'Dwi'n cwestiynu oes angen mynd mas oherwydd diffyg tai bach hygyrch'

Mae Cat Dafydd, 47, weithiau'n penderfynu peidio gadael y tŷ oherwydd safon rhai tai bach hygyrch
- Cyhoeddwyd
Mae mynd i siopa yn ystod hanner tymor yn weithgaredd ddigon cyffredin i sawl teulu, ond i Cat Dafydd, sy'n defnyddio cadair olwyn, mae'n gallu bod yn destun pryder.
Yn ôl y fam i bedwar 47 oed o Landysul mae angen cynllunio o flaen llaw i wybod lle mae'r tai bach hygyrch fwyaf addas, gan fod llawer ohonyn nhw yn cael eu defnyddio fel "storfeydd".
Mewn arolwg diweddar dywedodd 73% o bobl ar draws y Deyrnas Unedig nad oedden wedi gallu cael mynediad i dŷ bach hygyrch.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymgynghori ar eu Cynllun Hawliau Pobl Anabl er mwyn "dileu rhwystrau ymhellach" i bobl anabl Cymru.
'Storfa' i eitemau glanhau
Yn ôl Cat Dafydd mae teithio i ardaloedd newydd yn gallu bod yn bryder os nad yw hi'n gwybod lle mae'r tai bach i bobl anabl, ac mae eu safon, meddai, yn amrywiol.
"Rhan fwyaf o'r amser mae rhywbeth yn y ffordd - highchairs neu mops a bwcedi, cadeiriau. Maen nhw'n defnyddio'r tai bach fel rhyw fath o storage area.
"Rhan fwyaf o'r amser mae angen i mi ofyn am help, i fynd mewn a symud pethau o gwmpas."
Ychwanegodd ei bod weithiau'n penderfynu peidio gadael y tŷ am ei bod yn poeni am safon cyfleusterau.
"Os dwi'n mynd rhywle dwi heb fod o'r blaen a dwi ddim yn gwybod ble mae'r tai bach anabl ma' fe'n becso fi braidd, achos mae angen rhywle glân â digon o le.
"Chi ddim yn gallu stopio'ch hun angen y tŷ bach felly dwi'n ailfeddwl ambell waith os oes angen mynd mas."

Roedd 73% o bobl ar draws y DU heb allu cael mynediad i dŷ bach hygyrch dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl arolwg
Dangosodd arolwg diweddar gan yr elusen Euan's Guide, dolen allanol bod 73% o bobl ar draws y DU wedi dweud eu bod wedi methu â chael mynediad i dai bach hygyrch.
Roedd dros dwy ran o dair wedi dweud fod rhai toiledau'n fudr neu ddim yn lân.
Er i Cat Dafydd ddweud bod tai bach i bobl anabl yn dda mewn mannau, dywedodd bod eraill yn ddibynnol ar hylendid cyfleusterau.
"I fi dyw e ddim yn broblem fawr ond os oes rhywun gyda stoma neu rhywbeth fel 'na mae angen rhywle sy'n lân a dwi'n meddwl bod hynny'n broblem enfawr iddyn nhw, mae hynny'n gallu stopio nhw fynd mas."
Yn ôl elusen Euan's Guide, y problemau mwyaf cyffredin, dolen allanol gyda thoiledau hygyrch yw:
Eu bod yn fudr
Maint y tŷ bach
Eitemau yn rhwystro mynediad
Tennyn coch neu larwm wedi torri neu ei glymu'n uchel.

Mae cyflwr toiledau anabl "yn hela pobl i beidio eisiau mynd mas," meddai Claire Hughes
Yn 63 oed, mae Claire Hughes yn teimlo "cywilydd" mewn gorfod defnyddio rhai o'r cyfleusterau. Maen dweud bod angen cael "gwell dealltwriaeth" o sut maen teimlo i bobl anabl orfod defnyddio toiledau budr.
"Mae rhai mewn caffis yn overloaded gyda pethau plant. Oes mae angen cadeiriau uchel a changing mats ond dim mewn lle bach [fel y toiled anabl].
"Mae rhai o nhw'n fochynaidd a dwi'n teimlo fel bod nhw'n anghofio glanhau'r rhai anabl.
"S'dim ots 'da fi dalu i fynd i'r toilet ond wedyn maen rhaid i ti gael allwedd. Mae mor embarrassing.
"Fi'n gorfod cael map yn fy mhen, lle fi'n gallu mynd i'r toilet. Fi ffili cerdded yn bell, dwi ddim yn yfed lot rhag ofn bod dim toilet ar gael am sbel. Mae'n hela pobl ddim eisiau mynd mas."
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2021
Mae Euan's Guide yn galw ar y cyhoedd, busnesau, llunwyr polisi ac awdurdodau lleol i gymryd camau ar unwaith i wella gwybodaeth mynediad i bobl anabl.
Dywedodd Haneul Lee ar ran yr elusen bod pobl yn aml yn cael dolur mewn tai bach hygyrch ac yn methu galw am gymorth gan fod yr offer wedi torri.
"Rydym yn bendant wedi clywed llawer o bobl yn gorwedd yn aros am chwe neu phum awr," meddai.
"Rydym wedi cael pobl â choes wedi torri oherwydd roedd y llawr yn wlyb, ac felly wedi llithro."
'Dileu rhwystrau i bobl anabl'
Yn y DU, mae'r Ddeddf Cydraddoldeb 2010, dolen allanol yn diogelu hawliau pob person anabl, sy'n cynnwys cyfleusterau fel tai bach a'u hylendid.
Yn ôl y ddeddf mae'n rhaid i'r cyfleusterau a gynigir ddarparu mynediad cyfartal i doiledau ar gyfer pobl anabl, i'r un safon â phobl sydd ddim ag anabledd.
Mae gan gyrff cyhoeddus fel cynghorau, ysgolion ac ysbytai ddyletswyddau ychwanegol o dan gyfraith hawliau dynol a'r Ddeddf Cydraddoldeb.
Mewn ymateb mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi ymrwymo i greu "cymdeithas gynhwysol a hygyrch" i bobl anabl.
Meddai llefarydd: "Fe gafodd newidiadau eu cyflwyno ym mis Ionawr 2023 i reoliadau adeiladu er mwyn cynyddu nifer y toiledau anabl sy'n rhaid eu cael mewn adeiladau o faint penodol.
"Rydym ni yn ymgynghori ar hyn o bryd ar newidiadau i'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, er mwyn dileu rhwystrau ymhellach a gwella cyfranogiad ar gyfer holl bobl anabl Cymru."