Mam wedi'i 'hannog i adael ei swydd' am nad oes gofal i'w phlant awtistig

Betsan Gower Gallagher
Disgrifiad o’r llun,

Mae Betsan Gower Gallagher yn mynnu bod gweithio yn llesol iddi

  • Cyhoeddwyd

Mae mam i efeilliaid awtistig yn dweud ei bod wedi cael ei hannog i roi'r gorau i'w gyrfa i ofalu am ei phlant yn llawn amser oherwydd diffyg gofal addas.

Dywedodd Betsan Gower Gallagher, 49, bod asiantaethau fel y cyngor wedi awgrymu iddi hi i orffen gweithio sawl tro a'i bod yn teimlo yn "anweladwy".

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol, Sioned Williams AS, mae'r sylwadau yn "hollol annerbyniol".

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i weithio gyda chynghorau i sicrhau fod pob plentyn yng Nghymru yn cael hawl i addysg ac yn cael mynediad at ofal plant a'r cyfleoedd a ddaw yn eu sgil.

Gofal dros £300 y dydd

Mae Betsan - sydd o Drebannws, ardal sydd ar y ffin rhwng sir Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot - hefyd yn gofalu am ei mam.

Mae'n dweud bod gofalu yn gallu "cymryd lot allan" o berson a'i bod yn hawdd "colli hunaniaeth".

"Mae gweithio mor bwysig i fi i fod yn Bets, i gymdeithasu â phobl, ac mae 'da fi freuddwydion hefyd," meddai.

Disgrifiodd Betsan ei hefeilliaid wyth oed, Bowann a Brielle, fel "gwych a sassy".

Mae'r ddau blentyn yn awtistig, angen gofal un-i-un a ddim yn siarad er eu bod wedi dechrau dweud ychydig o eiriau a brawddegau yn ddiweddar.

Dywedodd y fam ei bod eisiau rhoi "bywyd llawn" i'r merched "cariadus" ond na allai fforddio wneud hynny heb weithio.

"Mae cael unrhyw fath o ofal plant yn her enfawr, mae'n costio dros £300 y ddydd," meddai.

Mae "jyglo" popeth yn dod gyda'i heriau, yn ôl Betsan, gyda hi a'i gŵr "yn byw ar goffi a diet coke" oherwydd nad yw'r plant yn cysgu'n dda.

"Mae hyd yn oed codi yn y bore, gorfod dal nhw i lawr i frwsio eu dannedd ac i frwsio eu gwallt a'u gwisgo - mae'n frwydr enfawr. Mae hynny cyn i fi hyd yn oed gyrraedd y gwaith."

efeilliaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae dod o hyd i ofal i Bowann a Brielle yn heriol ac yn ddrud, meddai eu mam

Dywedodd y cyn-steilydd a'r dylunydd fod ffrindiau, gweithwyr y cyngor a mudiad anabledd wedi dweud wrthi am "roi'r gorau i weithio" pan gafodd drafferth dod o hyd i ofal plant yn ystod gwyliau'r ysgol.

"Does neb erioed wedi dweud wrth fy ngŵr i roi lan ei waith, ond fi 'di cael e sawl gwaith," meddai.

Ychwanegodd: "Pan dwi'n gwneud pethau i mi, mae'n fy helpu i fod yn fam well.

"Mae iechyd meddwl fi'n elwa achos fi yn gweithio, achos bod fi'n gallu cymdeithasu a ddim just bod yn ofalwr."

Fe wnaeth adroddiad gan bwyllgor plant, pobl ifanc ac addysg y Senedd nodi nad yw llawer o blant ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol yn cael hawl i addysg.

Dywedodd teuluoedd wrth y pwyllgor fod diffyg mynediad at ofal plant wedi cael effaith sylweddol ar allu'r rhiant neu ofalwr i weithio.

Sioned Willams AS
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r straen sydd ar deuluoedd plant ag anableddau "yn aruthrol", medd Sioned Willams AS

Cododd Sioned Williams AS stori Betsan yn y Senedd y llynedd, gan ychwanegu ei bod yn dorcalonnus i glywed bod rhywun wedi dweud wrth etholwr i roi'r gorau i'w gwaith.

Dywedodd nad oedd "yn ddigon da" dweud na all pobl gael cefnogaeth oherwydd naill ai na all y wladwriaeth ei fforddio neu "byddai'n haws pe baech yn mynd i ffwrdd".

Galwodd am fwy o ofal plant i blant ag anghenion arbennig gan ychwanegu na ddylai'r cyfrifoldeb fod ar deuluoedd i frwydro drosto.

"Mae'r straen sydd ar lawer o'r bobl hyn, oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu, yn aruthrol," meddai.

"Mae cyrraedd diwedd y dydd yn ddigon heb orfod ysgrifennu llythyrau yn gyson at eu cynrychiolwyr etholedig, i fod yn ymladd eu hachosion, i fod yn apelio yn erbyn penderfyniadau. Dyna'r peth cyntaf sy'n rhaid ei stopio," ychwanegodd.

'Cyfnod heriol i'r sector'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cynghorau'n cael eu hannog i roi "ystyriaeth a chefnogaeth arbennig" i anghenion gofal plant ac i deuluoedd sydd â phlant ag anghenion ychwanegol a phlant anabl.

"Trwy ein Grant Plant a Chymunedau, gall awdurdodau lleol gael mynediad at gyllid i ddiwallu anghenion cymunedau lleol a mynd i'r afael ag unrhyw fylchau o ran darparu cyfleoedd gofal plant digonol," ychwanegwyd.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau'n gweithio'n galed i sicrhau fod pob rhiant sydd ei angen yn gallu cael gofal plant addas, gan roi ystyriaeth benodol i rieni plant anabl.

"Mae'n gyfnod heriol i'r sector yn ariannol ac o ran recriwtio a chadw, yn ogystal ag i gynghorau sy'n wynebu pwysau ariannu enfawr," ychwanegodd llefarydd.

Ychwanegodd llefarydd eu bod yn croesawu'r newyddion y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynnwys arian ychwanegol i gefnogi darparwyr gofal plant, er bod yr heriau'n parhau.

Pynciau cysylltiedig