£300,000 i fan geni'r dyn wnaeth gyfieithu'r Beibl 'werth y byd'

Fflur Medi Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arian wedi galluogi'r ymddiriedolaeth i brynu cabinet pwrpasol i arddangos y Beibl Cyssegr-lan, medd Fflur Medi Owen

  • Cyhoeddwyd

Bydd newidiadau yn Nhŷ Mawr Wybrnant yn rhoi "ail fywyd" i'r ffermdy sy'n un o brif atyniadau hanes Cymru.

Yno y cafodd yr Esgob William Morgan ei eni - y dyn a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg yn 1588 gan roi fframwaith gadarn i'r iaith.

Yn dilyn buddsoddiad gwerth £294,500, mae'r ffermdy ger Penmachno yn Nyffryn Conwy wedi ei ddiogelu rhag y tywydd gydag ystafell newydd i gadw hen feiblau o ar draws y byd.

Yn ôl rheolwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri, mae ffrwyth llafur y gwaith yn "gyfle i ddathlu" pwysigrwydd y safle gyda'r Beibl Cyssegr-lan o 1588 bellach yn ôl yno.

beibl
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Beibl Cyssegr-lan o 1588 yn cael ei gadw ar y safle unwaith eto

Ffermdy o'r 16eg ganrif ydy Tŷ Mawr - man geni'r Esgob William Morgan a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg gan ddefnyddio iaith gyfoethog, glir.

Nod y prosiect gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol oedd canolbwyntio ar wella mynediad a dehongliad y safle.

Un o'r llwyddiannau mwyaf yw bod y Beibl Cyssegr-lan o 1588 yn cael ei gadw ar y safle unwaith eto - rhywbeth sy'n destun balchder, yn ôl Fflur Medi Owen, swyddog rhaglennu a phrofiad ymwelwyr Tŷ Mawr Wybrnant.

"Mae'r buddsoddiad 'di bod yn wych ac yn galluogi i ni brynu cabinet pwrpasol," meddai.

"Mae werth y byd nid dim ond i ni, ond i ni fel Cymry Cymraeg sydd dal yn siarad ac yn dathlu hynny.

"Mae'n un o 1,000 o gopïau gafodd eu cyhoeddi ym 1588 ac mae o wrth wraidd ein profiad ymwelwyr."

Trystan Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn lleoliad "hynod bwysig" yn lleol ac yn genedlaethol, meddai Trystan Edwards

Un o'r newidiadau mwyaf i'r safle ydy sefydlu 'Y Pod' ger y ffermdy sydd rŵan yn gartref i rai o hen feiblau'r byd mewn amryw o ieithoedd.

Mae gwaith dehongli newydd hefyd, yn ogystal ag addurniadau gwydr, marciau silff caligraffig, canllawiau rhwymo canoloesol modern a deunyddiau panel sydd wedi'u hysbrydoli gan dirwedd Cymru.

'Rhan annatod o'n hanes'

"Mae'n garreg filltir nodedig oherwydd mae gymaint o amser wedi bod ers i ni gael buddsoddiad iawn... bron â bod 40 o flynyddoedd," meddai Trystan Edwards, rheolwr cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri.

"Ma'n gyfle i ni ddangos a dathlu'r gwaith.

"Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn le hynod bwysig os 'da chi'n ystyried y cyd-destun o ran iaith a chrefydd a ni fel pobl Cymraeg.

"Mae hwn yn rhan annatod o'n hanes ni ac mi allai fod yn bentwr o gerrig ar y llawr."

Yn y prif ffermdy mae casys arddangos o ansawdd amgueddfa, a fydd yn dangos detholiad o feiblau eraill o'r casgliad.

Mae hynny'n cynnwys gwaith dehongli gan blant lleol o Ysgol Dyffryn Conwy, fu'n cydweithio â'r Athro Angharad Price o Brifysgol Bangor.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae'r gwaith yn sicrhau dyfodol y safle am genedlaethau i ddod.

Pynciau cysylltiedig