Carcharu dyn o Fangor am daro dyn arall gyda thennyn ci

Ffordd Caergybi ym MangorFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod oriau mân y bore ar 1 Mai

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Fangor wnaeth ymosod ar ddyn arall gyda thennyn ci wedi cael ei garcharu.

Fe wnaeth Benjamin Crofts, 27 oed o ardal Maesgeirchen y ddinas, ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher ar ôl cyfaddef achosi niwed corfforol difrifol.

Clywodd y llys bod Crofts yn ffraeo gyda dyn arall ar Ffordd Caergybi, Bangor yn ystod oriau mân y bore ar 1 Mai.

Wrth i'r ffrae ddatblygu fe dynnodd y tennyn oddi ar goler ei gi, ei glymu o gwmpas ei law a'i ddefnyddio i daro'r dyn arall yn ei ben.

Fe ddisgynnodd y dyn arall i'r llawr gan daro ei ben. Daeth cadarnhad yn ddiweddarach ei fod wedi torri asgwrn yn ei ben a bod yna waedu ar yr ymennydd.

Cafodd Crofts ei ddedfrydu i flwyddyn ac 11 mis o dan glo.

Pynciau cysylltiedig