oedd yn y delweddau yn ymddangos dan ddylanwad cyffuriau.

Dywedodd y Barnwr Petts wrth Roberts: "Rydych chi, dros gyfnod, mae'n ymddangos, o sawl blwyddyn, wedi casglu casgliad enfawr o ffotograffau a fideos o gam-drin plant yn rhywiol."

Dywedodd y barnwr fod Roberts wedi cael ei ddisgrifio fel dyn "haerllug a diystyriol" a bod "diffyg difaru".

Bydd Roberts hefyd yn destun gorchymyn atal niwed rhywiol.