Dysgu Cymraeg mewn 15 mis, diolch i bobl Llanrwst
- Cyhoeddwyd
Tra'n recordio cyfweliad ar ochr llwybr mynyddig yn ardal Llanllechid, roedd Aled Hughes bron â gorffen sgwrs gyda Anita Diamond am ddarllen mapiau.
Ond wrth i'r ddau ddod i ben, daeth gŵr o'r enw Parker Morgan ato am sgwrs – a gwirioni wrth gyfarfod Aled.
"Dwi'n gwrando ar dy sioe di o hyd!"
![Parker Morgan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1600/cpsprodpb/8528/live/c8262500-e7b3-11ef-ae7d-97b156abf29f.jpg)
Daw Parker Morgan o Wyoming yn wreiddiol, ac mae wedi dysgu Cymraeg mewn dim ond 15 mis. Erbyn hyn mae'n byw yn Llanllechid ac ar ôl digwydd cyfarfod Aled ar ochr y mynydd, daeth i'r stiwdio er mwyn rhannu mwy o'i stori.
Mae gan Parker wreiddiau teuluol yng Nghymru, a tra'n tyfu roedd wedi gwneud ychydig o ymchwil i hanes Cymru a'r Mabinogion. Fe gafodd gyfle i deithio ar ôl bod yn y Brifysgol a phenderfynu ymweld â Chymru.
"Des i yma a chlywed fod pobl dal yn siarad Cymraeg a meddwl bod hynny mor wych. Nes i feddwl byddai mor wych i ddysgu."
Y foment y cyfarfu Aled â Parker
Bu'n byw yn Trefriw, ger Llanrwst am gyfnod. Ac yn ôl Parker, i bobl Llanrwst mae'r diolch am iddo ddysgu siarad Cymraeg mor gyflym.
"Doedd gen i ddim byd i wneud gan mod i methu gweithio. Fe es i o siop i siop yn siarad efo pobl, a wedyn nes i gyfarfod efo pobl ym Menter Iaith Conwy. Fe wnes i ofyn os gallwn i biciad draw i siarad Cymraeg, a fe ddwedon nhw iawn."
"Fe wnaeth hynny arwain at wirfoddoli efo nhw hefyd.
"Mae gen i ffrind yn byw yn Llanllechid a mae wedi bod yn gefnogol iawn ohona'i yn dysgu Cymraeg.
"Dwi'n cael aros ym Mhrydain am chwe mis ar y tro, felly fe es i'r Eidal dros yr haf. Fe wnes i aros mewn cysylltiad efo fo ac roeddwn i wir eisiau symud yn ôl i wella fy Nghymraeg. Roedd yn adnabod pobl oedd â stafelloedd i'w rhentu, a dyna sut nes i ddiweddu fyny yma.
Mae darllen llyfrau Cymraeg wedi bod yn rhan bwysig o daith Parker wrth ddysgu'r Gymraeg, meddai.
"Roedd fy ffrind mor gefnogol, fe wnaeth awgrymu i mi ddarllen Llyfr Glas Nebo – hwnnw oedd y cyntaf. Pob tro roeddwn i'n cael hyd i air doeddwn i ddim yn wybod, roeddwn yn sgwennu cyfieithiad lawr ar waelod y dudalen. Nes i jest bwrw 'mlaen fel yna.
![Parker yn y stiwdio ym Mangor ar raglen Aled Hughes](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/cf7b/live/709d8410-e7b6-11ef-a319-fb4e7360c4ec.png)
Parker yn y stiwdio ym Mangor ar raglen Aled Hughes
"Fe wnes i syrthio mewn cariad efo dysgu a darllen. Dwi newydd orffen Seren Wen ar Gefndir Gwyn – dyna fy hoff lyfr rwan."
Erbyn hyn mae Parker yn gwirfoddoli gydag ymgyrch i brynu siop lyfrau Bys a Bawd Pawb yn Llanrwst.
"Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig i gadw siop lyfrau Cymraeg fel hwb cymunedol. Dyma'r olaf yn Sir Conwy, felly mae'n bwysig i ni ei gadw.
"Mae hefyd dau fflat uwch ben y siop, a'u hatal rhag troi yn fflatiau AirBnB. Mae hynny yn bwysig i ni."
Fe fydd Parker yn dychwelyd adref i'r Unol Daleithiau yn fuan i ymweld â'i deulu, ond mae'n bwriadu dychwelyd i Gymru ym mis Mehefin er mwyn mynd i'r Eisteddfod.
Wedi hynny, yr uchelgais yw mynd i Brifysgol Bangor er mwyn hyfforddi i fod yn gwnselydd, ac mae'n gobeithio gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ac wrth siarad efo Aled, roedd yn amlwg ei fod yn barod yn edrych ymlaen at ddod yn ôl i Lanllechid.
"Dwi wedi creu cysylltiadau efo pobl yn y cymunedau. Fe wnes i drio cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn llynedd, a wnes i ddim ennill a roeddwn i'n siomedig.
"A wedyn dwi'n cofio fy ffrind yn Llanrwst yn dweud wrtha'i 'Ti'n rhan o Llanrwst rŵan, ti'n rhan o'r stori yma. Does dim ots os ti'n ennill unrhyw beth fel yna'.
"Fe wnaeth hynny i mi deimlo'n rhan o'r lle yma."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd28 Ionawr