Cynllun i ofalu am anifeiliaid anwes dioddefwyr trais
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o gefnogaeth ar bobl sy'n ceisio ffoi rhag trais yn y cartref wrth ofalu am anifeiliaid anwes.
Mae BBC Cymru wedi siarad â goroeswyr sy'n dweud bod angen gwneud mwy i sicrhau fod pobl yn gallu dianc heb orfod gadael eu hanifeiliaid.
Yn ôl ymchwil gan elusen anifeiliaid, doedd dim un o’r 31 o lochesi menywod a sefydliadau cam-drin domestig yng Nghymru a gafodd eu holi yn fodlon derbyn anifeiliaid anwes gyda’u perchnogion.
Dywedodd Cymorth i Ferched Cymru fod hyn yn amlygu’r angen am “systemau cymorth cynhwysfawr” yng Nghymru, a fydd yn mynd i’r afael â phob agwedd ar fywydau goroeswyr.
Allan o'r 31 o sefydliadau lloches oedd wedi ateb holiadur Cats Protection fe wnaeth 27% ddweud y bydden nhw yn ystyried caniatáu anifeiliaid anwes o dan "amgylchiadau cyfyngedig".
Tra bod anifeiliaid anwes yn aml yn gysur i bobl sy’n profi cam-drin domestig, maen nhw hefyd yn gallu bod yn rhwystr i gael mynediad at ddiogelwch.
Roedd gan Claudia, nid ei henw iawn, nifer o anifeiliaid gyda'i chyn-bartner yn ne Cymru, nes iddo ddechrau eu defnyddio fel ffordd o reoli ei harian hi - ffurf gyffredin o reoli drwy orfodaeth.
“Byddwn i’n cael fy ngherdyn banc wedi’i dynnu oddi arnaf pe bai un o’r anifeiliaid yn sâl fel na allwn fynd â nhw at y milfeddyg,” meddai.
“Doedd e ddim eisiau i arian gael ei wastraffu arnyn nhw.”
'Fe wnes i aros ar gyfer yr anifeiliaid'
Yn ôl Claudi,a hi yn unig oedd yn gyfrifol am ofalu am eu hanifeiliaid.
Ar un achlysur, roedd ei chyn-bartner yn bygwth lladd anifail, yn hytrach na chaniatáu iddi fynd ag ef at filfeddyg.
“Fe wnaeth e fygwth mynd â’r anifail at ei ffrind oedd â gwn er mwyn saethu’r anifail.
“Roedd y bygythiadau i fywydau’r anifeiliaid yn gyson,” a hynny i'w chadw yn y berthynas, meddai.
“Fe wnes i aros a gwarchod yr anifeiliaid am flynyddoedd,” ychwanegodd.
“Roeddwn i’n sownd, ac roedd yn rhaid i mi wneud unrhyw beth y gallwn i’w cadw’n ddiogel.”
Eleni fe ddywedodd mwy na 150 o oroeswyr wrth Cymorth i Ferched Cymru y byddai eu hanifeiliaid anwes mewn perygl pe byddent yn gadael eu perthynas dreisgar.
Mae elusennau anifeiliaid blaenllaw wedi cyflwyno gwasanaethau maethu yng Nghymru yn benodol ar gyfer pobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig, er mwyn sicrhau cartref dros dro diogel i'w hanifeiliaid wrth iddynt geisio diogelwch.
“Rwy’n meddwl am y sefyllfa y byddai’r anifail ynddi,” meddai Jules, un o’r rhai sy’n cymryd yr anifeiliaid anwes dros dro trwy Cats Protection.
"Gallai teulu fod yn ddigartref yn sydyn a does dim modd iddyn nhw feddwl am anifeiliaid anwes. Ni allant fynd â'r gath honno gyda nhw."
Agorodd elusen Cats Protection eu canolfan gyntaf yng Nghymru ym mis Mawrth, ar ôl derbyn nifer cynyddol o achosion o Gymru.
“Hyd yn hyn, rydyn ni wedi helpu mwy 'na 30 o gathod, sy’n golygu bod 16 o'u perchnogion wedi cyrraedd diogelwch,” meddai Charlie Munden, o’r elusen.
Mae gwasanaethau Cats Protection a Dogs Trust yn talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â gofalu am anifail.
Maen nhw'n gyson yn chwilio am faethwyr newydd i ofalu am anifeiliaid anwes dros dro, tra bod eu perchnogion yn chwilio am lety diogel.
- Cyhoeddwyd25 Medi 2024
- Cyhoeddwyd22 Mai 2023
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2021
“Mae goroeswyr yn bobl gyflawn,” meddai Stephanie Grimshaw, Pennaeth Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu Cymorth i Ferched Cymru.
“Nid dim ond rhywun sydd wedi mynd trwy drais yn erbyn menywod a merched ydyn nhw.
"Maen nhw'n rhywun sydd â chi, cath, neu fochdew... mae ystyried rhoi nhw i ffwrdd am byth yn ormod.
“Mae angen i ni wneud yn siŵr wrth gefnogi goroeswyr eu bod nhw'n cael eu gweld fel person cyfan gyda phob agwedd o'u bywyd, ac nid dim ond yr hyn maen nhw'n mynd drwyddo ar hyn o bryd,” ychwanegodd Ms Grimshaw.
'Wnaethon nhw gadw fi'n fyw'
Wedi cyfnod ar wahân, mae Claudia a'i hanifeiliaid anwes gyda'i gilydd unwaith yn rhagor.
“Fe allwn ni fynd am dro nawr a pheidio â gorfod poeni bod rhywun yn ein dilyn ni, neu fod rhywun yn mynd i geisio eu dwyn oddi arnaf.
“Roedd yna adegau pan o'n i'n meddwl 'alla i ddim byw fel hyn bellach' ond maen nhw eich angen chi - felly mae'n rhaid i chi.
"Dwi'n gorfod cadw nhw'n ddiogel oherwydd wnaethon nhw gadw fi'n fyw."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.