Wylfa: 'Cyfle i ni na'th orfod gadael yr ynys i ddod adra'

Sion Emlyn Lloyd a Keiran Salter
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Sion Emlyn Lloyd o Walchmai a Keiran Salter o Langefni symud i weithio i Hinkley

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyhoeddiad y bydd safle Wylfa yn gartref i dri adweithydd modiwlar bychan newydd wedi denu cefnogaeth rhai o'r gweithwyr sydd wedi gorfod symud o'r ynys i lefydd fel Hinkley Point B yng Ngwlad yr Haf er mwyn aros yn y maes.

Ymhlith y prentisiaid sydd yn gweithio yn Hinkley mae Keiran Salter o Langefni a Sion Emlyn Lloyd o Walchmai.

Mae'r ddau yn croesawu y cynllun newydd ar gyfer safle Wylfa.

"Mae'r cyhoeddiad hwn yn newyddion da iawn i'r ardal, i bobl sydd wedi gorfod gadael fel fi a Sion. Mae'n rhoi'r cyfle i ni ddod 'nôl i'r ynys ac i gadw gweithio yn y maes," meddai Keiran.

Dywedodd Sion: "2019 'nes i symud lawr [i Wlad yr Haf] ar ôl y newyddion bod Hitachi yn tynnu allan.

"Dwi'n gwybod bod lot o ffrindiau wedi symud lawr hefyd oedd ar yr un brentisiaeth.

"Roedd tua 15 wedi symud lawr i Wlad yr Haf jyst yn flwyddyn ni ac mae'r rhain yn siaradwyr Cymraeg o'r ynys. Siom, rili."

Mae'r ddau nawr yn rhan o ddatblygiad Hinkley Point C, sef y safle ar gyfer atomfa fawr, draddodiadol newydd.

"Yng Ngwlad yr Haf ar y funud chi'n sôn am 15,000 o bobl ar y safle jyst i adeiladu'r orsaf newydd, cyn iddyn nhw ddechrau rhoi'r offer mewn i redeg yr orsaf. Felly os chi'n meddwl am 15,000 o bobl, mae hynny'n fwy na unrhyw bentref bach sydd ar Ynys Môn, felly mae'r raddfa yn anferth," meddai Keiran.

'Neis cael symud adra'

Mae'r cynllun ar gyfer safle Wylfa yn llai o faint na'r safle yng Ngwlad yr Haf. Ond mae Sion dal yn rhagweld effaith gadarnhaol ar yr economi leol.

"Ar y safleoedd bach modiwlar, 3,000 o weithwyr fydd ar y safle'n adeiladu a 900 swydd llawn amser ar ôl hynny," meddai.

"Mi fydd sawl swydd wahanol yn dod i Ynys Môn, fel coginio, bysiau newydd - dyna ni wedi gweld lawr yng Ngwlad yr Haf. Maen nhw 'di creu cwmni newydd jyst i gael pobl i'r safle ac yn ôl."

Mae'r ddau yn gobeithio bydd y safle newydd yn galluogi iddyn nhw ddod yn ôl i'r ardal i weithio.

"Mae fe'n rhywbeth dwi 'di eisiau neud ers gadael, eisiau dod 'nôl. Mae yna dal flynyddoedd tan mae 'na rywbeth yn mynd i fod ar y safle ei hun, ond mae'n bwysig dechrau ar y gwaith nawr," meddai Kieran.

Ychwanegodd Sion: "Sa'n neis cael symud adra. Dyna oedd y cynllun, aros i weithio yng ngogledd Cymru."

Llun o Jac yn eistedd mewn caffi ac yn edrych ar y camera. Mae ganddo wallt llwyd, llygaid glas a sbectol crwn. Mae'n gwisgo cot du. Tu ôl iddo mae prif gownter y caffi.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jac Jones, sy'n byw ger y safle, yn pryderu am y datblygiad newydd

Ond nid pawb sy'n croesawu'r datblygiad newydd. Mae Jac Jones yn dod o Lanfechell, pentref ger safle Wylfa.

"Mae 'na ryw gymaint o bryder oherwydd dwi'n pryderu ei fod yn mynd i gael effaith ar ddatblygiadau ynni adnewyddadwy sydd ar y gweill yn barod. Dyna ydy'r pryder mwyaf.

"Dwi yn ymwybodol bod pobl eraill yn yr ardal yma yn pryderu am ddatblygiadau mawr.

"Ond dwi'n fwy cefnogol o'r modiwlar bach oherwydd mi fydd yn cael llai o effaith ar y gymuned."

Llun o Aled yn sefyll ar stryd yn edrych ar y camera. Mae ganddo wallt llwyd a llygaid du. Mae'n gwisgo cot melyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Aled Morris Jones yn cynrychioli ward Twrcelyn yng ngogledd Ynys Môn

Mae'r cynghorydd Aled Morris Jones yn cynrychioli ward Twrcelyn yng ngogledd yr ynys. Mae'n obeithiol bydd y datblygiad newydd yn cael effaith cadarnhaol ar yr ardal leol.

Dywedodd: "Dwi'n croesawu'r newyddion yn fawr iawn. Mae hwn yn newyddion da i ardal gogledd Môn, Sir Fôn a gogledd Cymru.

"Mae'n dod â swyddi parhaol i'r ardal. Ni'n gwybod yr amserlen i wneud hyn ddigwydd, symud ymlaen ar frys sydd eisiau rŵan."