'Angen gwneud mwy am agweddau atgas tuag at ferched'

Mae cyfres Adolescence wedi sbarduno sgwrs genedlaethol am sut mae rhai bechgyn a dynion ifanc yn siarad am ferched
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael ag agweddau atgas tuag at ferched yng Nghymru, yn ôl cyn-ymgynghorydd addysg Llywodraeth Cymru.
Daw wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ynghyd â rhai awdurdodau addysg yng Nghymru, annog ysgolion i ddangos y gyfres deledu Adolescence i ddisgyblion.
Mae'r gyfres wedi sbarduno sgwrs genedlaethol am sut mae rhai bechgyn a dynion ifanc yn siarad am ferched.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n cydnabod y materion "pwysig, pryderus" sy'n cael eu codi yn Adolescence, ac yn "croesawu'r drafodaeth".
'Meddwl bod nhw'n funny'
Mae Newyddion S4C wedi clywed gan un rhiant sydd wedi gweld negeseuon mysogonistaidd ar ffôn ei mab.
"O'n i'n meddwl bo' ni'n deulu lle oedd o'n gwybod bod misogyny yn wrong," meddai'r fam, sydd am aros yn ddienw.
"Ma' mab fi mewn group chat ar WhatsApp efo plant dosbarth fo yn yr ysgol ac oedd 'na neges lle oedd hogan 'di gofyn cwestiwn digon syml, a wedyn oedd plentyn 'di ateb 'nôl yn d'eud, 'Women, since when do you have a choice?'
"A wedyn tri o hogia arall 'di licio hwnna wedyn, a ti'n gweld fan'na wedyn sut mae'n gallu developio i fod yn rhywbeth mwy, am bo' nhw'n meddwl bo' nhw'n funny."

Mae rhai awdurdodau addysg yn annog ysgolion i ddangos cyfres Adolescence i ddisgyblion
Mae'r gyfres yn codi'r llen ar iaith gudd sy'n cael ei defnyddio drwy liwiau ac emojis mewn sgyrsiau, yn benodol gan bobl ifanc.
"Mae'n rili pwysig i rieni checkio ffôns plant nhw," meddai'r fam.
"Ond hefyd ma' nhw'n gwybod am yr emojis yma a 'wan yn monitro ffôns plant nhw, a pryd mae'n eiriau mae'n hawdd gwybod be' ma' nhw'n sôn am.
"Os 'di o jyst yn emojis, 'sa gweld dot coch ddim yn canu alarm bells i riant heb wybod am yr emojis 'ma sy'n cael eu defnyddio."
Mae'r gyfres bellach ar gael am ddim i ysgolion ar draws Prydain, ar ôl creu argraff ar y Prif Weinidog Syr Keir Starmer, gyda rhai ysgolion yn ei drafod fel dosbarthiadau.

Bu criw o bobl ifanc o Ysgol Bro Morgannwg yn trafod y mater gyda gohebydd Newyddion S4C, Jacob Morris
Mae Ysgol Bro Morgannwg wedi bod yn trafod misogyny ac yn credu ei bod yn bwysig sicrhau lle i ddisgyblion drafod eu profiadau.
Un enw sy'n codi'n gyson mewn trafodaethau o'r fath ydy'r dylanwadwr dadleuol Andrew Tate.
"Oedd un bachgen yn trafod Andrew Tate a oedd o jyst yn mynd mor defensive am ideas e a jyst yn bod yn rili negyddol," meddai Katie.
"Roedd e yn Y Barri ac o'n i'n rili shocked yn clywed e, oherwydd oedd e'n lle o'n i'n gwybod pawb a oedd pawb yn rhannu yr un ideas.
"Ond mae wedi dod mas a dweud bod Andrew Tate efo fair opinions - mae'n rili weird."
Yn ôl rhai o'r bechgyn, dylanwadau ar-lein yw'r prif ffactor.
"Ma' rhai o ffrindiau fi bach fel defaid, dilyn be' ma' pobl yn dweud," meddai un.
"Falle bo' nhw'n clywed be' ma' nhw'n dweud ar-lein a chymryd e mewn i ystyriaeth a chytuno gyda be' ma' nhw'n dweud."

Dywed Lowri Jones fod "gwefannau cymdeithasol yn bwerus iawn mewn ffordd negyddol"
Yn ôl un athrawes, Lowri Jones, mae'r ysgol yn sicrhau bod gan ddisgyblion gyfle i drafod yr hyn maen nhw'n ei weld neu glywed ar-lein.
"Mae gwefannau cymdeithasol yn bwerus iawn mewn ffordd negyddol, a ma' hwnna yn anodd i ddadwneud, a'n anodd i wybod be' ma' nhw'n 'neud unwaith ma' pum munud wedi tri wedi mynd ma' nhw gytre, a s'mo ni'n gwybod be' ma' nhw'n 'neud," meddai.
"Mae angen mwy o arweiniad, a dyna beth mae'r dirprwy yn gweithio arno gyda ni ar hyn o bryd - cynnal y polisïau yna mewn lle o ran shwt ni'n delio gyda falle iaith neu ymddygiad misogynistic.
"Mae'n rhywbeth, yn sicr, nid jyst ni fel ysgol, ond hefyd y llywodraeth - mae angen mwy o fewnbwn yn fan'na."

"Fysen i bach yn ofalus wrth hyrwyddo prif ddadansoddiad Adolsence," medd Dewi Knight
Ond yn ôl cyn-ymgynghorydd addysg i Lywodraeth Cymru, Dewi Knight, nid yw pwyntio'r bys at blatfformau digidol yn unig yn deg, ac mae angen edrych ar y broblem yn ehangach.
"Fysen i bach yn ofalus wrth hyrwyddo prif ddadansoddiad Adolsence," meddai.
"Does dim wir lot o dystiolaeth bod y ffynonellau ar-lein [yn cael yr effaith fwyaf].
"Dylanwadau traddodiadol, teuluol, diwylliannol - nhw sydd dal i fod y prif ddylanwad ar y fath ymddygiad eithafol.
"Does 'na ddim digon o wybodaeth yn cael ei gasglu ar beth sydd yn digwydd ar lawr gwlad.
"Felly ma' angen sicrhau fod 'na ddealltwriaeth, fod data clir yno o beth sydd yn digwydd, y defnydd o'r dechnoleg yma, pwy sydd yn ei ddefnyddio fe a pryd."
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n cydnabod y materion "pwysig, pryderus" sy'n cael eu codi yn Adolescence, ac yn "croesawu'r drafodaeth".
Mae cefnogi plant a'r materion maen nhw'n eu hwynebu "yn hanfodol", yn ôl llefarydd.
"Byddwn yn mynd ati i barhau i gydweithio ag ysgolion i ddeall pa gefnogaeth bellach allwn ni ei gynnig."