Difrod i do ysbyty ar ôl digwyddiad argyfwng i gostio £28m

Golygfa o'r to
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r olygfa o'r gwaith adnewyddu sylweddol sy'n digwydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru

  • Cyhoeddwyd

Yn dilyn digwyddiad o argyfwng yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym mis Hydref, fe wnaeth arbenigwyr ganfod fod yna risg 'ar unwaith' i'r cleifion.

O ganlyniad i "nam cynllunio", roedd 'na ddifrod sylweddol i do yr ybsyty ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda'r glaw yn ei ddal o dan llwyth o deils concrit, ac yn rhydu'r pren oedd yn eu dal i fyny.

Dywedodd pensaer yr adeilad - a gafodd ei adeiladu 40 mlynedd yn ôl - fod y sefyllfa yn "ddifrifol".

Yn dilyn y digwyddiad o argyfwng, bu'n rhaid cau'r llawr gyntaf i gyd a symud yr uned gofal dwys.

yr ysbyty o'r awyr
Disgrifiad o’r llun,

Bron i £28m yw cost adnewyddu'r to i gyd ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru

Mewn mater o oriau, fe gollodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg 10 ward, wyth theatr a bu'n rhaid iddyn nhw adleoli uned gofal dwys mewn adeg lle'r oedd 'na bwysau enfawr ar ysbytai Cymru i daclo rhestrau aros hirfaith.

Bu'n rhaid symud yr uned gofal dwys - a oedd yn cynnwys naw gwely - i adran a oedd gynt yn theatr ar gyfer triniaethau llygaid.

Yn ddiweddarach, bu'n rhaid symud oddi ar y safle, i ysbyty gwahanol - un enghraifft o effaith y sefyllfa ar y bwrdd iechyd.

Dywedodd Dr Gareth Roberts, arweinydd clinigol i ofal critigol, fod sicrhau bod anwyliaid y cleifion yn derbyn y wybodaeth gywir yn rhan fawr o'r symud.

Mae'r to bellach wedi ei drwsio uwchben yr uned gofal dwys gwreiddiol, ond parhau mae'r gwaith o adnewyddu'r uned ei hun.

Dr Gareth Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Gareth Roberts fod ganddo "deimladau cymysg" wrth gerdded rownd y ward am y tro cyntaf ers iddyn nhw orfod symud allan

Dywedodd Paul Mears, prif weithredwr y bwrdd iechyd, mai endosgopi a thriniaethau orthopedig oedd wedi eu cynllunio sydd wedi wynebu'r her fwyaf o ganlyniad i'r sefyllfa.

Dywedodd Mr Mears eu bod wedi trefnu lle ychwanegol yn ysbyty Brenin Charles ac yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

"Mae wedi ein gwthio yn ôl rai misoedd, ond rydym eisiau dychwelyd cyn gynted â phosib am ein bod yn cydnabod bod cleifion wedi aros am amser hir," ychwanegodd.

Paul Mears
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Paul Mears bod y sefyllfa "wedi gwthio ni 'nôl rai misoedd"

Dywedodd y pennaeth nyrsio, Catherine Theron, ei bod yn hanfodol i sicrhau fod y staff a'r gymuned leol yn sylwi mai newidiau byrdymor yn unig yw'r rhain.

"Rydym ond wedi cael cyfnod byr i geisio symud pawb ar unwaith," meddai.

"Mae wir wedi dangos gwytnwch ein tîm a chymuned yr ysbyty. Mae pawb wedi dod ynghyd."

Mae rhannau mawr o'r to newydd wedi ei orchuddio â phaneli solar; sydd ar gapasiti llawn yn medru cynhyrchu 50% o'r trydan sydd ei angen ar yr ysbyty.

Catherine Theron
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Catherine Theron ei fod yn hanfodol i sicrhau fod y staff a'r gymuned leol yn sylwi mai newidiadau byrdymor yn unig yw'r rhain

Mae cyfanswm ôl-groniad cynnal a chadw y GIG ar draws Cymru yn nesáu at £977m - gyda'r mwyafrif yn cynnwys risg uchel neu risg sylweddol.

Dywed Mr Mears fod ceisio rheoli'r gofal iechyd law yn llaw â'r gwaith adnewyddu yn anodd ei gydbwyso.

"Mae'n golygu fod yn rhaid i ti wneud penderfyniadau anodd," meddai, gan ychwanegu eu bod yn gwerthfawrogi cymorth y llywodraeth i ehangu cyllideb cyfalaf y GIG y flwyddyn nesaf.

Bron i £28m yw cost adnewyddu'r to i gyd ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae rhan gyntaf adnewyddu'r to 10,000 metr sgwâr wedi ei gwblhau, sy'n golygu bydd adrannau mamolaeth, gofal newydd enedigol ag uned ofal arbennig i fabanod yn dychwelyd i'r safle ymhen rai wythnosau.

Mae disgwyl i'r cyfan i gael ei orffen erbyn mis Awst.