Person wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Dinbych-y-pysgod

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4139 rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenalun nos Lun
- Cyhoeddwyd
Mae person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Benfro.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Volkswagen arian a BMW brown ar yr A4139 rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenalun tua 22:15 nos Lun.
Bu farw un person yn y fan a'r lle, ac fe gafodd unigolyn arall ei gludo i'r ysbyty, ond dyw'r heddlu ddim yn credu bod ei anafiadau yn peryglu ei fywyd.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu.