'Gobaith o hyd' er gwaethaf cau un o gapeli Cymraeg Lloegr

Mae capel Cymraeg Altrincham newydd gau, gyda'r gynulleidfa bellach yn mynd i gapel Cymraeg Manceinion
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog wedi dweud nad yw "dyfodol capeli Cymraeg Lloegr yn dywyll i gyd", er gwaethaf cau capel Cymraeg Altrincham yn ddiweddar.
Cafodd Capel Willow Tree Road, wyth milltir i'r de-orllewin o Fanceinion, ei agor yn 1903.
Ymhlith yr aelodau cyntaf roedd merched o Gymru oedd wedi dod i weini yn y tai crand gerllaw, a dynion oedd yn gweithio ar gamlas y Manchester Ship.
Dywedodd gwenidog y capel, y Parchedig Robert Parry, fod cau "yn brofiad hynod o drist", ond bod ganddo obaith o hyd am y dyfodol.
Mae'r aelodau oedd ar ôl bellach yn mynd i gapel Cymraeg Oaker Avenue yn Didsbury, ac mae'r gweinidog hefyd wedi dechrau dwy ysgol Sul mewn cartrefi yn ardaloedd Urmston a Knutsford i rai sy'n methu mynd i'r capel.

Fe wnaeth y capel ddathlu ei ganmlwyddiant yn 2003
Mae'r Parchedig Robert Parry hefyd yn weinidog ar gapeli eraill yn Lloegr - Capel Seion ym Mhenbedw, Capel Bethania yn Waterloo yn nociau Lerpwl, Capel Bethel, Heathfield Road yn Lerpwl, ac ef bellach sydd yng ngofal Capel Noddfa, Oaker Avenue ym Manceinion.
"Dwi'n falch o ddweud bod pobl sy'n symud i Loegr yn parhau i weld y capel fel man cyfarfod a chymdeithasu yn Gymraeg," meddai wrth Cymru Fyw.
"Mae gynnon ni rai teuluoedd sydd wedi dechrau dod i Bethel yn Heathfield Road.
"Un o'r pethau dwi wedi dechrau 'neud acw yw ailddechrau yr oedfa hwyrol bob deufis a chynnal clwb cyri ar ôl hynny - mae hynna i weld yn denu pobl iau a gobeithio bydd myfyrwyr yn dod hefyd.
"Mae gynnon ni hefyd oedfa deuluol ar y trydydd bore Sul ymhob mis - mae hynna hefyd yn fodd i ddenu rhai, a'r nod yw denu mwy o blant.
"Y Nadolig diwethaf fe gawson ni oedfa yng ngolau cannwyll ar y Sul cynt, ac roedd y capel yn orlawn a daeth 16 o blant i'r parti Nadolig - rhywbeth na sydd wedi digwydd ers blynyddoedd.
"Wrth gynnal dwy Ysgol Sul newydd mae rhywun yn parhau â'r dystiolaeth er bod y brics wedi mynd."

Mae Capel Bethel Birmingham yn un o'r capeli Cymraeg yn Lloegr
Dywedodd Nan Wyn Powell-Davies, ysgrifennydd cyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd, fod "capeli Cymraeg yn Lloegr yn prinhau, ond mae eu cyfraniad nhw oll yn hynod o bwysig".
"Ry'n yn hynod o ddiolchgar i bawb sy'n cynnal gweithgareddau yn y capeli sydd ar y ffin ac yn Lerpwl, Manceinion, Coventry, Birmingham a Llundain - yn fanno wrth gwrs mae capeli Y Drindod yn Cockfosters, Jewin, Ealing, Moreia Leytonstone, Sutton a Clapham, ynghyd ag eglwysi sy'n perthyn i enwadau eraill wrth gwrs.
"Yn ogystal â bod yn sefydliadau crefyddol mae'r capeli yn gyfle hefyd i gymdeithasu yn Gymraeg."
'Dyfodol i eglwysi dros y ffin'
Bu'r Parchedig Eleri Edwards yn gweinidogaethu ym Manceinion am flynyddoedd, ac mae'n parhau i fynd i gapel Cymraeg Noddfa yn y ddinas.
"Ydy, mae'r nifer yn mynd yn llai ac yn hŷn, ond mae'r ffyddloniaid yn ffyddlon dros ben - ac mae gan y capel ym Manceinion ran bwysig i'w chwarae o hyd," meddai.
"Yr hyn sy'n bwysig yw gwneud y gorau o'r hyn sydd ar ôl a pheidio meddwl gormod am ddyddiau da y gorffennol.
"Rhaid wynebu'r dyfodol yn gadarn, a phwy a ŵyr beth a all ddigwydd yn y dyfodol?
"Mae yna nifer o grwpiau Cymraeg yn cyfarfod ym Manceinion bellach."
Ychwanegodd y Parchedig Robert Parry: "Dwi'n credu bod dyfodol i eglwysi dros y ffin - efallai bod y niferoedd yn llai a bod llai o adeiladau.
"Mae Cymry yn dal i symud i'r dinasoedd ac mae 'na grwpiau o ddysgwyr ymhobman," ychwanegodd y Parchedig Robert Parry.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2024