Rhybudd melyn arall am rew ar gyfer rhannau o'r gogledd

Mae'r rhybudd yn berthnasol i Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a WrecsamFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd yn berthnasol i rannau o Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd newydd am rew ar gyfer rhannau helaeth o ogledd Cymru dros nos.

Mae'r rhybudd yn dod i rym am 17:00 ddydd Mawrth ac yn dod i ben am 12:00 ddydd Mercher.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae'r rhybudd yn berthnasol i Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam.

Gallai pobl gael eu hanafu wrth lithro ar rew, ac mae 'na gyngor i gymryd gofal ar ffyrdd, palmentydd a llwybrau seiclo.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn annog pobl i gadw golwg ar y rhagolygon ac i fod yn barod i newid cynlluniau teithio.

Ffynhonnell y llun, Olga/WeatherWatchers
Disgrifiad o’r llun,

Betws Gwerful Goch, Sir Ddinbych fore Llun

Daeth rhybudd melyn blaenorol y Swyddfa Dywydd am eira a rhew i'r rhan helaeth o Gymru i ben am 10:00 fore Mawrth.

Mi wnaeth hi rewi mewn sawl man nos Lun, wrth i'r tymheredd ostwng ac wrth i'r eira ddadmer.

Roedd y rhybudd yn berthnasol i bob sir yng Nghymru, heblaw am Ynys Môn.

Roedd rhai ysgolion a ffyrdd ar gau ddydd Llun - yn bennaf yn y gogledd-ddwyrain - oherwydd y tywydd garw.

Bu ffordd yr A44 ger Llangurig, Powys ar gau am gyfnod wrth i lori fynd yn sownd yn yr eira.

Roedd trafferthion mewn sawl ardal ar draws cymoedd y de hefyd gyda thrafferthion ar y ffyrdd yn sgil y tywydd garw.

Yn y gogledd-ddwyrain, roedd llifogydd mewn sawl ardal.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fore Llun bod llifogydd wedi effeithio ar nifer o bobl yn Oakenholt.

Pynciau cysylltiedig