Diffyg hygyrchedd ar nosweithiau allan yn 'broblem enfawr'

Cerys DavageFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Cerys Davage fath anghyffredin o Nychdod Cyhyrol, neu Muscular Dystrophy

  • Cyhoeddwyd

Rydw i, fel cymaint o bobl eraill, yn edrych ymlaen at dymor y Nadolig a fy mharti Nadolig gyda chydweithwyr.

Ond, fel rhywun ag anabledd, dyw chwilio am leoliad ddim yn syml.

Mae gen i fath anghyffredin o nychdod cyhyrol - neu muscular dystrophy - cyflwr sy'n achosi gwendid yn y cyhyrau, ac mae hynny'n golygu nad ydw i'n gallu dringo grisiau'n dda iawn.

Dyma ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf yn gweithio i Newyddion S4C, a gyda phawb yn edrych 'mlaen at ddathlu gyda'i gilydd, roedd angen dod o hyd i leoliad heb risiau.

Roedd hynny'n her llawer mwy na'r disgwyl.

Er ffonio sawl lleoliad gwahanol, roedd eu hatebion i gyd yn debyg, mai grisiau yn unig sydd gyda nhw, neu fod ganddyn nhw lifft ond un sydd ddim yn gweithio.

Mae pethau fel lifft dibynadwy yn hanfodol i nifer o bobl anabl fel fi, yn ogystal â digon o lefydd addas i eistedd er mwyn arbed egni trwy gydol y nos.

Dwi wedi cael sawl profiad ar noson allan lle rwy'n gorfod gadael yn gynt na'r disgwyl am fy mod i wedi sefyll am amser hir heb gael cyfle i eistedd lawr, sy'n arwain at flinder a phoen yn y cyhyrau.

A dydy'r profiad yma ddim yn unigryw i fi.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cerys (chwith) yn dweud bod nifer o heriau yn wynebu pobl anabl mewn bariau, clybiau a chaffis

Yn ôl Ciaran Fitzgerald, 29, mae'r heriau mae e'n wynebu ar noson allan yn "rhoi diffyg hyder" iddo, a'i wahanu oddi wrth ei ffrindiau.

Mae'n pwysleisio nad dim ond heriau corfforol yw'r rhain, ond agweddau pobl hefyd.

Gan fod parlys yr ymennydd - cerebral palsy - ar Ciaran, mae e "weithiau yn ymddangos yn debyg i bobl sydd wedi meddwi", sy'n arwain at staff yn "gwrthod rhoi gwasanaeth i fi".

"Dwi jyst mo'yn bod fel pob un arall, ac weithiau dyw hynny ddim yn bosib oherwydd y ffiniau sydd yn bodoli," meddai Ciaran, o Bort Talbot.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ciaran Fitzgerald, 29, bod yr heriau mae e'n wynebu ar noson allan yn "rhoi diffyg hyder" iddo

Mae gan bron i chwarter (24%) poblogaeth y DU anabledd - cyfanswm o dros 16 miliwn o bobl.

Roedd ffigyrau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2021 yn dangos bod dwy ran o dair o bobl anabl (66%) yn methu cael mynediad i fariau, clybiau a chaffis.

'Hygyrchedd ddim yn flaenoriaeth'

"Mae diffyg hygyrchedd yn broblem enfawr," medd Elin Williams o Anabledd Cymru.

"Nid yn unig o ran lleoliadau ac adeiladau eu hunain ond hefyd yr amgylchedd o fewn yr adeilad, felly diffyg toiledau hygyrch, goleuadau sydd yn fflachio sydd yn cael effaith ar rai pobl, a hefyd diffyg ystafelloedd lle mae pobl yn gallu mynd i gael saib bach os ydy'r sefyllfa yn rhy uchel ac ati.

"Yn anffodus dydy hygyrchedd ddim ar frig rhestr blaenoriaeth pobl, felly dydy o ddim yn aml yn cael ei ystyried, sydd yn golygu bob pobl anabl yn cael eu gadael ar ôl ac yn teimlo fel eu bod nhw ddim yn perthyn, os nad yw lleoliadau yn hygyrch."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae diffyg hygyrchedd yn broblem enfawr," medd Elin Williams o Anabledd Cymru

Prif neges yr elusen yw bod "angen lot mwy o waith i greu cymdeithas sydd yn fwy cynhwysol i bobl anabl".

Y gobaith i nifer felly yw y bydd cwmnïau yn gwrando ar anghenion pobl anabl, ac yn newid eu lleoliadau i gynnwys pawb.

Pynciau cysylltiedig