Dyn oedd ar ffo rhag yr FBI yng Nghymru yn y llys

Llun artist o San DiegoFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Daniel Andreas San Diego ymddangos yn y llys ddydd Mawrth drwy gyswllt fideo o'r carchar

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn oedd ar ffo rhag yr FBI am fwy nag 20 mlynedd wedi ymddangos yn y llys am yr eildro ers iddo gael ei arestio yng ngogledd Cymru.

Cafodd Daniel Andreas San Diego ei arestio yn ardal Maenan, Sir Conwy ar 25 Tachwedd, ar ôl bod ar restr Most Wanted yr FBI yn yr Unol Daleithiau yn dilyn ffrwydradau yn ardal San Francisco, California yn 2003.

Fe ymddangosodd Mr San Diego yn Llys Ynadon Westminster yn Llundain ddydd Mawrth drwy gyswllt fideo o garchar Belmarsh.

Dyma oedd ei ail wrandawiad estraddodi, ac fe wnaeth o siarad ond i gadarnhau ei enw a'i ddyddiad geni.

Mae disgwyl i'r gwrandawiad nesaf gael ei gynnal ar 31 Rhagfyr.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Daniel Andreas San Diego ei arestio yn ardal Maenan ger Llanrwst

Mae'r FBI yn honni fod gan Mr San Diego, a gafodd ei eni yn Berkeley, California, gysylltiadau gyda grŵp hawliau anifeiliaid eithafol.

Mae gwybodaeth yr asiantaeth yn dweud fod dau fom wedi ffrwydro tua awr ar wahân ar 28 Awst 2003 ar gampws cwmni biotechnoleg yn Emeryville.

Fe wnaeth bom arall oedd yn cynnwys hoelion ffrwydro ar safle cwmni cynhyrchion maeth yn Pleasanton ar 26 Medi 2003.

Cafodd Mr San Diego ei gyhuddo mewn llys yn California ym mis Gorffennaf 2004 am ei gysylltiad honedig â’r troseddau, yn ôl yr FBI, ac roedd gwobr o $250,000 (£199,000) am wybodaeth oedd yn arwain at ei ganfod.

Cafodd Daniel Andreas San Diego ei arestio yn ardal Maenan, Sir Conwy ar 25 Tachwedd yn dilyn ymgyrch gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) oedd yn cynnwys swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a'r Heddlu Gwrth-derfysgaeth.

Pynciau cysylltiedig