Heddlu'n defnyddio Taser wrth arestio dau yng Nghaernarfon

Ffordd Maes BarcerFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ddau ddyn eu harestio ar Ffordd Maes Barcer

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dau berson yn ystod digwyddiad yng Nghaernarfon ddydd Mercher.

Dywedodd yr heddlu eu bod wrthi'n arestio dyn ar Ffordd Maes Barcer ar amheuaeth o ddwyn gan berson, pan ddaeth dau ddyn arall at y swyddogion.

Cafodd un o'r dynion hynny ei arestio yn ddiweddarach ar amheuaeth o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus yn ymwneud â chasineb.

Ychwanegodd y llu fod y swyddogion wedi defnyddio Taser wrth arestio'r ail ddyn.

Pynciau cysylltiedig