Y cyn-wleidydd, Peter Rogers, wedi marw yn 85 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-wleidydd Ceidwadol Peter Rogers wedi marw yn 85 oed.
Bu'n aelod Ceidwadol rhanbarth Gogledd Cymru yn y Cynulliad (Senedd bellach) o 1999 i 2003.
Bu'n gynghorydd annibynnol ar Gyngor Ynys Môn - o 2004 tan 2022 - gan gynrychioli ward Rhosyr yn gyntaf ac yna Bro Aberffraw.
Roedd hefyd yn ynad heddwch ac yn ffermwr adnabyddus.
Bu farw yn Ysbyty Gwynedd ddydd Llun, ychydig ddyddiau wedi ei ben-blwydd, meddai ei deulu.
Gadael y Torïaid
Roedd Peter Rogers, a gafodd ei eni yn Wrecsam a'i fagu ym Mhenbedw, yn wleidydd dadleuol a lliwgar.
Pan oedd Rod Richards yn arweinydd y Blaid Geidwadol yn y Cynulliad cafodd Mr Rogers ei benodi yn llefarydd ar yr amgylchedd.
Yn ddiweddarach, o dan arweiniad Nick Bourne, cafodd ei benodi'n llefarydd y Ceidwadwyr ar Amaeth a Materion Gwledig.
Tra'n llefarydd amaeth roedd yn gefnogol iawn i gael gwared ar y gwaharddiad ar gig eidion ar yr asgwrn.
Roedd hefyd yn gwrthwynebu'n chwyrn y gwaharddiadau ar hela llwynogod ac fe alwodd am wahardd cig eidion o Ffrainc.
Cafodd lledaeniad clwy'r traed a'r genau yng Nghymru yn 2001 effaith fawr ar ei dair fferm ym Môn a bu'n rhaid difa nifer o'i wartheg.
Yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n hynod o feirniadol o ymateb Cynulliad Cymru i'r mater.
Daeth ei gyfnod yn y Cynulliad i ben yn 2003 wedi iddo gael ei roi yn seithfed ar restr ranbarthol Gogledd Cymru i'r Blaid Geidwadol.
Ond fe gynyddodd ei gyfran o'r bleidlais ar Ynys Môn 9.2% ac fe ddaeth yn ail - 2,255 o bleidleisiau y tu ôl i arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones.
Yn 2004 fe achosodd ymgais i'w ddewis ar gyfer etholaeth Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol bleidlais o ddiffyg hyder yng nghymdeithas Ceidwadwyr Môn wedi i brotestwyr a oedd o'i blaid darfu ar y broses a chafodd Rogers ei wrthod rhag cael mynediad i gynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig.
Yn 2005 ymddiswyddodd o'r Blaid Geidwadol a safodd fel aelod annibynnol yn yr etholiad cyffredinol - fe ddaeth yn drydydd gan gipio 14.7% o'r bleidlais, sef mwy na'r ymgeisydd Ceidwadol, James Roach.
Safodd eto fel aelod annibynnol yn etholiad y Cynulliad yn 2007 ac yn yr etholiad cyffredinol yn 2010.
Bu Peter Rogers yn gynghorydd sir ar Gyngor Ynys Môn o 2004 tan 2022.
Cynrychiolodd ward Rhosyr i ddechrau ac wedi i'r sedd gael ei diddymu bu'n cynrychioli Bro Aberffraw. Collodd y sedd i Arfon Wyn o Blaid Cymru yn 2022.
Ym mis Rhagfyr 2014 gwrthododd fynychu cyfarfodydd y cyngor, gan honni ei fod yn cael gohebiaeth uniaith Gymraeg yn fwriadol ac na allai ei darllen.
Flwyddyn wedi hynny cafodd ei wahardd o'r cyngor am dri mis.
Er na chafwyd ef yn euog o gamddefnyddio ei rym mewn mater oedd yn ymwneud â gwerthiant tir gan y cyngor, cafodd ei wahardd am fis i ddechrau am feirniadu'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus a'r swyddog oedd yn ymchwilio iddo.
Wedi iddo apelio penderfynodd y gwrandawiad ymestyn ei waharddiad i dri mis.
'Eiriolwr angerddol dros gefn gwlad'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Darren Millar fod "Peter yn eiriolwr angerddol dros gefn gwlad Cymru ac yn hyrwyddwr cadarn dros gymunedau ffermio".
"Bydd colled fawr ar ei ôl i'r rhai oedd yn ei adnabod."
Mae'n gadael ei wraig, Margaret, ei feibion Richard a Simon, a phump o wyrion.