Dyn yn ddieuog ar ôl i ddau fabi gael eu canfod yn farw

Roedd Žilvinas Ledovskis (dde) wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn, tra bod Eglė Žilinskaitė wedi pledio'n euog i bedwar cyhuddiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gael yn ddieuog o gyhuddiadau yn ymwneud â marwolaethau dau fabi ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ar Heol Maes-y-felin ar stad Y Felin-wyllt yn y dref ym mis Tachwedd 2022 ble cafwyd hyd i gyrff y babanod.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fore Mawrth fod Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wedi penderfynu peidio cyflwyno tystiolaeth yn erbyn Žilvinas Ledovskis, 50, yn dilyn adolygiad o'r dystiolaeth.
Cafwyd Mr Ledovskis, o Abertawe, yn ddieuog gan y barnwr o ddau achos o gelu genedigaeth baban a dau gyhuddiad o atal claddedigaeth gyfreithiol a gweddus.
Mae Eglė Žilinskaitė, 31 oed o Gaerdydd, wedi pledio'n euog i ddau achos o gelu genedigaeth baban ac o ddau achos o atal claddedigaeth gyfreithiol a gweddus.
Bydd yn cael ei dedfrydu yn ddiweddarach.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2024