Cors Crymlyn: Adfer 'un o drysorau byd natur Cymru'
- Cyhoeddwyd
Nid nepell o ganol dinas Abertawe mae hafan natur annisgwyl Cors Crymlyn.
Mae’n gors 300 hectar, 700 erw, ac yn un o'r ychydig gorsydd crynedig sydd ar ôl yng Nghymru lle mae'r gwlypdir yn crynu o dan eich traed.
Dywed y naturiaethwr Iolo Williams fod y safle yn "un o drysorau byd natur Cymru, ond does fawr neb yn gwybod amdano".
Mae'r warchodfa yn rhan o gynllun pum mlynedd, a ddaw i ben ddiwedd 2026, i adfer mawndir ar draws saith safle ar hyd a lled Cymru.
Cors Crymlyn yw un o brif safleoedd y prosiect, sydd wedi’i ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd ac yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r gwelyau hesg a’r corslwyni yn gartref i blanhigion prin, adar a phryfed y gwlypdir, a dyma'r mwyaf o'r corsydd crynedig sydd ar ôl yng Nghymru erbyn hyn.
Mae mawndiroedd yn gorchuddio 4% o arwynebedd tir Cymru - tua 90,000 hectar.
Mewn rhannau o Gymru mae’r mawndiroedd mewn cyflwr gwael ac angen eu hadfer.
Nod Llywodraeth Cymru yw treblu ei thargedau adfer mawndir, ac maen nhw eisoes ar y blaen i'w targedau.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies: "Rwy'n falch iawn o gadarnhau bod ein targedau uchelgeisiol i adfer mawndiroedd ar gyfer Ebrill 2025 wedi'u cyrraedd o flaen amser.
"Mae hwn yn gam enfawr ymlaen i hinsawdd a natur yng Nghymru.
"Mae Cymru yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur ac mae'r gwaith hwn yn mynd yn bell i sicrhau y gall y cynefinoedd gwerthfawr hyn oroesi ac addasu mewn hinsawdd sy'n newid."
Dywed Nick Thomas, rheolwr prosiectau strategol Cyfoeth Naturiol Cymru fod y prosiect o adfer Cors Crymlyn yn un heriol.
"Dros y blynydde mae'r lle wedi mynd yn fwy a mwy gwlyb.
"Mae’n sefyllfa sy'n wahanol iawn i lot o fawnrdiroedd eraill sydd yn sychu allan a wedyn rhyddhau lot o methane - lot o garbon deuocsid.
"Mae Cors Crymlyn yn rhy wlyb!"
O ganlyniad i'r gwlypdir, mae brwyn yn gorchuddio'r gors ac mae llawer o'r planhigion - gan gynnwys rhai prin ag anghyffredin - yn dechrau diflannu.
Felly'r sialens gyntaf yw lleihau lefel y dŵr ar y gors.
Mae'r gwaith yna wedi cyrraedd pwynt "allweddol", yn ôl rheolwyr y prosiect, wrth i lwybrau newydd gael eu gosod fel bod peiriannau trwm yn gallu dod i mewn i'r warchodfa i dorri'r brwyn a'r anialwch yn ôl.
Fe fydd llwyddo i daclo lefel y dŵr hefyd yn help i warchod yr anifeiliaid anghyffredin yn y gors, yn ôl Nick Thomas.
"Y prif drysor yw’r pry copyn enfawr – y great fen raft spider.
"Cors Crymlyn yw'r unig le yng Nghymru chi’n gallu ffeindio hwnna, a mae’n brin iawn hefyd ym Mhrydain i gyd."
Un sy'n cefnogi'r gwaith o adfer y gors yw'r naturiaethwr Iolo Williams, sy'n disgrifio'r safle fel un hynod werthfawr.
"Mae gwlypdir fel hyn yn holl bwysig," meddai, "ac mae'r gwlypdir arbennig yma, yn fy marn i, yn unigryw.
"Mae’n unigryw nid achos y bywyd gwyllt - er bod 'na gyfoeth yma - mae’n un o drysorau byd natur Cymru ond achos bod hi reit ar drothwy drws Abertawe."
Ychwanegodd fod adfer y corsydd yn bwysig am resymau diwylliannol ac economaidd, er mwyn denu ymwelwyr a thwristiaid ochr yn ochr â gwarchod bywyd gwyllt a bioamrywiaeth.
"Mae angen i ni fel Cymry ymffrostio llawer mwy am y gemau naturiol yma sydd ganddon ni, ac mae angen gwerthu’r lle 'ma'n llawer, llawer gwell."
Bomiau heb ffrwydro yn y gors?
Yn ogystal â heriau natur, mae hanes diwydiannol yr ardal yn creu problemau wrth adfer y gors.
Mae olion yr hen ddiwydiannau glo a chopr dal ar y safle.
Ond mae yna beryglon hefyd. Mae'r gors yn gymydog i hen burfa olew Llandarcy - y burfa gyntaf yn y Deyrnas Unedig.
Roedd y burfa yn darged i'r Almaenwyr yn yr Ail Ryfel Byd, ac mae olion y bomiau dal yn y gors, yn ôl Mark Bond - swyddog cyfathrebu ac ymgysylltu prosiect corsydd crynedig LIFE.
"Mae llawer o hanes yn yr ardal yma," meddai.
"Mae wyneb y gors drws nesa' i hen safle purfa olew Llandarcy.
"Yn yr Ail Ryfel Byd daeth y Luftwaffe i ollwng bomiau ar y burfa olew.
"Wrth gwrs, mae siawns fawr iawn nawr fod bomiau sy' heb ffrwydro yn y mawndir yma, felly mae’n golygu bo' hi’n anodd iawn gweithio mewn lleoedd fel hyn".
Mae Cors Crymlyn yn un o safleoedd gwlypdir pwysicaf Ewrop.
Mae'r gwaith o osod llwybrau ar wyneb y gors wedi dod i ben ac mae peiriannau trwm nawr yn gallu bwrw 'mlaen â'r gwaith o glirio tyfiant ac ailagor ffosydd.
Pan ddaw'r gwaith adfer i ben ymhen ychydig dros ddwy flynedd, y nod yw sicrhau y bydd y gors yn gyfoethog mewn bywyd gwyllt ond hefyd yn werthfawr wrth i'r mawn storio carbon.
Yn sgil hynny, y gobaith yw y bydd yn helpu gyda thargedau sero net er mwyn taclo newid hinsawdd i genedlaethau i ddod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2023