Ateb y Galw: Mari Gwenllian

Mari GwenllianFfynhonnell y llun, Mefus
  • Cyhoeddwyd

Mari Gwenllian sydd yn Ateb y Galw yr wythnos yma.

Yn artist sy'n creu paentiadau haniaethol a lluniau o gyrff noeth, mae hi'n ceisio annog hunan-hyder ac ysbrydoli eraill gyda'i gwaith.

Mae hi hefyd yn canu gyda'r grŵp Sorela a'r criw cabaret, Cabarela.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Fy atgof iawn cyntaf yw derbyn ci bach ar fy mhenblwydd yn wyth.

Ar ôl dod adre o'r ysgol ac ymladd gyda Gwenno fy chwaer am y soffa gore yn y lownj, daeth Mam a Dad i ôl fi i fynd i weld beth oedd ar y patio.

O'n i wedi gofyn am rollerblades ar fy mhenblwydd; ar ôl blynyddoedd o ofyn am gi bach, erbyn hyn o'n i di rhoi lan ar ofyn. Es i mas i weld bocs mawr cardbord a meddwl 'od, pam bod bocs rollerblades mor fawr...? A pam bo nhw'n rhoi nhw i fi tri diwrnod cyn fy mhenblwydd?'

Agores i'r bocs a gweld y jack russell mwya tiny yn crynu yng ngwaelod y bocs. Ar ôl crio dagre o hapusrwydd a dal e mor mor ofalus nes i benderfynu galw fe'n Snwff, a bu Snwff fyw i fod yn 17.5 mlwydd oed.

Mari a SnwffFfynhonnell y llun, Mari Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

Mari a Snwff - ei hanrheg penblwydd yn wyth oed

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Cryf, creadigol ac anxious.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Un personol iawn a hollol unrelatable... Dechreuais i draddodiad o fynd i ffwrdd gyda grŵp o ffrindiau dros fy mhenblwydd pan o'n i'n 25 ac o'dd y trip cynta i Lille yn Ffrainc.

O'dd hwn cyn i unrhywun gal plant a chyfrifoldebau. 'Natho ni dreulio penwthnos cyfan yn chware cardiau, yfed peints, byta bwyd neis a cherdded o gwmpas.

A'th bron pob dim o'i le dros y penwthnos - o'r Eurostar yn ca'l ei ganslo, i ddal yr Eurostar nôl adre sans un person gan ei bod wedi colli pasbort.

Er hyn gatho ni yr amser gore a ma un fideo o bawb yn chware gêm yfed... sydd yn anodd esbonio... Ond ma fideo o'r noson yna wastad yn codi calon ac yn 'neud i fi chwerthin.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Wow cwestiwn anodd a ma' 'da fi gyment o atebion i hwn.

Siŵr o fod tŷ Mam - tŷ fy mhlentyndod. Ma'r tŷ ei hun yn gorgeous; tŷ mawr cerrig gwyn gyda gardd mawr a chaeau gyda nant fach mewn cwm o'r enw Trefeurig ar gyrion Aberystwyth.

Er hyn, yn amlwg fy hoff beth am dŷ mam yw'r atgofion o fy mhlentyndod yn chware a 'neud peis mwd, chware bands gyda Ellis drws nesa (sef Ellis o Mellt - claim to fame) a gwisgo lan mewn bagiau bin gyda fy chwiorydd (very 90s).

Tŷ yn yr haulFfynhonnell y llun, Mari Gwenllian

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Yn ystod 2021 'natho' ni berfformio Cabarela rhithiol i ddathlu'r Steddfod. O'dd hanner y noson wedi ei ffilmio o flaen llaw a hanner yn ca'l ei ddarlledu'n fyw.

Gan ei fod yn mis Awst odd pawb 'di gwisgo mewn lliwiau llachar a nes i wisgo pinc (obvs). Odd da fi fest bach tiny gyda chrys cropped iawn dros ei ben. Wrth ddawnsio a bod yn wirion yn y cefndir ar un shot nes i godi fy mreichie a dawnsio bach yn rhy enthusiastic a 'nath eitha lot o nipl i'r golwg.

Ges i live stream nip slip. Odd hwnna mor embarrassing.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Ohhh fi'n crio pob whip stitch. Crio yw ymateb fi i bob peth, pob emosiwn - hapus? Crio. Crac? Crio. Nerfus? Crio. Frustrated? Crio.

'Nes i grio GYMENT ar ddiwedd gwylio Adolescence ar fy mhenblwydd, dyna oedd y tro dwetha - just pedwar diwrnod yn ôl...

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Gan bod psoriasis gyda fi, fi'n ca'l clustie sy'n cosi yn aml a felly wigglo fy nghlustie mewn ffordd eitha annoying fi'n siŵr.

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

O'dd ein tŷ ni yn tŷ o'dd yn cal yr holl house parties pan o'n i yn fy arddegau. Bydde ni'n cal parti tair gwaith y flwyddyn - un yr un i benblwyddi y tair o ni ac o'dd pob un yn wisg ffansi gyda thema eitha specific fel arfer.

Gwenno fel buwch, Lisa fel iâr a Mari fel malwodenFfynhonnell y llun, Mari Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

Gwenno fel buwch, Lisa fel iâr a Mari fel malwoden

Un noson fi'n cofio'n glir oedd thema 'anifeiliad fferm'. Nes i wisgo lan fel malwoden (questionable fel anifail fferm); o'n i 'di treulio w'thnose yn neud cragen papier-mâché ac odd pawb yn meddwl bod fi di gwisgo lan fel turd yn anffodus.

O'dd Lisa 'di gwisgo fel iâr a 'di 'neud ffrog mas o chicken wire a phlu. Odd top dre Aberystwyth yn edrych fel lladdfa o'r holl blu dros y clybie a thafarndai i gyd.

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Fi'n joio My Therapist Ghosted Me - dyma be fi'n gwrando arno pan fi'n mynd i'r gym. Ma'n teimlo fel cwmni neis ac yn eitha mindless. Fi hefyd mor obsessed gydag acenion Vogue Williams a Joanne McNally.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Fi'n gallu bod bach yn socially awkward felly 'sai'n meddwl bydde fi moyn diod gyda rhywun dieithr.

Mor clichéd â ma'n swnio, bydde fi wrth fy modd yn cal paned gyda Nain a gallu gweld a theimlo ei boche llyfn lush.

Nain MariFfynhonnell y llun, Mari Gwenllian

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

'Nes i ennill cystadleuaeth sir Ceredigion o greu poster diogelwch tân pan o'n i'n fach. Nes i lun tŷ pinc ar ddarn o kitchen roll a rhoi bach o ddŵr arno fe i 'neud iddo fe edrych fel petai'r tŷ yn toddi.

O'n i'n browd iawn o hwnna, o'n i yn y papur newydd a phopeth!

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Bydde fi'n dechre'r dydd wrth orwedd ar y trampolîn yn nhŷ mam gyda'r haul ar fy ngwyneb, a mynd i Medina yn Aberystwyth am ginio a falle nofio yn y môr yn Ynys las. A gorffen y dydd gyda barbeciw yn yr ardd.

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Ma' gyment o lunie galle fi sôn amdanynt ond fi yn really caru un llun gafodd ei dynnu yn ystod Steddfod llynedd ble ma fy nithod yn rhoi sws i fi ar bob boch a ma'n dod ag atgofion mor neis i fi.

SwsusFfynhonnell y llun, Mari Gwenllian

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Bydde fi yn mynd nôl i fod yn Mari chwe blwydd oed. O'dd hi'n rhydd, yn byw yn y wlad heb unrhyw gyfrifoldebau, yn canolbwyntio ar wella ei sgiliau monkey bar.

Fi'n aml yn genfigennus o blant - they don't know how good they've got it.