Dyn lleol 60 oed wedi marw mewn afon yng Nghaernarfon

CaernarfonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Afon Seiont yn cwrdd â'r Fenai ger Castell Caernarfon

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn lleol 60 oed wedi cael ei ganfod yn farw mewn afon yng Nghaernarfon.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i Afon Seiont tua 13:40 ddydd Sul, ble cafodd corff y dyn ei dynnu o'r dŵr.

Mae'r llu yn dweud nad ydyn nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus, ac mae'r crwner yn ymwybodol.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn cydymdeimlo â theulu'r dyn, sy'n derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol.

Pynciau cysylltiedig