Dim angen gofyn pam mae rhieni'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg - Drakeford

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

"Alla i ddim gweld pam i ofyn i rieni pam maen nhw yn dewis Cymraeg neu pam maen nhw'n dewis Saesneg," meddai Mark Drakeford

  • Cyhoeddwyd

Ar ddiwedd wythnos hanesyddol i'r iaith Gymraeg, pan gafodd mesur ei basio yn y Senedd i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, mae aelod o Lywodraeth Cymru wedi dweud nad yw'n gallu gweld rheswm dros ofyn i rieni pam maen nhw am ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant.

Fe ddaw sylwadau Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, wrth BBC Cymru yn dilyn ffrae am sylwadau aelod Llafur o gabinet Cyngor Sir Penfro.

Roedd Paul Miller, y Dirprwy Arweinydd, wedi awgrymu bod angen i swyddogion addysg y Sir gael "gwell dealltwriaeth o'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg" am ei fod o'r farn fod rhai rhieni'n dewis ysgolion cyfrwng Cymraeg fel Caer Elen yn Hwlffordd, am eu bod nhw'n ysgolion "da" nid oherwydd eu bod nhw'n ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Fe basiwyd gwelliant gan y Cabinet i'r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, yn galw ar y Cyfarwyddwr Addysg i greu dull o "fesur y galw yn well" am addysg Gymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gan "Gyngor Sir Benfro ddyletswydd statudol i wella sut mae'n cynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg".

Pleidleisiodd aelodau'r Pwyllgor Craffu Addysg ddydd Mercher diwethaf i anfon y penderfyniad gwreiddiol yn ôl at y cabinet i'w ail-ystyried.

Roedd arweinydd y grŵp annibynnol, Huw Murphy, wedi awgrymu bod angen i Paul Miller ymddiheuro am ei sylwadau.

Fe fydd y cabinet yn cwrdd dydd Mercher i ail ystyried y sefyllfa, yn dilyn penderfyniad pwyllgor craffu addysg y Sir.

M DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bil y Gymraeg ac Addysg o dan ofal Mark Drakeford

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Mr Drakeford: "Safbwynt y llywodraeth yw uchelgais ni yw gweld yr iaith Gymraeg yn tyfu.

"I weld yr iaith i lwyddo ac i weld hynny ymhob cwr o Gymru.

"Alla i ddim gweld pam i ofyn i rieni pam maen nhw yn dewis Cymraeg neu pam maen nhw'n dewis Saesneg.

"Wrth gwrs mae eisiau esbonio i rieni beth sydd yn dod mas o gael addysg trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg achos ni wedi llwyddo i wneud hynny, dyna pam ni wedi gweld twf yn yr iaith.

"Y gwaith i'r awdurdodau lleol yw i roi yr achos i'r bobl lleol pam i ddewis addysg trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg."

Pan ofynnwyd i Mr Drakeford, a oedd y neges wedi cael ei chyfleu i Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, dywedodd: "Dwi'n meddwl bod y Prif Weinidog wedi gwneud hynny'n barod.

"Mae hi'n byw yma yn Sir Benfro. Mae hi'n cynrychioli'r iaith. Mae hi tu ôl yr iaith bob dydd a dwi'n siŵr y bydd hi wedi cael sgwrs yn lleol yn barod."

Roedd arweinydd y Cyngor, Jon Harvey yn rhan o'r orymdaith yn Arberth, ond doedd y Cynghorydd Miller ddim yn bresennol.

Julie Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Mae pob un i weld yn dewis addysg Gymraeg yn ne'r Sir," meddai Julie Jones

Mae Julie Jones yn byw yn Ninbych y Pysgod ac yn aelod o'r pwyllgor gwaith.

Mae hi'n dweud bod hi'n "bwysig ac yn gyffrous iawn" bod Gŵyl y Cyhoeddi wedi ei chynnal yn Arberth: "Mi oedd hi yn ffin ieithyddol ond ddylech chi weld y twf yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg, addysg Gymraeg yn ne'r Sir, mae'n ffantastig.

"Dechreuon ni'r ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn Ninbych y Pysgod yn 2016 gyda rhyw 80 o blant. Erbyn hyn, ni dros 200 o blant.

"Mae pob un i weld yn dewis addysg Gymraeg yn ne'r Sir. Mae'r Eisteddfod yn cydnabod beth sydd yn digwydd yn ne'r Sir.

"Mae pethe yn newid. Bydd e'n gyfleus i ddangos i bawb beth yw'r Eisteddfod."

'Y twf canrannol mwyaf'

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Fel pob awdurdod lleol, mae gan Gyngor Sir Benfro ddyletswydd statudol i wella sut mae'n cynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â'i gynllun strategol ar gyfer addysg Cymraeg, er mwyn helpu i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Cafodd Sir Benfro y twf canrannol mwyaf o ran addysg yn y Gymraeg ymysg holl siroedd Cymru rhwng 2023 a 2024."