Teyrnged i fenyw 'gwbl brydferth' wedi gwrthdrawiad

Charlotte BeynonFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i fenyw "gwbl brydferth tu mewn a thu allan" sydd wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ddechrau Rhagfyr.

Roedd Charlotte Beynon, 32 o Borth Tywyn yn Sir Gâr, yn teithio mewn BMW a darodd bont yn ardal Rhaeadr Gwy ym Mhowys ar 3 Rhagfyr.

Yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty, cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys ei bod wedi marw o'i hanafiadau.

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei theulu ei bod yn "gwbl unigryw, yn ddoniol heb sylweddoli, yn gwbl brydferth tu mewn a thu allan, ac yn caru bywyd, anifeiliaid, ffrindiau, teulu a chydweithwyr".

'Gweld eisiau Charlotte bob dydd'

Soniodd ei theulu am ei "gwên fawr" a sut y byddai Ms Beynon yn "gwneud i bawb deimlo'n well" pan oedd hi'n cerdded i mewn i ystafell.

Cafodd ei disgrifio fel person "unigryw" ac un fyddai'n "amhosib cymryd ei lle" i'w mam, ei diweddar thad, brawd a gweddill y teulu.

"Byddwn yn gweld eisiau Charlotte bob dydd o'n bywydau ond mae cysur yn y ffaith ei bod, ar ôl brwydr galed, mewn hedd gyda'i diweddar thad, yr oedd hi'n ei garu a'i golli bob dydd."

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad, ac i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig